Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

brechdanau

brechdanau

Gorfod chwilio am ryw chwe throedfedd o dywod go lân i barcio'r corff, y bwced a'r rhaw a'r holl geriach a chael tywod yn crensian rhwng ein dannedd wrth fwyta'r brechdanau ac yn rhedeg yn afon fach ar hyd y tudalennau rydych chi'n ceisio'u darllen.

llyfrau, am yr ail neu'r trydydd tro weithiau, yn ystod ei hawr ginio wrth fwyta'r brechdanau y byddai ei mam yn eu gwneud iddi.

Ac wedi cyfaddef bod agendor rhwng delfryd ac ymddygiad yn fy arferion bwyta, megis mewn llawer o bethau eraill, rhaid imi ganmol y bacwn a'r wy a gawsom i frecwast bob bore cyn cychwyn ar y daith, a'r bara toddion bras nad yw dietegwyr heddiw yn ei gymeradwyo, y brechdanau ham, a'r caws, a'r tomatos a'r afalau a baciwyd beunydd ar ein cyfer.

Yn ôl y drefn arferol, roedd pawb oedd wedi mynd ar y trip wedi cyfrannu ychydig o newid mân 'fel cydnabyddiaeth i'r dreifar', ac rwan fod pawb arall wedi disgyn o'r bws oddi allan i'r post, fe estynnodd Elsie Williams y cwbl i Elfed: swp o ddarnau dwy geiniog a phum ceiniog ac ambell bisyn deg wedi eu casglu mewn pecyn marjarîn oedd yn dal i gynnwys ychydig friwsion ar ôl brechdanau rhywun.

Brechdanau Banana a Gwynt ar ôl Ffa gan Myrddin ap Dafydd.

A gan fod y tywydd yn fwll, roedd dau neu dri o bryfaid mawr Cumberland yn glanio ac yn hedfan i ffwrdd fel awyrennau yr RAF oddi ar y brechdanau - os medrai neb eu galw nhw'n hyn.

Mae ymgolli fel hyn yn golygu nad yw realiti yn bod iddyn nhw." Mae'r Parchedig Densil John yn gweithio ymhlith y digartref yng Nghaerdydd gyda Chapel y Tabernacl, Yr Ais, lle mae'n weinidog, yn paratoi paned o de a brechdanau ar gyfer rhai o bobl ddigartref y brifddinas bob Sul.