Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

brenhinol

brenhinol

Ef a roes fawredd i ymgyrch Cymdeithas yr Iaith yn erbyn gwarth arwisgiad y tywysog Charles yng Nghaernarfon, seremoni, fe wyddom heddiw, a wthiwyd ar eu gwaethaf ar y teulu brenhinol Seisnig gan Swyddfa Gymreig y Blaid Lafur er mwyn lladd cenedlaetholdeb Cymru.

Y Gerddorfa hefyd gynhaliodd y Cyngerdd Brenhinol mawreddog yn y Royal Festival Hall eleni.

Mae'r beirdd a llenorion sy'n gwrthwynebu cysylltiad brenhinol yn cynnwys Myrddin ap Dafydd, Iwan LLwyd, Angharad Tomos, Meirion MacIntyre Huws, MIhangel Morgan a Robin Llywelyn.

Edrychid ar y llys brenhinol yn ganolbwynt cymdeithas a llywodraeth ac yn noddfa grym a chlod.

Fe ddaw dydd yr heuwr yn ôl, bydd yr had yn ei law a hwnnw yn had brenhinol.

Prif amcan y llys brenhinol a'r llys lleol ydoedd cyfrannu at gynhaliaeth eraill yn ysbrydol yn ogystal â materol.

Macrocosm o'r teulu unigol ydoedd y llys brenhinol, ffynhonnell pob llywodraeth a threfn.

Mae nifer o enillwyr prif dlysau llenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol yn galw am ddileu'r gair "Brenhinol" o'r teitl swyddogol.

Mae'n rhaid fod ar rywun yno ofn Owain a'i waed brenhinol Cymreig.

Daeth Herbert Asquith drosodd ar ei union, a chynigiodd sefydlu Comisiwn Brenhinol.

Yn Tywysog Ola Cymru, cyflwynodd y ddarlledwraig Elinor Jones, y canwr Dafydd Iwan, yr hanesydd Richard Wyn Jones a'r awdures Angharad Tomos eu safbwyntiau personol ynglyn â'r teulu brenhinol.

I ddangos nad oedd dim drwgdeimlad, er bod pawb yn gwybod fod, gwnaeth Affos frawd-yng-nghyfraith ei wraig yn Swyddog Cynllunio gyda'r teitl o Bennaeth ac er mai dyna'r teitl isaf yn y wlad mynnodd Ynot o hynny ymlaen gael ei alw wrth ei deitl, a phan arwyddai lythyr, swyddogol neu breifat, torrai ei enw, 'Ynot Benn.' Rhyfeddodd erioed i'r Brenin Affos gydsynio iddo briodi i mewn i'r teulu brenhinol, ond wedi'r cwbl roedd Arabrab yn ddychrynllyd o hyll, a'r blynyddoedd yn cerdded.

Yn awr, ni allaf byth basio y siop arbennig hon yng Ngraigy-Don heb feddwl y dylid fod yna rhyw fath o arwyddbais uwch ei phen yn dweud 'By Appointment To The Prime Minister' yn union fel mae rhai ar strydoedd Llundain yn honni 'By Appointment' i'r teulu Brenhinol.

Yn God Save the Prince of Wales, a gyflwynwyd gan Sioned Wiliam, datgelwyd rhai o'r sgandalau ar straeon a oedd yn amgylchynu 10 o Dywysogion Cymru ac yn Ar ôl yr Orsedd, teithiodd Beti George i'r India i gwrdd â rhai o aelodau o deuluoedd brenhinol yr isgyfandir i gael gweld beth sydd gan fywyd i'w gynnig iddynt ar ôl iddynt golli eu statws brenhinol.

Dathlodd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ei phen-blwydd yn 70 gyda dau gyngerdd arbennig: un yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, ym mhresenoldeb Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru, Noddwr Brenhinol y gerddorfa, a'r llall yn Neuadd y Brangwyn, Abertawe.

Tipyn o drip - o'r stafell newid, lle bu tîm Ffrainc cyn eu gêm derfynol yng Nghwpan Rygbi'r Byd, i'r seddau Brenhinol.

