Mae'n dechrau gyda'r wyddor ac yna daw ymarferion i'r disgyblion, yn dechrau gyda brawddegau syml ac yn mynd yn anos o wers i wers.
Pan ymwelodd Mrs Thatcher a Rwsia fe groesawodd Mr Brezhnev hi, medden nhw, drwy ddarllen yn llafurus y brawddegau a oedd wedi eu rhoi ar bapur ar ei gyfer.
Mae'r llyfr ar gyfer plant sy'n dysgu Cymraeg wedi cael ei sgwennu mewn iaith symlach gyda brawddegau byrrach gan wneud y stori'n hawdd iawn i'w dilyn.
Arferai gynghori llenorion ifanc i ddefnyddio geiriau byrion, perthnasol, a brawddegau clir synhwyrol, gan fod papur yn rhy ddrud i'w wastraffu ar ddwli, a darllenwyr yn rhy brin a gwerthfawr i'w colli am byth.
Clywodd y prynwr o Groesoswallt am Oliver Thomas a'i ddarllen, nid hwyrach; a chlywodd y prynwr o Gaerfyrddin, oddi ar dafod ei dad a'i dad-cu, rai o benillion y Ficer Prichard; - ond yn eu gweithiau hwy yr oedd trefn ein lleferydd ar y brawddegau ac ystyron sobr ein byd-bob-dydd i'r geiriau.
Un o'r cysylltiadau hyn yw Sylvia, merch o Ariannin sy'n tanio brawddegau Sbaeneg yn gyflymach na kalashnikov.
Nod dysgu iaith yw nid llawer o ymadroddion a brawddegau, ond Tafod - sef mecanwaith cenhedlu iaith, pob ymadrodd, pob brawddeg.
Prin y mae angen gwell dehongliad o'r modd yr oedd y safbwynt cenedlaethol yn tyfu yng Nghymru rhwng y ddau ryfel na'r brawddegau llwythog hyn.
Cwmanai Rod yn ei ymyl ar stôl uchel yng nghefn y lab (eu cuddfan arferol!) yn cyfansoddi brawddegau brwnt yn ei lyfr Ffis a Cem gan wneud ei orau glas i danio diddordeb Guto mewn limrigau coch.
...ie brawddegau wrth gofio Hiraethog y cynefin unigryw sydd er ei foelni ymddangosiadol mor gyfoethog ei gefndir.
Hon yw brawddeg y brawddegau.
Byddai'n bwrw i'r darllen â brwdfrydedd gwyntog, ond os digwyddai fentro i faes cymhleth y 'bennod gladdu' yn y Corinthiaid, byddai'n dueddol o faglu ar draws brawddegau aml-gymalog yr Apostol Paul.
Cynddelw y brawddegau oll.
"Efallai y bydd rhai pobol yn dweud, 'os dyna safon iaith ysgolion Cymraeg y De-ddwyrain, byddai'n well hebddyn nhw'." Iddo ef, nid bratiaith yw'r gymysgedd o Gymraeg a Saesneg sy'n cael ei siarad gan bobol ifanc y deffroad iaith, gyda'u cam dreiglo a'u brawddegau 'anghywir'; iddo ef, mae hi'n dafodiaith ynddi ei hun, yn iaith yr oedd actorion amlwg fel Richard Lynch neu Jâms Thomas yn ei siarad pan oedden nhw'n iau.
Gallai gyfansoddi brawddegau bachog a byw, a gwyddai fod amser a lle priodol i ddefnyddio sebon a sgrafell.
Yn aml y mae plentyn yn siarad mewn ffordd ddealladwy ymhell cyn iddo fod â rheolaeth lawn dros seiniau iaith ei gymuned a gall pob defnyddiwr iaith hyfedr saernio brawddegau er nad oes ganddo, o angenrheidrwydd, ddealltwriaeth lawn o "ramadeg" ffurfiol llunio brawddegau.
Pan oedd yn ddigon agos cyfarchodd y brodorion gyda'r brawddegau Arabeg arferol, ond ag acen ddieithr.