Frawd bach, mae gen ti broblemau, 'toes!
Er ei gallu, mae Gwenan yn ddall i broblemau amlwg Dyfan.
Erbyn hyn, fodd bynnag, mae angen mwy nag ewyllys gadarn i ddatrys yr holl broblemau.
Wrth i'r grant gynyddu dros y blynyddoedd diweddar, mae nifer o broblemau wedi codi yn sgîl y dulliau hyn o ariannu.
CYNIGION: Ni all y grwp ar ei ben ei hun ddatrys y prif broblemau ar yr amgylchedd sy'n gysylltiedig â chloddio a defnyddio mwynau, felly y prif gynnig yw:
Yn olaf, bwria defnyddio ffilm fel ffilm, sef ei dangos trwy ddefnyddio taflunydd mewn ystafell dywyll gyda'r broblemau mecanyddol a'r traul a ddaw yn.
Felly fe gawn bobl eisiau mabwysiadu egwyddorion Iesu Grist neu gymhwyso ei ddysgeidiaeth at broblemau cyfoes yn y gobaith y gwnaiff hynny eu datrys.
Gall ffermwr o'r trydydd byd fod yn ffigur niwlog gyda'i broblemau a'i obeithion yn ddieithr iawn inni - ond wedi inni weld ei wyneb yn eglur a chael cip ar ei deulu a'i gartref a'i gefndir yna daw yn berson y gallwn ddod i'w adnabod.
Sylwyd eisoes mor effro oedd i broblemau a digwyddiadau cyfoes, a rhoes arweiniad sicr o'i gadair olygyddol i'w fudiad ar gwestiynau llosg a phwysig ym meysydd gwleidyddiaeth, cymdeithas a chrefydd.
Mewn theori mae tâp fideo - recordio lluniau teledu ar dâp electro-magnetig i'w chwarae yn ôl trwy gyfrwng recordydd ar sgrîn deledu - yn ateb yr holl broblemau hyn.
Ceir yn y cylchgronau merched cynnwys amrywiol megis newyddion, ffasiwn, ryseitiau, y sêr (horoscopes), newyddion am bersonoliaethau'r byd adloniant a gwleidyddol, gwelliannau i'r ty, colofn llythyrau, tudalen broblemau ac yn y blaen.
Ond, os mai trwy gyfrwng iaith wahanol y dysgir plant y mae'r Saesneg yn famiaith iddynt dyna broblemau.
Honnir ar siaced lwch Y Gaeaf Sydd Unig Marion Eames, er enghraifft - nofel sy'n trafod cyfnod Llywelyn Ein Llyw Olaf : Er bod cymdeithas wedi newid yn ddybryd ers yr amser hynny, mae'r nofel yn dangos nad oes terfynau amser ar ymateb y natur ddynol i broblemau oesol cariad, cenfigen, dyletswyddau a marwolaeth.
Dyna paham yr ydym wedi gosod yn deitl i'r papur hwn Her i Ysgolion Gwledig. Dyna paham y gresynwn wrth glywed addysgwyr yn cwyno am 'broblemau' ysgolion pentrefol.
Fe ddylai pobl wybod hynny cyn penderfynu bod rhyfel yn ateb syml i brif broblemau'r Dwyrain Canol.
Yn sylfaenol, gwrthodwn yr honiad fod ysgolion pentrefol yn broblemau yn hytrach nag yn asedau i'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
Mae'r ddadl hon yn un gref, ond buaswn i'n dadlau bod y Llywodraeth, os oedd hi'n chwilio am ateb i broblemau cymdeithasol Cymru, wedi gorffen trwy gael rhywbeth gwahanol a hollol anghyson â'i theithi meddwl.
Bu'n ddiweddarach yn ymchwilio, dan nawdd y Cyngor Ysgolion, i broblemau dysgu a phrofion gwrando/ llafar.
Byddai athro, er enghraifft, yn siarad â'i gyd-athrawon am broblemau cyffredinol, gan grybwyll y ffaith y byddai rhyw ffurf ar gynllun nodau graddedig o gymorth i'w datrys.
Y prif broblemau yw cost a chymhlethdod y prosesau sy'n ymwneud â'r gwaith.
