Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

brake

brake

'Mae y dynion yn canmol cyfarfod gweddi fu yn y Nant neithiwr, ac y maent yn awyddus am gael cyfarfod gweddi awr ginio heddiw yn Cwt Brake.

Ar ôl bwyta dyma'r dynion yn dechrau casglu at y brake yn araf, ac eraill yn gwylio i edrych pa faint oedd yn cyrchu at fan y cyfarfod, a phwy oeddynt, rhai yn ymddiddan â'i gilydd, eraill yn edrych yn syn, ac eraill â'u golwg ar y brodyr yr oeddynt wedi clywed eu bod ymhlith y rhai fu'n gweddio yn Nant.

Erbyn hyn yr oedd cyfarfod y Nant yn cael llonydd, a'r dynion wedi cael testun newydd, sef fod cyfarfod gweddi i fod yn Cwt y Brake awr ginio.

'Hei, Wil, meddai un, 'glywaist ti fod cyfarfod gweddi yn Cwt Brake awr ginio?' 'Do,' meddai Wil.