Breuddwydient hwy am ddymchwelyd y drefn esgobyddol a gosod trefn "bresbyteraidd" yn ei lle gan fwrw ati lle'r oedd cyfle i arloesi gyda chynlluniau arbrofol yma ac acw yn y plwyfi.
Yn wir, yr oedd yr Academi Bresbyteraidd yn barhad di-dor o'r traddodiad y bu Samuel Jones, Brynllywarch, a'i debyg yn mwydo'i wreiddiau.
A llwyddodd yr Eglwys Bresbyteraidd hithau, â llawenydd, fel y rhai a aent i'r môr mewn llongau a gwneud eu gorchwylion ar ddyfroedd mawr, chwedl y salmydd, i gyrraedd 'i'r hafan a ddymunent'.
Dau'n unig ohonynt a fu mewn bodolaeth trwy gydol y ganrif, sef yr Academi Annibynnol a'r Academi Bresbyteraidd.
Tyfiant o'r Academi Bresbyteraidd oedd yr Academi Annibynnol ond gwelodd gryn dipyn o grwydro yn ystod y blynyddoedd.
Yng Nghaerfyrddin y bu'r Academi Bresbyteraidd trwy'r ganrif ddiwethaf ac fe'i cefnogid nid yn unig gan y Bwrdd Presbyteraidd yn Llundain ond gan Undodwyr, Annnibynwyr a Bedyddwyr Cymru.