Os mai trwy gyfrwng y Saesneg y dysgir plant, pa iaith bynnag eu mamiaith - boed hynny yng Nghymru neu yma yng Nghaerl^yr lle mae chwarter y plant sy'n byw yma yn Asiaid neu yn yr Unol Daleithiau lle mae lleiafrif arwyddocaol Hispanig neu mewn llawer man ledled y byd - nid oes byth broblemau mae'n ymddangos.
Rowland Hughes a oedd yn ingol ymwybodol o broblemau cymdeithasol yn ar ardaloedd y chwareli a'r gweithfeydd glo.
Mae mwy o broblemau gydag anafiadau.
Mae pobol eisio ichi wnedu rhywbeth i ddal yr headlines yn y pedwar mis cynta' ond y peth anodd yw gwneud y job yn iawn." I raddau, fe greodd y Bwrdd ei broblemau ei hun - yr hyn sy'n drawiadol yw'r gwahaniaeth rhwng yr hyn a ddigwyddodd dros y saith mis diwetha' a rhethreg y Cadeirydd flwyddyn yn ôl yn awgrymu fod byd newydd ar fin gwawrio a fod yr haul hwnnw'n debyg o godi o ran arbennig o anatomi aelodau Bwrdd yr Iaith.
Tu ol i'r holl broblemau hyn mae problem arall, y fwyaf sylfaenol o'r cwbwl yn fy nhŷb i, sef problem y Rhwyg Ieithyddol - problem yr iaith.
Fe roddodd - - enghraifft o broblemau sy'n cael eu hwynebu gan y Comisiynydd Drama.
Mae Densil John yn meddwl bod mwy o ymwybyddiaeth o broblemau y digartref erbyn hyn ond mae'r problemau'n dal i fodoli: "Mae Caerdydd yn ddinas sy'n benthyg ei hun i ddatblygiad ond pwy sy'n mynd i ddod i le sydd a llwyth o bobl yn crwydro'r strydoedd yn aml yn chwil?
Cyfarwyddwn y senedd hefyd i ystyried yn flynyddol gynnig unrhyw ddiwygiadau trefniadaeth gan yr ystyriwn fod datblygiadau o'r fath yn arwyddion o gymdeithas fywiog sy'n ymateb i sefyllfaoedd newydd yn hytrach nac yn adlewyrchiadau o broblemau yn y drefn flaenorol.
Un o brif broblemau'r cyfrwng arbennig hwn ydi'r ffaith fod yna gymaint o wahanol fathau o gerddoriaeth ddawns.
Mae cymeriadau wedi eu hanimeiddio yn cynnig atebion i bob math o broblemau mathemategol yn y gyfres fywiog hon.
Trafodwyd llawer o broblemau, yn fach ac yn fawr.
Ond fe ddywedodd Owain Williams, cadeirydd Cymru Annibynnol, y bydden nhw'n cadw golwg ar y sefyllfa yn y dyfodol, ac y byddai rhagor o brotestio pe bai yna fwy o broblemau yn deillio o'r defnydd o'r iaith Gymraeg.
Yr oedd i lwyddiant diwydiannol yr Wyddgrug, fel i lwyddiant diwydiannol rhai o drefydd Deheudir Cymru, ei broblemau, a daeth tonnau'r llanw Seisnig cyntaf i effeithio ar y werin Gymreig dros Glawdd Offa, er bod hwnnw wedi ei godi ganrifoedd lawer ynghynt.
Treuliwyd misoedd yn datrys y gwahanol broblemau - cyllid, argraffu, golygu, cyfraniadau.
Un o broblemau mwyaf dyrys llenyddiaeth Gymraeg cyn y cyfnod modern yw dyddiad Ystorya Trystan.
Ond wrth gwrs dwg unrhyw gyfnewid fel hyn ei broblemau, ac yn fuan cafwyd cyfres ohonynt, a bu rhaid penderfynu ynglŷn a thri pheth hanfodol, tair sialens y bu rhaid eu ,hwynebu.
Trwy gyfuno natur, hanes, archaeoleg, diwydiant, a hyd yn oed broblemau llygredd, fe gre%ir darlun byw a chyflawn o dreftadaeth Ynys Môn.
