Trueni na chafon nhw gyfle, achos oedd y gynulleidfa yn dwlu arnon ni, yn enwedig yn Ne Cymru." Bu'r grŵp yn llwyddiannus iawn, ond bu gwrthdaro gan nad oedd Bobby yn fodlon i'r merched briodi...
Ar ôl cael addewid gan ei thad na fyddai'n rhaid iddi briodi, gwellhaodd ei llygad.
Ond, er cydnabod gwir ddyndod Iesu Grist, y rhyfeddod mawr - y peth a'i gwnai'n unigryw oedd fod ei ddyndod wedi ei briodi â Duwdod.
Ond fe ddywedodd nad oedd am iddi hi briodi eto - y bydde fe'n 'i rhwystro hi rhag gneud hynny.
Roedd yn ddigon bodlon i'w briodi yn ei dlodi ond roedd ei thad yn awyddus iddi fachu rhyw ffermwr neu siopwr cyfoethog.
I ddangos nad oedd dim drwgdeimlad, er bod pawb yn gwybod fod, gwnaeth Affos frawd-yng-nghyfraith ei wraig yn Swyddog Cynllunio gyda'r teitl o Bennaeth ac er mai dyna'r teitl isaf yn y wlad mynnodd Ynot o hynny ymlaen gael ei alw wrth ei deitl, a phan arwyddai lythyr, swyddogol neu breifat, torrai ei enw, 'Ynot Benn.' Rhyfeddodd erioed i'r Brenin Affos gydsynio iddo briodi i mewn i'r teulu brenhinol, ond wedi'r cwbl roedd Arabrab yn ddychrynllyd o hyll, a'r blynyddoedd yn cerdded.
A chymerasid yn ganiataol rywsut nad ymadawai Wiliam byth â'i gartref ond i briodi.
Parhaodd Clwb Bryncir am tua deng mlynedd fodd bynnag, ond gan i rai aelodau symud o'r ardal ac i rai eraill briodi, lleihaodd eu nifer a daeth y Clwb i ben.
Yn gyntaf yr arfer o daflu conffeti ar bâr ifanc newydd briodi.
Ond yn ol arfer yr amser trefnwyd iddi briodi tywysog arall gan ei thad.
Cyn hir deuai ei thro hithau i briodi, a dyna fyddai diwedd y gyfathrach dawedog rhyngddynt.
Aranwen Jones, Buddug Jones a Gareth Edwards ar y testun 'Gwyn eu byd plant y dyfodol.' Dyfarnodd hefyd araith Nia Parry ar y testun 'Deg ar hugain yw'r oed delfrydol i ddyn briodi' yr orau yn y gystadleuaeth.
Bwriad y gwragedd hyn oedd hel arian i wneud gwaddol a dychwelyd i'r oasis i briodi a bod yn wragedd da a ffyddlon.
Ac y mae'r un peth yn wir gyda'r Llydaweg, gyda rhai enwau teuluoedd hyd yn oed, oherwydd os arferai Llydawyr briodi merched o Sbaen, digwyddai rhywbeth tebyg yn Llydaw hefyd.
Mae ailadrodd y gair "Dacw% yn diogelu'r pwyslais gwrthrychol ar yr hyn yw Crist ond y mae'n ei briodi'n gelfydd iawn â'r pwyslais ar ystyr y gwaith gwrthrychol i'n bywyd goddrychol ni,
Prin ei bod hi'n dlawd, gan iddi briodi'n ŵr cyntaf uchelwr pur gefnog o Lanfair Talhaearn o'r enw William Davies (neu Wiliam Dafydd Llwyd) ac i hwnnw ei gadael mewn amgylchiadau digon cysurus tra byddai.
Mae cariad wedi taflu rhwyd O sidan am fy nwyfron Per swynol rwyd o wead serch Y ferch a bia 'nghalon Ac yn y rhwyd 'rwy'n byw a bod Ni fynnwn fod ohoni Ac yn y rhwyd y gwnaf barhau Nes gwnawn ein dau briodi.
Un dawedog oedd hi, merch o'r bryniau yn deall dim ar anesmwythyd diddiwedd y môr, wedi taro ar longwr a'i briodi wrth ddod i lan y môr ar wyliau, ac wedi gorfod byw hebddo am y rhan fwyaf o'i bywyd priodasol.
