Ond yn brigo i'r wyneb yn Nolwyddelan, er gwaethaf popeth, yr oedd yr hen falchder ym meibion Owain Gwynedd o ddyddiau Iorwerth Drwyndwn.
Ei gartref - ardal y grugoedd a chynefin y defaid, a chreigiau llwyd Cyn Gambriaidd Cefn Padarn yn brigo yn feini mawr ar y llethrau, rhwng y grug a gweiriau'r borfa fynyddig.
Pe gofynnech i un o hen lowyr dyffryn Aman am leoliad un o'r gwythiennau hyn fe ddywedai wrthych ar unwaith ei bod yn brigo i'r wyneb fan hyn, yn diflannu fan draw ac yn ymddangos drachefn mewn man arall.
Ychydig a feddyliwn i bryd hynny fod y Garreg Galch Garbonifferaidd sy'n brigo o gwmpas y Mwmbwls mor hynod o ddiddorol ag y deuthum i sylweddoli'n hwyrach, yng nghwmni fy athrawon daearegol o Brifysgol Abertawe.
Yna canlyn Cerrig Llwyd y Rhestr, rhyw gramen o graig sy'n brigo i'r wyneb am ryw filltir, i Lyn Carw.
Gŵr abl, meistr ar ei broffesiwn, a'i hiwmor tawel yn brigo i'r wyneb bob hyn a hyn.
A dyma lle mae anhawster sylfaenol yn brigo.
Ym Mro Gþyr fodd bynnag mae'r Hen Dywodfaen Goch yn brigo yn y canol ar Gefn Bryn tra bod y creigiau iau, sef y Garreg Galch a'r Grit Melynfaen, yn gorwedd o cwmpas ar bob tu.
Diwrnod diddorol iawn, poeth iawn, serch hynny, a chyfle i grwydro o gwmpas man strydoedd Agra ddiwedd y prynhawn, a'r tebygrwydd a rhai mannau yn y Caribi yn brigo eto, ond fod mwy o bobl hyd yn oed, llai o lawer o geir, a phob math o drafnidiaeth arall unwaith eto - beics, rickshaws, motor-beics, bysiau, ychydig iawn iawn o geir.
Roedd y deinosoriaid yn byw tua un cant wyth deg o filiynnau o flynyddoedd yn ôl yn ystod yr oes Triasig a Jiwrasig, a Bro Morgannwg yw'r unig ardal yng Nghymru lle mae creigiau o'r cyfnod yma yn brigo i'r wyneb.
Gellir gweld yr argyhoeddiad yn brigo mewn llawer pennill ganddo:-