Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

brifo

brifo

Dach chi ddim isio brifo teimlad neb,' medda fo.

Heb boeni dim am neb a allai fod yn gwylio, plygodd ei phen yn ôl a'i chusanu'n boeth ac yn galed, nes brifo'i gwefusau.

Wnaeth e mo'i brifo ond doedd e ddim yn dyner chwaith.

O wneud hon yn rheol gyffredinol byddai pawb yn gwybod lle mae o - cyn brifo a chyn cael ei frifo.

Wyt ti'n ceisio cyhuddo'r ferch o fynd i'r fath eithafon a lladd ei hunan dim ond er mwyn ein brifo ni?" "Nac ydw, wrth gwrs, nid dim ond er mwyn hynny.

m : dwi'n teimlo'n anghysurus iawn iawn i'n wrthgrefyddol yng nghymru oherwydd mi wn wn i'n brifo ac yn tramgwyddo pobl ddiffuant iawn.

Gwenodd ar Leusa Parry, a oedd wrth ei phleser yn llnau'r brasus: llawenydd ei bywyd hi oedd y sglein ar yr allor: Talai o'i phoced ei hun am y Brasso ar ôl i Undeb y Mamau gwyno ei bod yn defnyddio gormod ohono; ond ni ddychwelodd Leusa Parry ei gwên, ac roedd hynny'n brifo o gofio fel y bu hi'n ddadlau drosti.

Am y tro cyntaf, teimlodd ei fod wedi'i brifo'n fwriadol.

'Ydi hynna yn brifo eich teimladau chi am gydraddoldeb?' Sylweddolodd yn sydyn beth oedd hi'n ei wneud.

Ni allai ddyfalu er ei fod wedi llygadu a llygadu'r lluniau lliw yn yr enseiclopidia nes roedd ei lygaid yn brifo.

Rhaid i ti gyfaddef iddi geisio ein brifo ni ym mhob ffordd bosib: ninnau'n ceisio bod yn garedig wrthi, yn ei gwahodd hi yma, yn mynd a hi allan am fwyd, yn ceisio ymddwyn yn war ymhob ffordd, a dangos fod modd i dderbyn y pethau hyn ond ymddwyn yn synhwyrol.

Roedd fy nghoesau'n brifo'n ofnadwy ar ol ail afael yn y sgio, ac yn crynu bob tro y safwn yn llonydd.

Erbyn hyn roedd breichiau pawb yn dechrau brifo ac roeddynt oll, o hir wthio, yn hynod sychedig.

Yr oedd hefyd yn filwrol ei gydymdeimlad ac wedi brifo teimladau Waldo droeon drwy ddweud pethau cas ynghylch ei basiffistiaeth, ac wedi gweithio'n ei erbyn ar y pwyllgor addysg i'w ddiswyddo.

''Di brifo'ch coes, Mrs Bowen?' gofynnodd.

Tua diwedd y pnawn o sgio a choesau pawb yn brifo'n ofnadwy, meddai Patrick.

Clywad Glyn yn gweiddi, "Brifo dim, brifo dim".

'O dim byd neilltuol,' atebodd Ann wedi ei brifo braidd.

'Nac ydi siŵr, ond mi fydda i'n taflu geiriau mawr o gwmpas y lle cyn symud reit gyflym at y pwynt nesa.' Dros y blynyddoedd daeth Rhian i dderbyn bod y ffaith mai merch oedd hi'n gwneud yn haws ei brifo gan gwestiwn mor ddwys â hwn.

Rwy'n deall yn iawn pam y mae rhai pobl yn teimlo'n flin oherwydd i Chris Stephens ddychwelyd mor sydyn i'r cae rygbi wedi iddo daro a brifo Ioan Bebb mewn gêm rhwng Penybont-ar-Ogwr a Cross Keys.

Clywir anogaeth, er gwaethaf duwch iselder, i ddal ati, i geisio cymorth cyfaill, ac i gofio'n fwy na dim, bod pawb yn brifo weithiau.

Gallai weithiau ollwng gair neu ddau oedd yn brifo.

Mae pawb yn brifo weithiau.

Pan ddaethon nhw allan i olau dydd unwaith et roedd y ddau wedi chwerthin cymaint nes roedd eu hochrau'n brifo.

Llusgwyd Myrddin a Geraint fel dwy sach o datws i fyny ac i fyny grisiau cerrig serth nes roedden nhw'n brifo i gyd erbyn cyrraedd y brig.

Yna taniwyd yr injan i ffwrdd â hwy ar draws y wlad, a phob asgwrn yn ei gorff yn brifo wrth iddo gael ei ysgwyd yn ôl a blaen yng nghefn fen y dihirod.

"Ddaru chi ddim brifo?" holodd JR gan gychwyn i ffwrdd yr un pryd.

Ac i feddwl na thrafferthon nhw ddim i ddod i ddweud wrtha i ei fod o wedi brifo.

Mi fu+m i'n rhy barod bob amser i roi ffordd i eraill er mwyn heddwch; rhyw osgoi helynt neu ofn brifo pobl þ hwyrach mai dyna ydoedd.

Mewn ymgais i guddio'i theimlad, meddai, "Eto i gyd, roeddech chi braidd yn rhy arw...neithiwr...doedd dim angen...doedd gennych chi ddim hawl..." "Wnes i mo'ch brifo chi," meddai, a'i lygaid yn tywyllu.

Mae hi'n treulio blwyddyn yno% Gan ei fod yn gwybod iddo'i brifo ni cheisiodd ei chusanu wrth ymadael ac ni sgwennodd ati am amser hir.

Roedd hynny'n amlwg, hyd yn oed yn y ffordd filain y byddai hi'n ceisio ein brifo ni, yn ceisio achosi rhyw ymateb naturiol oddi wrthym ni i'r sefyllfa.

Roedd Douglas Bader wedi dechrau blino, a thop ei goesau yn brifo yn ddychrynllyd.