'Mari Graham Moss' oedd ei henw iawn, 'Mrs Maria Graham Walwyn' wedi iddi briodi a Harry Walwyn, ymfudwr i Gymru o Barthau Sir Henffordd.
Roedd ffurf yr offeren yn wahanol ac roedd yr offeiriaid yn rhydd i briodi pe dymunent.
"Gyrru, gyrru i Gaer I briodi merch y maer.
Ystyrid bod dysgyblaeth o'r fath yn bwysig mewn perthynas â phriodi ac ystad priodas; pwysleisid trefn a disgyblaeth mewn dewis gŵr neu wraig, sef y broses o briodi a'r cyd-fyw, er sicrhau llwyddiant a ffyniant y teulu i'r dyfodol.
Efallai fod rhyw gymaint o ddrwgdeimlad eisoes rhwng Evan Meredith a Morgan, gan fod ail ŵr Catrin, Oliver Thomas, yn frawd i chwaer-yng- nghyfraith Meredith, Seina wraig Morris Meredith o'r Lloran Uchaf yn Llansilin, a bod y teulu yn amau ei bod hi wedi ei briodi yn ei henaint er mwyn ei arian; hefyd yr oedd nai Evan Meredith, Edward Morris, wedi chwenychu ficeriaeth Llanrhaeadr ar ôl Oliver Thomas, er mai at y gyfraith fel bywoliaeth y trodd yntau'n ddiweddarach.
Ar y rhaglen bydd Annette ifanc yn datgelu bod yr hynafgwr Towyn wedi gofyn yn chwareus iddi ei briodi.
Daw'r gwahaniaethau rhwng y ddwy gymdeithas i'r golwg yn eu hagwedd at ddau arfer cymdeithasol, sef mabwysiadu a'r arferiad i ddyn briodi gweddw ei frawd er mwyn codi teulu iddo.
Ond y mae yna amod." "O, beth ydi'r amod?" "Dy fod ti'n rhannu'r cyfrifoldeb efo fi." "O Alun, rydw i'n synnu atat ti, yn gofyn imi dy briodi di yng ngŵydd dy fam fel hyn." "Wnei di?
Mae'n wir, fel y dywedodd Dafydd Glyn Jones eto, fod holl 'elfennau confensiynol rhamant yng ngolygfa'r dianc i briodi, ond nid yw hynny, wrth gwrs, yn gyfystyr a dweud mai dehongliad arferol y cyfnod rhamantaidd o'r nwyd ei hun sydd yma.
O dan yr amgylchiadau hyn mae'r Cristion yn rhydd i ail-briodi.
Yr hanes yw i dad Harris ei ffonio hi y noson cyn eu priodas i'w rhybuddio, gymaint o sgiamp oedd hi'n mynd i'w briodi ai chynghori i newid ei meddwl.
Mewn cyhoeddiad mwy gellid cynnwys hefyd rifau ffôn a chyfeiriadau defnyddiol ac fe fyddwn i'n bersonol (nid fy mod a fy mryd ar briodi) wedi mwynhau adran helaethach yn ymwneud ag anerchiadau - pe na byddai ond i arbed trafferth i rai fel y gweinidog yn y paragraff cyntaf.
Doedd Ynot yn neb mewn gwirionedd, ond rywfodd fe lwyddodd i briodi Arabrab, chwaer Navid y Frenhines - am ei harian, medden' hw, o achos roedd hi'n hyll fel pechod.
Ddaru chi briodi?" Yr oeddwn i wedi sylwi arni hi'n llygadu fy llaw chwith i - a honno mewn maneg!
Gallai briodi neu fynd yn lleian.
Anodd meddwl am unrhyw agwedd o briodi nad yw Bethan Mair a Meleri Wyn James yn cyffwrdd a hwy ac er bod digonedd o'r math yma o gyhoeddiadau ar gael yn y Saesneg bydd o fendith i sawl pâr cael cyfrol fach fel hon wedi ei hanelu'n benodol at gynulleidfa Gymraeg ei hiaith.
Roedd y bachgen yn gwneud setts yn Furness a'r ddau newydd briodi'r bore hwnnw a dod i Glasgow am y diwrnod.
