Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bradychu

bradychu

'Yr hyn yr oeddem ei eisiau oedd help i goncro Saddam.' Maent yn teimlo eu bod wedi cael eu bradychu.

Faint o Gymry Cymraeg sydd nid yn unig wedi gwerthu eu tai i Saeson ond sydd, hefyd, wedi gwerthu a bradychu'r Gymraeg wrth esgeuluso trosglwyddo'r etifeddiaeth Gymraeg i'w plant?

Prin y gwelwyd y fath wamalu a bradychu safonau gwâr ag a welwyd yn ymddygiad pobl fel Kinnock, Abse, George Thomas, Donald Coleman ac Ifor Davies y pryd hwnnw.

Ac er bod John Williams yn rhwygo ymaith ei fasg rhagrithiol yn y cyfarfod dathlu ar ddiwedd y nofel, nid edifarhau ei fod wedi bradychu'r achos a wna, nid ymddiheruo i'r gwrth-ddegymwyr eraill ei fod wedi tynnu gwarth ar yr egwyddorion y buont hwy'n brwydro'n ddiffuant drostynt, ond ymdrybaeddu mewn hunan-gyffes sy'n arddangosfa lafoeriog o'i ostyngeiddrwydd a'i onestrwydd!

'Doedd ei llygaid craff hi ddim wedi ei bradychu.

Er hyn, yr oedd y dyneiddwyr yn sicr yn ymdeimlo â bygythiad, ac yn wyneb hynny, yr oedd angen pwysleisio fwyfwy ogoniannau'r iaith Gymraeg a'r traddodiad Brytanaidd, ynghyd, wrth gwrs, a lladd ar y rhai oedd yn bradychu'r gogoniannau hyn drwy eu 'gollwng dros gof', a defnyddio ymadrodd Gruffydd Robert.

Mae rhai o'u harfau'r un fath, ac ychydig y mae eu gwisgoedd tlotaidd yn eu bradychu ynglŷn â'u teyrngarwch.