Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

brawddeg

brawddeg

Hwyrach y maddeuir imi am awgrymu fod Paul wedi gweld pethau'n glir ryfeddol a'u crynhoi mewn brawddeg fer, "Nid oes na gwryw na benyw canys chwi oll un ydych yng Nghrist Iesu%.

Brawddeg bwysica'r iaith!

Mewn brawddeg, felly, gellir disgrifio'r model a bortreadir yn Ffigur I fel model cydbwysedd rhannol, tymor byr, dau sector.

Neu mewn brawddeg: Mae Gwilym yma.

Ar yr un pryd y mae'n bur ochelgar ynglŷn â defnyddio'r gair 'dylanwad'; e.e., ar ôl brawddeg aneglur sy'n awgrymu fod rhaid fod arferion y Trwbadwriaid wedi dylanwadu ar arferion y Gogynfeirdd, 'fel y rhaid bod y naill wedi dylanwadu ar y lleill, neu eu dyfod o ffynhonnell gyffredin i ddechreu', â rhagddo i sgrifennu.

A allant roi crynodeb mewn deg brawddeg o'i gynnwys?

Brawddeg bwysica'r iaith ydyw o safbwynt cadw'r iaith fel iaith i'r dyfodol, o safbwynt ennill y tir a gollwyd yn ôl, o safbwynt buddugoliaeth ym myd dysgu.

Gellir ailadrodd brawddeg o ragair Brad sy'n dweud 'nad hanes yw drama hanes eithr gwaith creadigol; dychmygol yn y pen draw yw'r holl gymeriadau.'

Ar garreg arall, mewn llythrennau cyhyrog, sgwâr, roedd brawddeg syml wedi'i cherfio uwch bedd y bardd Kazys Boruta: `Ewyllys yr awel rydd a chwyrli%o'r goedwig las.' Ymlaen heibio tro yn y llwybr ac roedd cerflun o angel fel petai ar fin codi oddi ar ymyl dibyn.

Byddai'n hoffi sôn am y wers 'English' honno pan gafodd dasg gan Mr Pritchard i lunio brawddeg Saesneg yn cynnwys y gair cakes.

Dyna beth oedd brawddeg wreiddiol.

A brawddeg fawr ydyw: pan gnulia'r gloch, meddai, na ofynnwch am bwy, canys mae'n cnulio amdanoch chwithau hefyd, oblegid nid rhyw ynys ddigyswllt yw dyn, ond cyfandir, ac megis ag y mae'r cyfandir ychydig yn llai am bob torlan ohono a syrth i'r môr, felly ninnau, canys gyda phob un a gollir y mae rhywfaint ohonom ninnau hefyd wedi ei golli.

"Fu neb erioed yn fwy gwerthfawrogol o bopeth nag o." Brawddeg yn portreadu alun Bwlch i'r dim.

Felly, yn yr un modd, er y byddai rhai gramadegwyr yn manylu mewn ffordd wahanol, fe ddwedwn i mai yr un hanfod o ddibynnu sydd mewn brawddeg fel 'Lladdodd Gwilym y ci.' 'Gwilym' eto yw'r canol.

Mynnodd Sam imi ei ddileu, a bu'n rhaid dileu brawddeg gyfan oherwydd hynny.

Yr Enw sy'n dal y naill neu'r llall, ac y maent yn dibynnu arno: y naill, i adeiladu ymadrodd, y llall i adeiladu brawddeg.

Ond ni allai Hugh Evans ddeall brawddeg o araith y gwr tafodlyfn; deuddeng mil o eiriau, ac nid iaith oedd ganddo wedi'r holl lafur a dwndwr gyda'r geiriadur.

Nod dysgu iaith yw nid llawer o ymadroddion a brawddegau, ond Tafod - sef mecanwaith cenhedlu iaith, pob ymadrodd, pob brawddeg.

Olyniad o arwyddion ieithyddol oedd brawddeg i Saussure, yn meddu ar ddau fath o berthynas: (i) perthynas syntagmatig, sef trefn arbennig elfennau'r frawddeg, a (ii) perthynas baradigmatig, sef perthynas rhwng yr elfen - yr arwydd - sy'n bresennol a'r rhai nad ydynt yn bresennol, megis y berthynas rhwng ffurfiau berfol fel mae, oedd, bydd, etc, a allai weithredu yn yr un lle mewn brawddeg.

Da y'i dywedwch; ond y tro hwn y cwbl dw-i am ei drafod yw un frawddeg yn unig ac esbonio'n union pam mai hon yw brawddeg bwysica'r iaith.

Datblygiad o hon, ymhelaethiad neu estyniad neu aralleiriad, dyna yw pob brawddeg.

Cawsom ddarlithwyr, hyfforddwyr gwych yng ngwahanol adrannau byd amaeth ac y mae llawer brawddeg a chyngor yn canu yn y cof o hyd.

Dau air 'hyll', a dau yn unig, a ddefnyddiai, sef 'diawl' ac 'uffar' (nid 'uffern' fel pobl y Rhos) ac fe'i defnyddiai ym mhob brawddeg bron.

Dibyniaeth gydberthynol Dyna orffen felly y rhan gyntaf o'r hyn sydd gen i i'w ddweud - sef pam mai hon yw brawddeg bwysica'r iaith ac yn graidd i gynllunio'r dysgu iaith.

Hon yw brawddeg y brawddegau.

Daw'r adran i ben yn hollol ffurfiol â brawddeg glo draddodiadol, a blwyddyn a dwy a thair y bu ef yn hynny onid oedd ei glod wedi ehedeg dros wyneb y deyrnas, ac y mae'r awdur wedi llwyddo i adrodd anturiaethau sy'n dechrau heb gyswllt â'i gilydd ond sy'n cad eu tynnu o wahanol gyfeiriadau yn un hanes cyflawn a gorffenedig.

Yr oedd yr unig ffordd i sicrhau y byddent yn cael gorffen brawddeg.

Dau Lyfr Bwrdd Bach ar gyfer y plant fenga, gyda lluniau lliw dros ddwy dudalen a brawddeg o stori i gyd-fynd a phob llun.

Ffurfiau lluosog, diffiniad, brawddeg disgrifiadol, lluniau lliw llawn

Y tair elfen hyn yw cynddelw pob brawddeg yn yr iaith Gymraeg: y brics hanfodol - yr holl frics a'r unig frics - ar gyfer adeiladu pob brawddeg sydd ar gael.

Geiriau + brawddeg+llun lliw llawn, ar batrwm 'Chambers First Picture Dictionary'

Does dim dwywaith fod William Owen Roberts yn gallu trin geiriau, yn gallu dweud pethau bachog â'i dafod yn ei foch, ac yn deall rhythm a rhediad brawddeg.

I ddadansoddi brawddeg yn llawn, rhaid astudio'i pherthynas syntagmatig a'i pherthynas baradigmatig.

Canlyniad hyn oedd cael ambell ymadrodd a brawddeg a oedd, a dweud y lleiaf, yn anystwyth os nad yn amhersain.

Brawddeg bwysica'r iaith.