Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

braint

braint

Magwyd yma gymeriadau anturus a phenderfynol, fel John Roberts (Siôn Robert Lewis), awdur y pennill 'Braint, braint, yw cael cymdeithas gyda'r Saint', a chyhoeddwr Almanac Caergybi.

Y mae ymgyrch y Gymdeithas yn erbyn gorthrwm Saesneg y llysoedd cyfraith a holl gyndynrwydd y barnwyr a'r plismyn i gadw braint a rhagoriaeth iaith y Ddeddf Uno yn deffro anesmwythyd ar feinciau ynadon.

Braint ac addysg oedd darllen ei sylwadau treiddgar yn y Western Mail yn dilyn yr Eisteddfod -- bechod na fyddent wedi eu cyhoeddi cyn yr W^yl; efallai y gallen ni fod wedi osgoi llawer iawn o helbul.

Nid rhydd-ddeiliaid mohonom yn y byd ond tenantiaid a'n braint yw trosglwyddo'r stad yn iach i'r sawl a fydd yn ein dilyn yma.

Golygai credu hyn mai braint yng ngolwg y gorthrymedig oedd ymladd a dioddef.

Mae braint uniongyrchol gohebydd yn amlwg - cael bod yn llygaid ac yn glustiau i gynulleidfa na all fod yn dyst uniongyrchol i ddigwyddiad.

Eu braint a'u dyletswydd gyntaf oedd gwasanaethu ac amddiffyn y wladwriaeth a'r Ymerodraeth Brydeinig.

Braint oedd mynd o Dyddewi, cartref nawddsant Cymru, i Landdewi, lle yn ôl traddodiad y cyflawnodd Dewi Sant lawer o wyrthiau yn y chweched ganrif, i gyhoeddi i gynulleidfa o dros wyth gant o bobl fod yr Arglwydd Iesu Grist yn dal i iacha/ u trwy rym ei Eglwys a hynny am ei fod Ef yn ddigyfnewid yn Ei gariad, - "yr un ddoe, heddiw ac yn dragywydd." Ar ôl y cyfarfod dywedodd amryw fod y syniad o'r lesu yn iacha/ u yn yr ugeinfed ganrif yn un hollol newydd iddynt.

Derbyn Aelodau Braint yn ystod Oedfa Gymun mis Mai oedd derbyn dau berson ifanc o'r Ysgol Sul i gyflawn aelodaeth o'r Eglwys a'u clywed yn rhoi eu haddewidion i fod yn fyddlon i Iesu Grist.

Chwi sy'n meddu aur ac arian Dedwydd ydych ar ddydd Calan; Braint y rhai sy'n perchen moddion Yw cyfrannu i'r tylodion; 'Rhwn sy' â chyfoeth, ac a'i ceidw, Nid oes llwyddiant i'r dyn hwnnw.

Braint ac anrhydedd yw fod y frenhines yn dod i Aberystwyth ddydd ola' Mai.

Tyddewi, wrth gwrs, oedd prif gyrchfan y pererinion yng Nghymru, er na allai gystadlu o ran braint a bri â Sain Siâm neu Rufain neu Gaersalem dros y môr.

Y mae yn aelod o'r Eglwys Lan Gatholig trwy'r holl fyd, a dylai fawrhau braint yr aelodaeth aruchel honno.

Ni chyfrifant hi yn ddim i gywilyddio rhagddi, ac ni chyll y gwragedd eu braint wrth ei harfer.

"Evans, mae gen i camp bed ichi ­ mi fydd dipyn yn well na chysgu ar y llawr." Diolchais iddo'n wresog, a theimlwn fy mod yn cael braint fawr o gael cysgu mewn gwely iawn amheuthun o beth mewn lle fel Shamshuipo.

Ni thybiodd neb fod y plant yn grefyddol, er eu bod wedi mynychu digon o gyfarfodydd y Capel i hawlio braint saint yr Hen Destament i alw unrhyw un a bechai'n eu herbyn yn gythraul ac yn ddiawl hefyd.