Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

breifat

breifat

Deddf a fyddai yn cydnabod y Gymraeg fel iaith swyddogol yng Nghymru, yn ymestyn i'r sector breifat (dyna pam y targedwyd blychau ffôn BT) ac a fyddai yn effeithio hefyd ar faes technoleg gwybodaeth.

Cyn symud ymlaen i fanylu ar yr ystyriaethau wrth brynu carafan, efallai y dylasem oedi am ennyd i bwyso a mesur y manteision a'r anfanteision o brynu'n ail law a meddwl o ddifrif hefyd am bry- nu'n breifat o'i gymharu a phrynu gan ganolfan werthu.

`Roedd clasuron Comiwnyddiaeth,' meddai un economegydd ifanc, `yn dangos sut i fynd o sustem breifat i sustem gomiwnyddol.

Fe lwyddodd y Gymdeithas i amharu'n ddifrifol ar y cyfarfod hwn a bu trafodaeth breifat rhwng Sioned Elin, cadeirydd y Gymdeithas yn Sir Gaerfyrddin, a Meryl Gravell, arweinydd y Cyngor.

Amlygwyd eto y diffygion yn neddf 1993 - sef nad ydi hi ddim yn rhoi statws swyddogol i'r iaith Gymraeg (sy'n golygu ei bod yn colli allan ar grantiau allweddol o Ewrop), ac nad ydi'n delio gyda'r sector breifat na'r sector wirfoddol.

45% yn dweud nad yw'r sector breifat yn defnyddio digon ar y Gymraeg.

Nid yw'n ymestyn i'r sector breifat ac fe fyddwn yn tynnu sylw arbennig at hyn yn y rali.

Yn naturiol, mae hyn yn fwy gwir byth wrth brynu'n breifat gan na fydd y prynwr yn cynnig unrhyw fath o warant i chi, ac mae'n debygol iawn y bydd gwarant y gwneuthurwr wedi hen ddod i'w derfyn os mai carafan ail law yw hi.

I ddangos nad oedd dim drwgdeimlad, er bod pawb yn gwybod fod, gwnaeth Affos frawd-yng-nghyfraith ei wraig yn Swyddog Cynllunio gyda'r teitl o Bennaeth ac er mai dyna'r teitl isaf yn y wlad mynnodd Ynot o hynny ymlaen gael ei alw wrth ei deitl, a phan arwyddai lythyr, swyddogol neu breifat, torrai ei enw, 'Ynot Benn.' Rhyfeddodd erioed i'r Brenin Affos gydsynio iddo briodi i mewn i'r teulu brenhinol, ond wedi'r cwbl roedd Arabrab yn ddychrynllyd o hyll, a'r blynyddoedd yn cerdded.

Ayer a Wittgenstein, a honnai fod yna 'iaith breifat'.

Y bwriad yno yw cynnal protest yn erbyn un o'r cwmniau ffôn symudol er mwyn dangos fod angen am Ddeddf Iaith fydd yn ymestyn i'r sector breifat.

a) cynnwys y sectorau preifat a gwirfoddol ynddi fel cydnabyddiaeth o'r trawsnewid sydd wedi digwydd wrth ystyried darparwyr gwasanaethau a fu'n draddodiadol o fewn y sector gyhoeddus, twf cyffredinol y sector breifat ac edwiniad cymharol y sector gyhoeddus, a mentrau ar y cyd rhwng sectorau.

Ac er mwyn i'r Gymraeg ddod fwyfwy'n rhan naturiol o fywyd yng Nghymru, mae angen iddi fodoli fel iaith sy'n cael ei defnyddio'n gyson gan bobl yn eu bywyd beunyddiol: mewn gwaith a hamdden, yn ogystal ag wrth ddelio â sefydliadau cyhoeddus, gwirfoddol neu breifat.

Yn eu plith yr oedd Lewis Gwynne |Thomas o Lanbrynmair, rheolwr banc; William Green, argraffydd; Josiah Jenkins, Colomendy, meddyg; Sarah Anne Evans oedd yn rhredeg Ysgol Breifat i Ferched yn y Manor House.

Tra bod Natalie yn mynychu dosbarthiadau meithrin mewn ysgol babyddol leol, mae Adam mewn ysgol breifat - yr ysgol orau ym Methlehem - ac yn cael addysg ardderchog, yn ôl ei fam.

Mewn gwirionedd, cynhaliwyd dau gyfarfod, y cyntaf yn breifat a'r ail yn gyhoeddus.

Ei bryder ef a phawb arall mewn awdurdod yn yr Eglwys o glywed fod rhai o'r ffyddloniaid yn darllen yr Ysgrythurau oedd mai arwain at heresiau ac anuniongrededd a fyddai darllen a myfyrio'n breifat ar y Beibl heb gyfarwyddyd diwinyddion cymwys a phrofiadol.

Tir hesb, anial ydy maes anfantais meddwl i'r rhelyw o feddygon, heb fawr o gyfle i wneud strôc nac i ymarfer yn breifat.

Fel sy'n digwydd yn aml, gwna esgusion lu dros ei ymddygiad yn bersonol ac yn breifat gan ei beio ei hun yn aml.

Dysgwn hefyd ei fod yntau, fel ei fam, wedi cael ysgol breifat, ac yn sgil hynny, sylwn fod ei gyfaill mynwesol, Gwdig 'wedi'i fagu mor gyffredin.

Treuliai ef ei bnawniau Sadwrn yng nghwmni ei fyddin breifat o gyfeillion, un ai ar deras y stadiwm bêl-droed yn cega ei dîm a gollai yn ddieithriad, neu ar y prom yn pwmpio pres i beiriannau soffistigedig y parlyrau adloniant.

Cael ystafell breifat yno a digon o sylw.

Y nod yw efelychu llwyddiant Denmarc, Valencia yn Sbaen, Emilia-Romagna yn yr Eidal, Baden- Wuerttemberg, ein chwaer-ranbarth yn yr Almaen a rhai o daleithiau America fel Pennsylvania wrth greu yr hyn a elwir yn 'rhwydweithiau cydweithredu' rhwng cwmni%au bach a mawr a rhwng y sector breifat a'r sector gyhoeddus.

Dywedir iddo gael ei addysgu'n breifat ac nid oes son iddo fod mewn prifysgol, ond y mae ehangder ei ddiddordebau'n ei osod yn enghraifft nodweddiadol o ddiwylliant gwyddonol yr ail ganrif ar bymtheg, oblegid yr oedd yn hanesyddol, yn archaeolegydd ac yn ieithegydd a ymddiddorai'n fyw iawn mewn dacareg ac amaethyddiaeth ac a wyddai gryn dipyn am wyddoniaeth ddiweddaraf ei ddydd.