Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

breiniol

breiniol

Gan mor rymus yw arferion cymdeithasol a gallu'r dosbarth breiniol i ddylanwadu ar y sawl a dybiant sy'n isradd iddynt, derbyniodd y Cymry Cymraeg y drefn hon heb fawr brotest.

Gwneir i'r cymeriadau ymddwyn a siarad fel petaent yn perthyn i ddosbarth breiniol.

Ac weithiau meddyliaf ein bod wrth gwyno am y cam a ddioddefwn fel Plaid, megis ynglŷn â darllediadau gwleidyddol, er enghraifft, yn methu â dirnad yn llawn y bygythiad a wnawn i lawer o'r buddiannau breiniol yn Llundain, ac fe fyddai'n achos pryder mawr i mi pe na bai'r llywodraeth ganol yn ceisio llesteirio'n cynnydd.

Buan y daeth y cyfreithwyr, y gweinyddwyr a'r dosbarthiadau breiniol i ystyried siarad Cymraeg mewn cylchoedd swyddogol fel her i awdurdod y ddeddf ac felly fel bygythiad i awdurdod y wladwriaeth.

Mae dweud fod Euros yn fab y Mans, er enghraifft, yn rhoi'r argraff ei fod wedi cael rhyw fagwraeth gysgodol a breiniol ar aelwyd na phrofodd brinder o hanfodion byw, a'i fod wedi cael pob rhwyddineb i ddilyn ei yrfa addysgol o'r cychwyn cyntaf.

Felly, nid balchder yn ei hynafiaid nac unrhyw awydd i sefydlu cyff breiniol iddo ef ei hyn a'i dylwyth o gyfnod Gruffudd ap Cynan ymlaen oedd yr unig fwriad a goleddai Syr John Wynn pan ysgrifennodd ei History of the Gwydir Family.

Yr oedd i Forgannwg yr Oesoedd Canol bedwar cantref: Gorfynydd, Penychen, Breiniol a Gwynllŵg; ymestynnai felly o'r afon Dawy i Wysg.

Honnai ar un adeg ei fod ef yn perthyn i fudiad a elwid Brodoliaeth Beirdd Morgannwg, a phwysleisiai fod yn ei fro ef feirdd o hyd a oedd, yn wahanol i'r rhai a geid ym mro%ydd eraill Cymru, wedi etifeddu 'Cyfrinach y Beirdd' yn yr hen ffordd draddodiadol trwy iddi gael ei throsglwyddo i lawr o athro bardd i ddisgybl yn ddi-dor er amser y derwyddon, yn wir, o Oes Aur Dynolryw, a'i fod ef yn un o'r etifeddion breiniol hynny.

Nid oedd hi'n ddigon iddo wybod beth y dylai ei gyflawni eithr disgwyid iddo wybod yn ogystal sur i'w gyflawni, ac yr oedd cadw trefn a chyfraith yn un o brif ddyletswyddau'r dosbarth breiniol hwn.