Rydych chi'n llawer rhy ifanc i briodi, o ran hynny rydych chi'n llawer rhy ifanc i ddyweddi%o." "Bobol bach rydych chi'n hen ffasiwn Mam." "Efallai mod i, a welais i ddim byd o'i le mewn bod felly chwaith.
Syrth mewn cariad ag ysgolfeistr o Almaenwr, ond gwrthyd ei briodi, 'gan ddewis yn hytrach ddioddef.' Yn nrama Lewis nid cenedl yw'r gwahanfur rhwng y ddau gariad ond amrywiad diddorol ar ddosbarth cymdeithasol.
Roedd hi'n barchus i fab fferm briodi merch fferm arall; nid oedd yn hollol amharchus i fab briodi'r forwyn, eithr gwarth oedd i'r ferch briodi'r gwas.
Dadl llawer yw mai dyma'r unig sail dros ysgaru, a'r unig le lle y gellir ystyried ail-briodi, arwahan i lle mae un cymar yn marw.
"Os na chaf i briodi Bernez, yna mae'n well gen i fod yn hen ferch." Un gaeaf, roedd pethau'n waeth nag arfer ar Bernez.
Mr a Mrs David Hughes Llys Alaw, Llanrhaeadr, oedd y cwpwl cyntaf i briodi yma.
Os oes rhaid i un ymadael, ( sef ymryddhau o'r cyfrifoldeb o wely a bwyd i'r cymar) yna ni ddylid ail-briodi.
Yn nes ymlaen defnyddid y seleri gan y ddau deulu i storio glo, ond adeg fy ngeni yr oedd deuddyn newydd briodi yn byw yn y ddwy seler.
Roedd Meic i fod i briodi Olwen.
Wrth sôn am arwerthfa Llwyd Hendre Llan, cofiwn glywed am ŵr ifanc newydd briodi a mynd i fyw i Gastell Bwlch Hafod Einion, penty bychan digysgod ar y gefnen fwyaf rhynllyd ym Mro Hiraethog.
Y noson cyn iddi briodi Reg, ym Mai 1999, cysgodd Diane gyda Graham.
Bu bron i Mark briodi Meinir Powell yn 1997 - 'roedd Meinir wedi cyfarfod Kath mewn ysbyty meddwl a cheisiodd Mark gymryd mantais ohoni.
Cawn ei gweld yn symud i'r ardal i briodi, yn dechrau magu plant, ac yn ymdrechu i gael y ddau ben llinyn ynghyd, cyn i'r ffocws symud yn raddol at Owen.
(Cyf.) 'Roedd rhai o'i gyd-genhadon wedi cynghori Pengwern i briodi â'i chwaer yng nghyfraith, Miss Brownlow, cyn i'r helbul godi yn Maulvi.
Y mae'n ymddangos i dad Catrin farw cyn iddi briodi Morgan ac i'w mam ddod i fyw atynt i'e ficerdy.
Roedd ganddo bâr ifanc newydd briodi yn gymdogion, ac yr oedd gan y gūr hen fodryb gefnog a ddeuai i aros hefo nhw ar brydiau, ac yr oedd yn amlwg fod yna ddisgwyliadau mawr ar ei hôl.
Roedd y rhai llygadog yn ame cyd-ddigwyddiad dyfodiad Madog i'r pentre a'r ergyd a gafodd Mrs Morris ar 'i chalon - gan awgrymu i Madog ddod a'r hen wraig wyneb yn wyneb a rhywbeth o'i gorffennol a bod Luned yn 'i briodi fe er mwyn iddo fe gadw'i geg ynghau.
Os bydd i ferch sathru sigâr yn ddamweiniol wrth gerdded ar y stryd bydd yn siŵr o briodi'r dyn cyntaf a ddaw i'w chyfarfod!
Gellir awgrymu nifer o resymau am y teyrngarwch rhanbarthol hwn, sef twf gweinyddiaeth a datblygiad sefydliadau sirol, cynnydd cyfoedth y bonedd gwledig a'u tuedd gynyddol i briodi aeresau lleol, eu diddordeb mewn hanes, hynafiaeth a chyfraith, a thwf trefi sirol yn ganolfannau cymdeithasol, diwylliannol a gweinyddol.