Prin fod ei reswm yn argyhoeddi'r gweithwyr eraill yn y ffatri, sy'n penderfynu fod ganddo naill ai broblemau gyda'i gariad neu ddyledion.
Rydym eisiau gwybod suth fath o broblemau sy'n codi, ac ymhle, felly os gwyddoch am unrhyw weithgaredd fel hyn yn eich ardal, gadewch i ni wybod os gwelwch yn dda.
Mae colli gweundir grugog i goedwigaeth ac amaethyddiaeth, a thywydd oer, gwlyb yn ystod y tymor magu hefyd yn broblemau mawr.
Nid yw'r BBC yn barod i dderbyn unrhyw gyfrifoldeb o safbwynt unrhyw broblemau neu golledion a achosir gan arsefydlu RealPlayer yn anghywir o unrhyw ffynhonnell.
Gwaith CASA ydy ceisio datblygu ymatebion lleol i broblemau parhaol yn ogystal a cheisio deilio ag argyfyngau, gan ddefnyddio Cymorth Cristnogol, Oxfam etc.
Ond dyna'r gwaetha o broblemau Cymru ddoe.
Mae nifer ohonyn nhw wedi cael eu camdrin gartref neu'n dod o gartrefi lle mae tor-priodas neu broblemau moesol.
Un o broblemau penna' gohebwyr a chynhyrchwyr yw cael caniatâd swyddogol i ffilmio mewn gwlad.
Mae yna rywbeth arwyddocaol iawn yn y ffaith fod dynion yn fwy tebygol o gael eu heffeithio gan ffactorau o'r tu allan yn hytrach na chan broblemau personol.
Y mae nifer o broblemau sylfaenol yn wynebu Gwyddeleg wrth iddi fwynhau'r rhyddid hwn am y tro cyntaf yn y gogledd.
Llawn cystal, meddai, nad oes ganddyn nhw mo'r awydd na'r amser i feddwl am broblemau datblygu.
Am yr un rheswm ychydig a ddywedir yn yr efengylau am Selotiaeth ac am broblemau arbennig Palestina, a'r canlyniad yw fod y gair 'Galilea', yn enwedig, wedi mynd i awgrymu i laweroedd wlad o lonyddwch eidulig.
Sonnir am broblemau llygredd a sbwriel y môr a phwysigrwydd diogelu culfor mor unigryw, oherwydd yn sicr rhaid cyflwyno problemau'r Ynys i'r cyhoedd, yn ogystal â'i phrydferthwch.
Felly mae yna broblemau tymhorol.
Gall yr union briodweddau sy'n arwain i'r holl broblemau pan ddigwydd damwain, neu pan gam- ddefnyddir defnyddiau ymbelydrol, fod a chymwysiadau buddiol hefyd.
'Mae nifer helaeth o broblemau iechyd, yn amrywio o'r clefyd siwgwr i glefyd y galon, yn gysylltiedig â bod yn rhy drwm.
Bellach i'r naill awdur fel y llall, os mewn dulliau gwahanol i'w gilydd, y mae seiliau'r gymdeithas yn gwegian, ac mae'r pwyslais wedi symud oddi wrth natur yr hen gymdeithas at broblemau'r unigolyn o fewn y gymdeithas mewydd symudol ac ansicr, ac oddi wrth ddigwyddiadau allanol dwys neu ddigri at gymhellion mewnol unigolion yn ceisio ymdopi â bywyd.
Yr oedd holl wareiddiad a diwylliant Ewrop mewn perygl enbyd, meddai, ac eto prin y mae eco o'r holl broblemau hyn ym marddoniaeth gyfoes Cymru.
Mae'r ddau adweithydd ar y safle wedi'u diffodd ar ôl i gyfres o broblemau ddod i'r amlwg ers mis Rhagfyr.
Pam ydan ni yma?) yn hytrach nag yn trafod yn ymenyddol broblemau cymdeithasol a la Ibsen.
Yn ffodus mae gweithwyr y gwasanaethau achub, trwy eu medr a'u dewrder yn medru goresgyn pob math o broblemau er mwyn achub bywydau.