Yn yr amser yma nid oedd galwad am ddim ond cerrig bras neu Fetlin fel y gelwid hwy.
A fyddai dim rhaid cael dþr a brws bras i'w sgwrio hi ar ôl gorffen chwaith.
Y braster a fwytewch, a'r gwlân a wisgwch, y bras a leddwch; ond ni phorthwch y praidd.
Dewislen Steil Ar y dechrau bydd arnoch eisiau defnyddio pob math o ffontiau a steil a bydd CYSGOD a thanlinellu bras mewn Ffontiau Blodeuog yn britho eich gwaith.
Ac wedi cyfaddef bod agendor rhwng delfryd ac ymddygiad yn fy arferion bwyta, megis mewn llawer o bethau eraill, rhaid imi ganmol y bacwn a'r wy a gawsom i frecwast bob bore cyn cychwyn ar y daith, a'r bara toddion bras nad yw dietegwyr heddiw yn ei gymeradwyo, y brechdanau ham, a'r caws, a'r tomatos a'r afalau a baciwyd beunydd ar ein cyfer.
Yn naturiol, does dim modd bwrw golwg feirniadol o ddifri ar bum cyfrol wahanol iawn i'w gilydd o fewn cwpas erthygl fer: hwyrach, serch hynny, fod rhywfaint o bwrpas mewn croniclo bras- argraffiadau sy'n codi o ddarllen cynifer o stori%au gwahanol y naill ar ôl y llall o fewn ychydig ddyddiau, a'r cyfan ohonyn nhw, rhaid dweud, yn gynnyrch llenorion go iawn sy'n grefftwyr yn y maes ac sydd, o'r herwydd, yn gwybod beth y maen nhw'n ceisio'i wneud.
O dan ei lythrennau bras: BETH AM YFORY?
Gellir defnyddio bras neu eidalaidd i ddangos pwyslais ond defnyddiwch hwy yn gynnil.
Maen nhw wedi cymryd cam bras tuag at y rownd derfynol a gêm debygol yn erbyn Wrecsam sydd hefyd â dwy gôl o fantais dros Y Barri ar ôl eu gêm cymal cynta' nhw.
Meddai ar wyneb gwridog, dannedd anwastad, a chnwd bras o wallt fel sypyn o grawcwellt wedi'i gropio.
Gwelodd Willie lythrennau bras, "The Imperial Hotel" yn edrych i lawr arno.
Darlunia afon Gymreig - afon bywyd os mynnwch - yn dolennu'n araf drwy diroedd bras i gyfeiriad gwawr uchelgais: ac i ble y mae'n dirwyn?
Fe fydd Cyfrifiad 2001 yn fesur bras o sefyllfa'r Gymraeg yng Nghymru.
Trowyd ffriddoedd serth a'r ucheldiroedd yn borfeydd bras, traenwyd y corsydd, plannwyd miloedd o erwau o goed bytholwyrdd felly collwyd cynefinoedd gwyllt, - y coedlannau derw a'r rhosydd a'r grug, a hefyd yr arferion hynafol a ganiataodd i laweroedd o blanhigion ac anifeiliaid ffynnu mewn cydberthynas â dyn.
Nid oedd yn disgwyl pob manylun - ond cynllun bras.
Ond maen amhosib anwybyddu yr hyn a ddywedodd David Dobson yn y Dail Express yn dilyn y digwyddiad a roddodd gymaint o wefr i ohebwyr a gwneuthurwyr brâs.
Roedd cytundeb bras â nod ac amcanion y ddogfen ymgynghorol.
Fe gyflwynodd TAC agenda bras o bynciau trafod ar gyfer y cyfarfod.
Cynigir canllawiau bras i athrawon weithio arnynt ymhob un o'r meysydd dysgu a phrofiad yn y llyfr Plant dan Bump yn yr Ysgol.
Taranau Mehefin yn argoeli ydau bras.
Gan fod marchnad iddynt yr oedd llaweroedd o bobl yn cael bywoliaeth o werthu cwningod bywoliaeth eithaf bras mewn rhai achosion - ac yn naturiol, nid oedd y clwyf yn achos llawenydd i'r rheini.
Sicrhaodd fod mwy nag un o'i naw brawd a chwaer yn cael swyddi bras.
Y mae'r gyfrol ragorol hon yn tystio i'w allu a'i wybodaeth ac yr wyf siwr ei bod hi hefyd yn ernes o gynhaeaf bras i ddyfod.
Yn achos y projectau blaenoriaeth, rhoddir amlinelliad bras o'r math o waith y gellid ei gyflawni yn nhermau: a) y broblem i'w hystyried, a b) y camau ymchwil i'w dilyn.
Yna, ar ôl dychwelyd i ddiddosrwydd y wâl daw bwyd bras trwyddi yn y tail a bydd hithau yn ei gnoi a'i dreulio'n hamddenol.
Gallai Eglwys Loegr wneud cynhaeaf bras o'i hynafiaeth, ac yn enwedig felly'r rhai a bleidiai egwyddorion Mudiad Rhydychen, gan fwrw sen ar yr enwadau Ymneilltuol fel rhyw chwyn crefyddol a dyfodd yn ddiweddar.
Wedi tyllu tipyn ar y cerrig bras sydd ar lawr maent yn llenwi'r twll o'r bron hefo powdr ac yna rhoi tipyn o faw i orffen ei lenwi ac yn ei guro i lawr er mwyn ei wneud yn airtight a thanio'r fuse yr un fath â'r twll mawr.
Trwy gyf-weld, ar y cyfan, y gwneid y gwaith ymchwil, gan ysgrifennu bras-nodiadau yn ystod y dydd, a'u troi'n adroddiadau ffurfiol yn y diwedydd.
Dyma gam bras o gofio nad oedd Cymraeg yn yr ysgol o gwbl oddieithr yn y cyfnod pan fu Gwyn Daniel yn ceisio'i orau glas i'w Chymreigio.
Erbyn hyn anifeiliaid gaiff loches mewn rhai o'r hen gartrefi, fel Tai Fry a Llechwedd Llyfn, ac amheuwn a ŵyr un o drigolion yr ardal heddiw union safle y cartrefi a adwaenid gynt fel, Tyn-y-Maes, Ty'n-y-gornel, Ty'n-yr-ardd, a Bryn Bras.
Amcangyfrifon bras yw'r ffigurau a gynigir yn y tabl.
PYTHEFNOS YM MHARADWYS dyna oedd y pennawd mewn llythrennau bras ar dudalen papur newydd fy nghyddeithiwr ar y trÚn.
Pan ofynnwyd i Menem unwaith beth oedd ei ofn mwyaf, atebodd: 'Duw - a Zulema.' Cafodd hoffter y ddau o fywyd bras ei feirniadu'n llym droeon.
Yr oedd trydedd haen, sef y croesaniaid neu'r beirdd ysbyddaid, ond ni chadwyd dim o'u gwaith hwy: y mae'n bur sicr mai dychangerddi bras eu cynnwys ac amrwd eu crefft oedd y rhan fwyaf ohono.
Nid oeddwn, ac nid wyf hyd heddiw yn hoffi cig bras a byddai Mam yn torri'r braster i ffwrdd pan oeddwn yn hogyn bach.
Doedd y bryniau ddim mor uchel, ac yn lle coedwigoedd roedd yno feysydd bras, a gwartheg a defaid yn pori'r borfa ir.
'Roedd y diwydiant glo a fu unwaith yn talu am y bywyd bras yn awr yn dechrau dioddef dirwasgiad eto.