Mewn noson thematig, yn dwyn y teitl Ar yr Orsedd, fe gymerwyd golwg ddychanol ond, lle y bon briodol, difrifol hefyd ar y Teulu Brenhinol yma ar frenhiniaeth o amgylch y byd.

Fe'i penodwyd yn un o'r ymwelwyr brenhinol i fwrw golwg tros yr Eglwys a sicrhau fod yr esgobaethau a'r plwyfi'n dilyn cyfarwyddiadau'r llywodraeth ac yn newid yr hen drefn babyddol.

Ond y beau ideal oedd y civility y cyfeiriwyd ato uchod a diddordebau aelodau'r llys brenhinol yn Llundain.

Sefydlwyd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ym 1908 ac mae bellach yn gweithredu fel corff an-adrannol gweithredol a ariannir drwy'r Swyddfa Gymreig.

Roedd rheswm da paham yr oedd comisiynau brenhinol a chomisiynau ymchwil yn ymddangos yn gymaint o ddiwydiant â'r diwydiannau a oedd yn wrthrych eu hymchwiliadau.

Sefydlwyd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ym 1908 ac mae bellach yn gweithredu fel corff an-adrannol gweithredol a ariannir drwyr Swyddfa Gymreig.

Deuai'r Doethion o un o wledydd y Dwyrain fel estroniaid i dalu gwrogaeth i'r Baban, gan ddwyn anrhegion proffwydol a brenhinol iddo.

Yr ymweliad brenhinol o bwys gafwyd yn Aberystwyth ddiwethaf oedd yn 1969 pan ddaeth ddaeth Charles i'r Brifysgol lle gwnaeth ymdrech llai na llwyddiannus i ddysgu Cymraeg.

Daeth y nifer mwyaf erioed o sêr o Gymru ynghyd ym Mae Caerdydd ar gyfer Lleisiau Cenedl, cyngerdd mawreddog yn rhad ac am ddim a gynhaliwyd i ddathlu agoriad brenhinol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

A fedrwn ni yn awr ddisgwyl gan Charles, pan ddaw (os daw) yn Frenin Cymru, y bydd, ar fyrder, yn rhoi Pardwn Brenhinol - o barch coffadwriaeth - i Saunders Lewis, Lewis Valentine a DJ Williams?

Erbyn hyn roedd garddwyr N'Og yn medru tyfu cystal wynwyn a'r Garddwr Brenhinol, ac felly roedd gerddi'r Palas wedi mynd yn ol at dyfu dim ond blodau a ffrwythau gan adael y wynwyn i'r gerddi preifat a'r Lotments.

Un o argymhellion y Comisiwn Brenhinol ar Gyfiawnder Troseddol yw y dylid cwtogi ymhellach ar hawl diffinydd i ddewis rheithgor i glywed ei achos - hawl sydd yn deillio o'r Magna Carta.

Penteulu'r llys dymunol hwn yw Owain Glyn Dwr, sy'n disgyn o waed brenhinol Gogledd Powys ar ochr ei dad ac o linach frenhinol Deheubarth ar ochr ei fam.

Astudiodd yn Ysgol Gerddoriaeth Chethams, y Conservatorio di Francesco Morlacchi, Perugia a Phrifysgol Caergrawnt, lle derbyniodd ysgoloriaethau corawl ac academaidd ill dau (yn ogystal â bod yn lesyn pêl-droed), cyn cychwyn ar Ysgoloriaeth Arwain yn y Coleg Cerddoriaeth Brenhinol, o dan Norman del Mar.

Mae Cell Gogled Cerdigion wedi bod yn ystyried pa fath o wrthwynebiad ellid ei ddangos i 'r ymweliad brenhinol.

Ychwanegodd nad oes ganddo ddim diddordeb yn dathliadau na'r Teulu Brenhinol, ac os ydyn nhw'n talu am y dathliad, pwy sy'n eu talu nhw?, gofynnodd.

Yn Tywysog Ola Cymru, cyflwynodd y ddarlledwraig Elinor Jones, y canwr Dafydd Iwan, yr hanesydd Richard Wyn Jones ar awdures Angharad Tomos eu safbwyntiau personol ynglyn âr teulu brenhinol.

Roedd Jim yn gomiwnydd o argyhoeddiad ac yn ddirmygus o'r teulu brenhinol.