Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

briodferch

briodferch

Y morwynion oedd Diane Roberts, ffrind y briodferch a Linze ac Alison, cyfneitherod.

Bydd y llyfr o gymorth mawr i dorri sawl dadl pwy sy'n gyfrifol am beth - rhieni'r briodferch i dalu am ffotograffydd, trafnidiaeth, y wledd ac ati er enghraifft ond y gwr yn gyfrifol am daliadau yn gysylltiedig a chapel, y modrwyau a blodau i'r briodferch, y morynion a'r ddwy fam ond nid y blodau sy'n rhan o'u haddurniadau.

Gwisgai'r briodferch wisg laes wedi ei hardduno a les a pherlau, roedd ei phenwisg o flodau lliw gwyn ac eirin gwlannog, ac roedd yn cario torch o flodau amrywiol ac eirin gwlanog.

Y gwas priodas oedd Dewi Jones, ffrind y priodfab, a'r ystlyswyr oedd Gwyn Vaughan Jones, brawd y priodfab a Mark Jones, brawd y briodferch.