Chafodd Dora Williams, Cerrig Gleision 'rioed fabi, na gwr iddi'i hun, ac wedi colli ''rhen bobol' yn nechrau'r tridegau ymrodd i droi tyddyn caregog yng ngwynt Porth Neigwl yn amgenach tir ac i fagu stoc a ddenai borthmyn yno o bellter mawr.
Sonia R. T. Jenkins yn un o'i lyfrau am borthmyn y ddeunawfed ganrif yn gyrru'r gwartheg drosodd o Gymru i ffeiriau Lloegr; nid gwartheg a yrrwyd o Gymru i Loegr yn y tridegau ond hufen pobl ieuanc y genedl.