Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

brasach

brasach

Ynddynt y canfu ef a'i gymheiriaid y cyfle i ehangu gorwelion eu hawdurdod ac i sicrhau swyddi brasach ar lefel leol, er enghraifft, Dirprwy-Raglawiaeth, Aelodaeth Seneddol ac Uchel Siryfiaeth.

Wrth wneud cyllideb am flwyddyn, yn aml fe wneir amcangyfrif manwl am dri mis, dyweder, ac un brasach am weddill y cyfnod.

O fewn blwyddyn 'roedd Mr Garel Jones wedi symud i borfeydd brasach' os llai saliwbriaidd, yn Watford.

Gellir cael darnau brasach ar gyfer cetyn ac rydym hyd yn oed yn gwerthu Twist sef y darnau o baco a gaiff eu naddu a'u torri gyda chyllell gan yr ysmygwr." O ystyried nad yw Eirlys Williams yn smocio ei hun mae'n gryn awdurdod ar gyfrinachau'r mwg.

Perthynai Bowser i deulu a ddeilliai o Swydd Efrog o ardal Castle Howard ond yn araf gwasgarodd y teulu fel y ceisiai'r aelodau ifanc ledu eu hesgyll i chwilio am borfeydd brasach.