Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

britho

britho

Dewislen Steil Ar y dechrau bydd arnoch eisiau defnyddio pob math o ffontiau a steil a bydd CYSGOD a thanlinellu bras mewn Ffontiau Blodeuog yn britho eich gwaith.

Ond maen nhw i'w gweld yno o hyd yn britho'r wlad.

Enghraifft nodedig o'r cychwyn hwn yw'r rhwydwaith papurau bro sy'n britho Cymru heddiw ac sy'n cynnal yn eu sgîl weithgareddau niferus ac amrywiol a phob un ohonynt yn hybu Cymreictod.

Y gamp fwyaf, fodd bynnag, yw peidio â rhoi eich traed yn y tail drewllyd sy'n britho'r grisiau cerrig.

Dyn tal, tenau oedd Eurwyn Puw, ei wallt wedi britho ac yn dechrau moeli.

Am ddau ddiwrnod cyfan bu Idris yn crwydro drwy'r goedwig, ond y trydydd dydd, yn y bore bach, cyrhaeddodd wlad brydferth yn llawn mân fryniau a dolydd, afonydd yn llifo drwy'r cymoedd, pentrefi bach yn britho'r wlad a chestyll urddasol yma a thraw ar y bryniau.

Cymraes ddi-Gymraeg o Bort Talbot oedd y Chwaer Jean Ryan - menyw dal, ei gwallt golau'n britho ac yn pipian drwy ei phenwisg a'i llygaid glas yn cwato y tu ôl i sbectol a oedd yn tywyllu gyda'r haul.

Gwinllanau sy'n britho'r rhan fwyaf o diroedd isaf, calchog, Santorini gyda gwinwydd cwta, bler yr olwg, yn tyfu yno.

Enwau ar yr haenau o lo sy'n britho'r ardal ydynt, wrth gwrs, ac er bod y mwyafrif llethol o lofeydd y gymdogaeth bellach wedi cau, y mae enwau'r gwythiennau glo yn dal ar dafod leferydd glowyr y fro.

Mae degau o fân frychau'n britho'r teipysgrif.

Cyfnodau o brysurdeb anhygoel, gyda chyfnodau hirfaith o segurdod yn britho'r cyfan.

Gwelai Fynydd Troed unwaith eto a defaid Trefeca megis blodau bychain yn britho'i lethrau.

Nid yn unig mae cwmnïau Vodafone ac Orange yn britho Cymru gyda mastiau fel hyn, ond maent yn anwybyddu'r Gymraeg yn llwyr.