Fel y caf son eto, y mae ardal Cefn Brith yn fawr iawn ei dyled iddo ef a'i briod..
Yn y gyfrol hon ceir atgofion Eifion Roberts am Gefn Brith a'r cyffiniau, bro beirdd megis Edward Morris, Perthillwydion, a Jac Glan-y-gors, Thomas Jones, Bryn Du (Cerrigelltgwm Isa, Ysbyty Ifan, wedi hynny), a Tomi Jones, Cernioge Bach ac Aelwyd Brys.
Dowch, helpwch eich hun.' Mwynhâi Dan y bara' menyn a'r jam a'r bara brith yn fawr iawn, a theimlai'n newynog ar ôl ei ginio cynnar a brysiog.
'Aderyn ...' clywais hwy'n sibrwd, '...aderyn brith, aderyn corff, aderyn pêl, aderyn y ddrycin, aderyn yr eira ...' Yr oedd y rhestr yn ddiddiwedd.
Yn ei araith cyfeiriodd at y gwaith oedd yn mynd ymlaen ar y pryd yn agos at Gefn Brith, sef Gwaith DÕwr Corfforaeth Penbedw yn yr Alwen.
Er hynny, byddai ein hynafiaid yng Nghefn Brith yn falch o weld fod y Capel yma o hyd ac wedi ei addasu gogyfer ag anghenion y gynulleidfa sy'n cwrdd yno heddiw, er cymaint yw'r dirywiad crefyddol a ddigwyddodd yn ystod oes y rhai hynaf ohonom.
Yn ystod cyfnod yr adeiladu cynhaliwyd Ysgol Sul Cefn Brith yn ysgubor Aelwyd Brys a phob gwasanaeth arall yn Ysgol y Cyngor, Glasfryn.
Mae geiriau Gruffydd Robert, wrth gwrs, yn enwog iawn: 'E fydd weithiau'n dostur fynghalon wrth weled llawer a anwyd ag a fagwyd im doedyd, yn ddiystr genthynt amdanaf, tan geissio ymwrthod a mi, ag ymgystlwng ag estroniaith cyn adnabod ddim honi.' A dyma Sion Dafydd Rhys yntau yn mynegi'r un pryder: 'Eithr ninheu y Cymry (mal gweision gwychion) rhai o honon' ym myned morr ddiflas, ac mor fursennaidd, ac (yn amgenach nog vn bobl arall o'r byd) mor benhoeden; ac y daw brith gywilydd arnam gynnyg adrodd a dywedud eyn hiaith eynhunain' - ac ymlaen ag ef i ddiarhebu'r cyfryw bobl mewn iaith braidd yn rhy liwgar i'w dyfynnu yn gysurus yn Hebron Clydach!
Bu Hugh Evans yn athro yn Ysgol Sabothol Cefn Brith flynyddoedd lawer, ac roedd ynddo gymhwyster eithriadol i'r swydd.
Hedfannai ei gwallt yn gudynnau brith o gylch ei phen, fel petai newydd gael sioc drydan, ac roedd ei chap nos lês wedi ei luchio'n ôl yn gam ar gefn ei phen gan y mwng gwyllt.
Ond nid pawb a gymeradwyai'r drefn hon o bregethu teithiol, oblegid rhoddai gyfle i rai cymeriadau digon brith ac annheilwng i fanteisio ar garedigrwydd yr eglwysi, a daeth amryw o 'wŷr y gwithe allan o waith yn crwydro'r wlad i bregethu' yn destunau gwawd a dirmyg.
Gadawodd y cenhadon eu hôl yn ddigamsyniol ar y Casiaid, ac mae olion eu heefengylu brwd i'w canfod o hyd yn yr eglwysi, yr ysgolion, a'r ysbytai, heb sôn am barlyrau lle cenir 'Mae gen'i dipyn o dþ bach twt' a lle bwyteir bara brith ac yfed te o lestri sabothol yr olwg.
