Yr ydoedd proffwydoliaeth, y diwrnod hwnnw, a'i bwyntil yn argraph ar galchiad pared parlyrau y palasdai acw, - `Mene, Mene, Tecel, Upharsin!' Mene, - `Duw a rifodd eich brenhiniaeth, ac a'i gorffennodd.' Tecel, - `chwi a bwyswyd yn y glorian, ac a'ch caed yn brin.' Peres, `Rhanwyd eich brenhinaeth!' Ac erbyn hyn, y mae y broffwydoliaeth yn cael ei chyflawni mor gyflym ag sydd bosibl.
Effeithiodd y dull hwn o feddwl yn ei dro ar ei gobeithion Mesianaidd, a'r pennaf o'i disgwyliadau oedd gweld adfer brenhiniaeth Dafydd.
Daeth Ceredig yn frenin ar 'wlad' Ceretigion ('gwlad' yn yr hen ystyr gyfreithiol, sef brenhiniaeth).
Nid oes ryfedd felly bod 'cenedl' a 'brenhiniaeth' (neu 'teyrnas', fel y cyfieithir yr un gair weithiau) yn ymddangos yn gyfochrog yn y Beibl, ac i bob pwrpas yn cael eu defnyddio fel cyfystyron - "chwi a fyddwch i mi yn frenhiniaeth o offeiriaid ac yn genedl sanctaidd" Ymddengys i Israel, o sylwi ar y cenhedloedd oddi amgylch, ganfod eu bod o ran eu trefn gymdeithasol yn deyrnasoedd neu'n freniniaethau, a daeth felly i ystyried meddu brenin fel un o nodau cenedligrwydd.