Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bregethu

bregethu

"Doedd gen i ddim rhyw lawer o feddwl ohoni hi, wir.' 'A chwithau'n mynd i bregethu,' meddai.

'Hawlio rhyddid cydwybod a rhyddid i bregethu'r efengyl oddi ar gariad ati - dyna ei waith mawr'.

Oblegid nid oedd dim i'w glywed fel arfer ond sŵn rhegfeydd, a phob ffurf ar hapchwarae, ac yr oedd clywed am bregethu a gweddi%o'n taro'n hynod o newydd.

Ar ei orau, try ei bregethu'n berfformiad esthetig ac ar ei waethaf yn ddiflastod amherthnasol.

Nid twymyn bregethu Llandinam a yrrodd Sarah a minnau i Drefeca, y rheswm lleiaf oedd hynny.

Ei daith ffurfiannol gyntaf oedd honno o'i henfro i Wrecsam, lle cafodd ei dro%edigaeth o dan bregethu Walter Cradoc: ei berthynas â Cradoc yw pwnc Pennod IV Morgan Llwyd: ei gyfeillion a'i gyfnod.

'Roedd yn rhaid i bob ymgeisydd am y weinidogaeth fynd i bregethu ar brawf i rai o eglwysi'r Henaduriaeth.

Dyna fy nghred ac y mae'n gywir dweud mai mewn gwasanaethu'r Efengyl trwy bregethu a hyfforddi myfyrwyr y cefais y boddhad dyfnaf.

Taith Bregethu

Ond yn awr sylweddolais y byddai mynd i bregethu heb het yn rhywbeth hollol anweddus yng ngolwg y saint.

Y gwir amdani, a dyna ran o ergyd ganolog Dr Morgan yn ei lyfr, yw fod math newydd o bregethu wedi dechrau blodeuo at ddiwedd y ddeunawfed ganrif a bod haid o bregethwyr wedi mabwysiadu'r dull hwnnw.

Yr oedd y galwadau arno o Gymru, i bregethu ac i bwyllgora, yn ddiarhebol fynych, a threuliai lawer iawn o'i amser felly yn gwasanaethu yn Gymraeg, yng Nghymru.

Ond nid pawb a gymeradwyai'r drefn hon o bregethu teithiol, oblegid rhoddai gyfle i rai cymeriadau digon brith ac annheilwng i fanteisio ar garedigrwydd yr eglwysi, a daeth amryw o 'wŷr y gwithe allan o waith yn crwydro'r wlad i bregethu' yn destunau gwawd a dirmyg.

Nid oedd ei sel efengylaidd wedi ei gyfyngu i'r Cymry un unig, gan iddi ddylanwadu yn fawr ar yr Undeb Eglwysi i wahodd cenhadwr Spaeneg i bregethu i'r "natives", fel y byddai hi'n dweud.

Yr hyn a'i cythruddodd oedd cyhuddiad pobl ei fod yn cael ei dalu am bregethu.

Y tro yma dewisodd bregethu ar farn Duw.

Gwybod fod tynged pob pregethwr yn 'i feddiant o, ac y gallai estyn cymorth a chalondid neu siomiant a phryder i bob un a ddeuai yno i bregethu?

Dyma ddynion na chlywir mwy na mwy am eu dawn bregethu ond yr oeddent yn cyfuno syberwyd ac ysgolheictod y traddodiad hyn gyda chroesawu'r tymhestloedd pentecostaidd a brofasant yn ystod eu gweinidogaeth.

Rhoes ganiatâd iddynt bregethu'r ffydd Gristnogol ac i droi pobl i'r ffydd honno.

"Bu+m chwant rhoi'r gorau i'r gegin gawl a drefnwn yn y fan hon ond mae fy ngweithwyr yn dweud wrthyf mai'r cawl a'r bara sy'n cael eu rhannu gan y Genhadaeth yw'r unig fwyd a gaiff rhai o'r trueiniaid yno." Ar ôl iddi hi gyrraedd, yr hyn a welodd Pamela oedd anferth o ddyn a barf drwchus ganddo yn dringo i'r llwyfan i bregethu.

Pan gyrhaeddodd ei gartre dywedodd wrth ei wraig na fyddai byth yn derbyn galwad i bregethu yn yr eglwysi hynny wedyn.

Ac yr oedd y tâl, meddai'r cofnodion, am "bregethu i'r Cymry yn y mynyddoedd", lle bynnag yn union oedd hynny.

Un stori am gymeriad felly a adroddai oedd honno arn y pregethwr cynorthwyol hwnnw - a alwyd ryw Sul i bregethu mewn dwy eglwys, ryw dair milltir oddi wrth ei gilydd.

Pregethu Yr oedd y cyfnod hwn yn nodedig am ei bregethu.

Wedyn, pan ddeuai pregethwr i'r eglwys honno, a phlesio'r dyn llyfr bach, byddai hwnnw'n galw arno o'r neilltu ar ddiwedd yr oedfa ac yn gofyn iddo ddod yno i bregethu'r flwyddyn ddilynol.

