Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bregethwr

bregethwr

Y mae'n ddiwinydd praff, yn esboniwr diogel, yn bregethwr campus, ac yn weinidog ffyddlon yn holl waith ei swydd.

Roedd Derfel am beth amser yn bregethwr cynorthwyol gyda'r Bedyddwyr, ac yn aelod o gylch llenyddol blaenllaw a oedd yn cynnwys Ceiriog a Chreuddynfab.

Bu yn Bregethwr Cynorthwyol am flynyddoedd, ac yn gymeradwy yn arbennig yn ystod y blynyddoedd olaf.

Dowdle, y giard rheilffordd a gafodd droedigaeth oedd y cawr hwn o bregethwr.

Ynddi adroddir hanes y bardd 'mewn capel llwydaidd' yn gwrando ar hen bregethwr yn annog rhinweddau diweirdeb a hunanddisgyblaeth yn enw 'y Duw fu ar y Pren'.

Yn bur aml byddem yn dysgu testun y Sul cynt a rhoddais fy nghas ar ambell bregethwr am ei fod wedi codi testun go fawr.

Het a gwasgod Pwy fasa'n meddwl fod het a gwasgod yn bethau mor hanfodol bwysig i bregethwr, yntê?

Roedd blodau prydferth ar bob sil ffenestr ac agorwyd yr eglwys gan bregethwr gwâdd o Lundain.

Mi ddôth y dyn llyfr bach ata i ar ddiwedd yr oedfa bore Sul a dweud wrtha i yn blwmp ac yn blaen na chawn i byth fynd yno wedyn am fy mod i'n rhoi oel ar fy ngwallt.' O drugaredd, 'roedd gan y bachgen hwnnw gryn dipyn o synnwyr digrifwch ac fe ddaeth yn bregethwr poblogaidd iawn ac yn un o arweinwyr 'i enwad - er 'i fod o'n dal i roi od ar 'i wallt.

'Da, 'ngwas i, tasat ti ond yn ca'l dy dderbyn yn bregethwr cynorthwyol, William, fath â dy daid ers talwm.' 'Ydi'r cur pen yn well, Mam?' 'Dipyn bach.' 'Mi wna i banad bach o Ofaltîn i ni'n dau cyn mynd a mi fedrwch chi fynd i'ch gwely'n reit handi wedyn.'

Ond, chwarae teg iddo, 'roedd y gwr addfwyn hwn yn ddigon gostyngedig i addo y deuai'n ôl i wasanaeth y Genhadaeth, pe byddai'r cynllun i weithio'n annibynnol yn methu.' Ymhlith y gweithwyr a oedd yn amlwg yn Sylhet bryd hyn yr oedd Suresh, a oedd bellach yn gofalu am Sunamganj, Jogesh, a oedd yn efrydu ar gyfer ei BA yn y coleg yn Sylhet (bu'n ffyddlon iawn yn gofalu am yr eglwys Bengali yn nhref Silchar am flynyddoedd wedyn tan ddiwedd y rhyfel, pan ddaeth amhariad ar ei gof) a Subodh Dutta, a oedd ar y pryd yn athro yn yr ysgol yn Sylhet ac yn compounder yn y dispensari yno; daeth yr olaf yn un o golofnau'r eglwys ar y Gwastadedd ac yn 'bregethwr Cyrddau Mawr'.

Y rhan amlaf byddai yno bregethwr, ond pan fyddai un o'r blaenoriaid yn gweddio byddai dau arall yn ei "borthi%.