Byddaf yn tristau wrth feddwl cymaint o estroniaid sy'n berchnogion cartrefi'r hen gymeriadau a arferai fynychu'r addoldy yng Nghefn Brith gyda'r fath ffyddlondeb.
Mae hefyd yn cynnig safleoedd nythu i'r Aderyn Du, y Gwybedog Brith a'r Fronfraith.
Y mae David Ellis yn sôn yn hiraethus amdano mewn llythyr a anfonwyd ganddo (lai na deufis cyn iddo ddiflannu) at Tomi Jones, Cernioge Bach (Aelwyd Brys, Cefn Brith wedi hynny).
Cerddai yn gyson, haf a gaeaf, o Fron-y- graig i Gefn Brith i gadw Seiat.
Cofiwn amdano fel Gweinidog ymroddgar ac aelod gwerthfawr o'r Eglwys yng Nghefn Brith.
Aeth y sibrwd yn ei flaen, '...brân Gernyw, brân lwyd, brith yr oged, boda dinwen...' Gair od i ddisgrifio aderyn!
Mae'r rhan fwyaf o bobl wedi clywed y chwedl am Bibydd Brith Hameln.
Damweiniodd i Dr Parry, Y Bala, ddod i bregethu i Gefn Brith, ac yn Nhy'n y Gilfach y byddai pregethwyr arfer â lletya.
Ar ei hyd, taria wedyn Ar lawr glas Parlwr y Glyn; Yno mae hoen 'y mywyd, Ac yno mae, gwyn 'y myd, Ardal hyfryd Rhyd Lefrith A'r dydd ar y bronnydd brith.
Ar ôl y cwrdd cawn de gyda bara brith, "welsh cakes" ac yn y blaen.
Roedd y plant yn gorfod sefyll yr wythnos yn Aberhonddu, ac arferai bws rhyw fath o lori - ddod lan unwaith yr wythnos i fynd â nhw i'r dre'.' Er hynny, gwnâi'r athrawon eu gorau i ledu gorwelion eu disgyblion, gyda thripiau i Abertawe i ddangos y môr iddynt, neu i weld Cefn Brith.
Eithr nid i drafod gwr mor alluog a chymhleth â John Donne yr ysgrifennir hyn, ond yn hytrach i goffa/ u gwerinwr syml o Uwchaled a fu'n aelod o ddosbarth WEA y Glasfryn a Chefn Brith o'i gychwyniad.
Sylwyd hefyd fod tri chwarter nifer y cartrefi ym mhentref Cefn Brith erbyn hyn yn eiddo i Saeson.
Yr oedd nifer yr aelodau ar y dechrau yn ddeuddeg a thrigain, ac wedi sefydlu yr Ysgol yno yr oedd cymaint â chant a naw o aelodau yn Ysgol Sul Cefn Brith.
Yn ystod fy ieuenctid trigai oddeutu deg ar hugain o deuluoedd ym mhentref Cefn Brith, y cyfan bron a'u gwreiddiau yn yr ardal ar wahân i ddyfodiaid a ddaeth yno o ganlyniad i briodas.
Ar lawr y dyffryn, ar ochr y ffordd, roedd y bwthyn bach rhyfeddaf a welwyd erioed - y waliau wedi'u gwneud o fara brith, y to o fara ceirch, a'r ffenestri o siwgwr candi.
y siglen fraith, tinwen y garn, gwybedog brith, gwennol y bondo, gwennol y glennydd ac amryw fathau o deloriaid.
Nid oes ond ychydig gerrig i nodi'r fan lle gynt y safai'r hen fythynnod: Bryn Brith, Ty'n-y-cefn, Pen-y-foel, Glan-llyn, Tan y Garth, Rhydloyw, a Thy'n Pant.
Tyfai blewiach brith o dan ei drwyn a edrychai fel mwstash heb ei wrteithio'n iawn, ac ar waelod ei ddwy foch roedd cysgodion pinc a roddai ffurf anghynnes i'w wyneb.