Ofnwn fod Rhagluniaeth wedi dweud yn eglur nad oeddwn i fynd i'r coleg, ac os felly ei bod yn dweud ychwaneg sef nad oeddwn i bregethu; oblegid dywedasai Abel wrthyf fwy nag unwaith na ddylai un gŵr ieuanc yn y dyddiau goleuedig hyn feddwl am y weinidogaeth os nad oedd yn penderfynu treulio rhai blynyddoedd yn yr athrofa; a thybiwn y pryd hynny fod yn amhosibl ymron i Abel gyfeiliorni mewn barn.

Rai misoedd wedyn daeth yr Iacha%wr Carismatig, y Parchedig Peter Scothern, i ardal Llanbedr Pont Steffan i bregethu'r efengyl ac i iacha/ u cleifion.

Am iddo grwydro cymaint i bregethu, a phregethu weithiau bedair-a phum gwaith y dydd, y rhwygwyd y wedd ar Harris onid oedd yn welw a rhychlyd ei wyneb yn ddeg ar hugain oed.

Damweiniodd i Dr Parry, Y Bala, ddod i bregethu i Gefn Brith, ac yn Nhy'n y Gilfach y byddai pregethwyr arfer â lletya.

Efallai y byddai wedi bod yn well pe na bai mor barod i bregethu'n erbyn rhyfel a lladd, ond pwy a all warafun i rywun ifanc mor llawn o sêl rhag mynegi'i gredo bersonol ei hun, yn enwedig o bulpud yr Un a lefarodd y geiriau 'Câr dy elynion', i fyd a oedd yr un mor gibddall â'r un yr oedd y gweinidog yn byw ynddo.

Gwyddom i Seisyll, abad Ystrad Fflur deithio i Lanbedr Pont Steffan i gyfarfod â Baldwin, archesgob Caergaint pan ddaeth hwnnw ar ei daith enwog trwy Gymru i bregethu'r Drydedd Grwsâd.

Ceisiai adnewyddu ffydd ei bobl trwy bregethu efengyl a darddai o'i thraddodiad ei hun: cyhoeddai gyflawniad yr amser a'i egluro trwy sôn am y gobaith yn ysgrythurau ei genedl am oes fesianaidd, oes sanctaidd, a'i chyfiawnder a'i chariad yn amlygu holl angerdd ac arddeliad yr Ysbryd.

Cyhuddwyd ef gan un o'i gyd-athrawon, ymhen yr wythnos, o bregethu heresi ac fe'i gwaharddwyd rhag pregethu yn y Brifysgol am ddwy flynedd.

Y cam nesaf oedd mynd i bregethu 'ar brawf' i rai o eglwysi'r Cyfarfod Misol.

Mae sôn iddynt bregethu yn yr awyr agored i Rhys ap Gruffydd a'i dri mab.

Dau arall a ffurfiodd y cwmni hwnnw a aeth o gwmpas i bregethu a chenhadu oedd Gerallt Gymro ac Ioan, abad Hendy-gwyn.

Priodolai Burgess hyn yn rhannol i Seisnigrwydd yr Eglwys Wladol ac anallu ei chlerigwyr i bregethu yn Gymraeg, a gwnaeth ei orau i osod clerigwyr Cymraeg eu hiaith mewn plwyfi Cymraeg.

Yno roedden ni'n dysgu sut i ddysgu eraill, sut i ymweld â'r claf, sut i bregethu, sut i wrando; yr holl grefftau roedd eu hangen ar offeiriad, a'r cwbwlan yr un teitl â 'Pastoralia'.

Pregethu Pan drown i roi sylw i nodweddion y Diwygiad, rhaid rhoi'r lle anrhydedd i bregethu.

Y gwahaniaeth rhyngddynt oedd fod un garfan - y mynaich traddodiadol - wedi eu cyfyngu i fynachlogydd ac wedi cymryd fel eu prif orchwyl gynnal y cylch o wyth gwasanaeth canonaidd ddydd a nos; tra oedd y lleill - y Brodyr - yn cael gadael eu priordai er mwyn mynd ar hyd y wlad i bregethu, gan gardota am eu cynhaliaeth wrth fynd.

Rhoddwyd iddo hefyd drwydded gyffredinol i bregethu, fel nad oedd angen iddo chwilio am ganiatâd pob esgobaeth i bregethu ynddi yn ystod ei ymweliadau.

Edmygwyd ei ddewrder a'i egwyddorion, ond wedi pum mlynedd o bregethu ac ymdrechu i fugeilio'i braidd, penderfynodd y byddai'n well symud.

A dyna'r dyn ieuanc yn ymestyn tros gwr y sêt lle roedd Hugh Evans ac yn gofyn yn lled ddistaw i'r ddynes ieuanc: 'Wyt ti am weiddi heno?' Troes hithau tan wenu, ac ateb: 'Ydwyf, os wyt ti am wneud.' Daeth y pregethwr i mewn, dechreuodd bregethu.

Ac wrth bregethu twymodd iddi ac ymosod yn hallt ar bethau fel gwisgoedd defodol, yr offeren, a llawer o'r arferion eglwysig.

Aeth i bregethu i Ddyffryn Clwyd ryw Sul.

Os oeddwn wedi disgwyl rhywbeth hurt, fel miloedd o blant yn canu a dawnsio i gyfeiliant darlleniadau o'r Llyfr Gwyrdd sy'n cynnwys doethinebau Gadaffi, fe sylweddolais yn fuan mai ysgolion oedd y rhain i bregethu undod Arabaidd yn erbyn y gelyn Iddewig.