Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

brittonum

brittonum

Cododd amheuaeth hefyd ynghylch rhestr yr Historica Brittonum o frwydrau Arthur.

Yn yr Historia Brittonum, a gasglwyd ynghyd o amrywiol ffynonellau yn y nawfed ganrif, y ceir yr ymgais hynaf i adrodd am orchestion Arthur mewn paragraff o ryddiaeth.

Yn yr Annales Cambriae a'r Historia Brittonum ei enw, yn syml, yw Arthur.

O droi at ffynonellau hanesyddol pur fe geir mai'r ddwy gynharaf sy'n crybwyll Arthur yw'r Annales Cambriae, cronicl o hanes y Cymry, a'r Historia Brittonum, 'Hanes y Brythoniaid', a briodolwyd yn gam neu'n gymwys i un o'r enw Nennius.

Dyna paham y mae brwydrau Arthur, a restrir yn yr Historia Brittonum, i bob golwg mor bell oddi wrth ei gilydd, yng Nghoed Celyddon, yng Nghaerllion, ym Maddon yn ne Lloegr, neu yn Llynnwys (sef Lindsey) yn y dwyrain.