Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

breintiedig

breintiedig

Ceisid sicrhau'r cytundebau mwyaf proffidiol er mwyn gallu ehangu dylanwad dau gyff uchelwrol ac unioni cwrs datblygiad dau wehelyth o'r rhyw breintiedig.

Roedd fel petai'r rhai a arbenigai yng nghelfyddyd ymladd a lladd, wedi bod yn rhy brysur yn hela'r llwynog, a sicrhau bod eu lle breintiedig o fewn y gymdeithas yn ddiogel, i fedru rhoi amser i ddysgu unrhyw wers ers dyddiau'r rhyfel byd arall hwnnw Roedd y wlad ar ei thin - yn llythrennol felly, ac oni bai am ddewrder dall y rhai a gredai fod Ffasgaeth yn waeth na chaethwasiaeth, ac ysfa bwli o ddyn a dynnai wrth ei sigâr ac yfed ei hun i anymwybyddiaeth, am ymladd a rhyfel, mi fyddai pob dim wedi mynd i'r gwellt.

yw dysgu ar lefel gallu mwyafrif y dosbarth gan anwybyddu i raddau y mwyaf galluog a'r lleiaf breintiedig...

Drws nesaf i Bentwyn ceir ward Cyncoed, un o ardaloedd mwyaf breintiedig Caerdydd a Chymru.

Derbyniwyd yr egwyddor o daliadau ychwanegol i ardaloedd llai breintiedig.

Byd bach cysurus Cymraeg i'r breintiedig rai.

Un o'r dosbarth breintiedig.

Ond hefyd mae'r sefydliad rhyngwladol sy'n rheoli marchnata celf - yr orielau â'u beirniaid cyflogedig a'r newyddiadurwyr cynffongar - yn gwbl wrthwynebus i raglenni diwylliannol sy'n herio eu safle breintiedig.