Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bratiaith

bratiaith

Wyddoch chi mae cymaint o Saesneg a bratiaith ar y sianel honno - rwy'n ofni yn wir dros y Gymraeg.

Yn y ddwy iaith, er mwyn sicrhau bratiaith ddi-statws.

O'r tueddiadau hyn, y canol yw'r un sydd fwyaf derbyniol o safbwynt datblygiad pynciol a ieithyddol y plentyn gan ei fod yn caniatau bratiaith wrth archwilio syniadau mewn grwp, ond yn arwain y disgybl hefyd, i gyfeiriad iaith fwy safonol mewn sefyllfaoedd dosbarth cyfan mwy ffurfiol.

Fe fydd drama newydd gan Sion Eirian yn ymwneud â phuteiniaid Cymraeg eu hiaith ac fe fydd nofel gan John Owen o'r Rhondda yn rhoi 'bratiaith' a rhegfeydd yng ngenau plant yr ysgolion Cymraeg.

* defnyddio bratiaith yn bwrpasol er mwyn sefydlu a/ neu gadw'r berthynas rhwng athro a dosbarth, neu'n anfwriadol oherwydd diffyg polisi.

"Efallai y bydd rhai pobol yn dweud, 'os dyna safon iaith ysgolion Cymraeg y De-ddwyrain, byddai'n well hebddyn nhw'." Iddo ef, nid bratiaith yw'r gymysgedd o Gymraeg a Saesneg sy'n cael ei siarad gan bobol ifanc y deffroad iaith, gyda'u cam dreiglo a'u brawddegau 'anghywir'; iddo ef, mae hi'n dafodiaith ynddi ei hun, yn iaith yr oedd actorion amlwg fel Richard Lynch neu Jâms Thomas yn ei siarad pan oedden nhw'n iau.