Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

brodorion

brodorion

Caiff y symudiad yma mewn poblogaeth effaith amlwg ar economi'r ardal gan fod y mwyafrif o'r mewnfudwyr a grym economaidd sylweddol uwch na'r brodorion.

O'r diwedd fe'm sicrhawyd gan y trapiwr nad aligator mohono na chrocodeil ychwaith: ei farn oedd mai iguana oedd, creadur a ystyrid yn fwyd danteithiol gan y brodorion.

Pan oeddwn yno yn nhalaith Efrog Newydd digwyddai fod cryn sôn fod disgynyddion y brodorion yn gwneud ymholiadau cyfreithiol i edrych a oedd posib iddynt gael eu tiroedd yn ôl, a doedd hynny ddim yn plesio y trigolion presennol.

Ceir cerddi sy'n disgrifio pellafoedd byd; fel Fietnam ac Efrog Newydd gyda Menna yn llwyddo i droi ei sylwadau craff ar y brodorion yn farddoniaeth apelgar.

Dengys log manwl y capten y gwaith a gyflawnid o ddydd i ddydd ar ei bwrdd, a'r nwyddau a'r offer a roddwyd yn yr howld, yn cynnwys rhaffau, blociau, meini llif a sialc, a gyfnewidid am gynnyrch brodorion gwledydd tramor megis Mao%riaid Seland Newydd.

Byddai dianc oddi yno, meddai, yn anodd; 'roedd y tywydd yn gymhedrol a'r wlad heb anifeiliaid gwyllt na brodorion gelyniaethus.

Gwlad yn yr hon yr oedd -- yn ôl pob tebyg -- luoedd o Brydain a gwledydd eraill wedi gwladychu a hel y brodorion yn ddigon pell.

Yn fuan wedyn gwerthwyd y pwll a'r modd i weithio gwythi%en y Gwscwm i gwmni da iawn o Ogledd Lloegr a rhain, sef y Stanleys, fu'n gyflogwyr mwyaf llwyddiannus y rhanbarth am gryn amser ac o hyn allan Pwll Stanley oedd yr enw arno i'r brodorion.

Wrth gymharu'r ymosodiad ar Shadrach Lewis a barbareidd-dra brodorion Tipperary.

Un canlyniad yw fod disgynyddion y goresgynwyr cyntaf yn rhyfeddu at anniolchgarwch y brodorion pan ddechreuant ymgyrchu o blaid eu hiaith a'u diwylliant eu hunain.

Roedden nhw mewn gwlad oedd yn hollol estron - y brodorion yn elyniaethus ac yn mynnu siarad eu hiaith ryfedd eu hunain.

Ar ddiwedd y cwrs llwyddodd i ennill cymeradwyaeth mesuredig yr athro a rybuddiodd y dosbarth i beidio a gwangalonni pan aent i Ffrainc a chlywed y brodorion yn parablu'n mamiaith, a hwythau heb fedru deall odid ddim, gan ei bod yn angenrheidiol treulio tipyn o amser i ymgyfarwyddo a seiniau a rhuthm yr iaith fel y'i seinid yn naturiol gan siaradwyr brodorol.

Roeddwn i yno am ychydig ddyddiau; fe fu'r brodorion yno erioed.

Roberts ofn i un o'r brodorion, yn benodol Prem Das, mab Gour Charan Das, ofyn cwestiynau ar lawr y sasiwn.

Roedd rhywbeth yn achosi penbleth i Gethin hefyd, ond ni chafodd amser i benderfynu beth, oblegid roedd syndod mud y ddau ffrind yn achosi i'w gosgordd golli eu teimladau o barchedig ofn tuag at y brodorion cyntefig.

Drwy ddefnyddio arwyddion clir, gorchmynnodd y brodorion iddynt hwy aros lle'r oeddynt.

Y mae'n amlwg nad yw pob newid er gwell, ond da o beth oedd nodi prisiau isel cerddoriaeth brintiedig a recordiau CD sydd, hyd yma, wedi osgoi'r fwyell faterol ac sy'n cynnig cyfle gwych i'r brodorion a'r ymwelwyr fel ei gilydd fwynhau'r gelfyddyd am arian digon rhesymol yn y cyd-destun Ewropeaidd.

Roedd hi'n fantais dod o hyd i Gymry ar wasgar a chael golwg ar y sefyllfa drwy eu llygaid nhw - diffiniad ar blât o'r safbwynt Cymreig - ond faint o'r radicaliaid Cymreig fyddai'n mwynhau clywed Cymry De Affrica yn amddiffyn apartheid, neu'n clywed Cymry De America'n cefnogi unbeniaid yn erbyn tlodion, neu'n gwneud ffortiwn mewn gwledydd tlawd ar draul y brodorion?

Nid wyf am raffu ystadegau yn y cyflwyniad hwn ond rhaid pwysleisio gymaint trymach yw gofynion Americanwr neu Ewropead am adnoddau'r byd na rhai brodorion y Trydydd Byd.

Fe arbedwyd Sinema'r Coliseum, hanner canllath oddi wrtho, ddwy flynedd yn ôl am fod y brodorion a'r bobol ddwad, fel ei gilydd, o'r farn ei fod yn achos gwerth ei achub.

Dywedodd hefyd fod golwg flinedig ar y milwyr ac nad oedd ganddynt lawer o awydd wynebu ymladd yn erbyn y brodorion ar y llechweddau.

Ni allai beidio â chlywed Cymraeg yma ac acw gan y brodorion ond nid oedd y bobl o bwys yng Nghymru fawr gwahanol i bobl debyg iddynt yn Lloegr.

Fe gofir mai dyna'r enw a roddwyd gan anthropolegwyr ar ofergoel brodorion rhai o ynysoedd pell y Mor Tawel.

Pan oedd yn ddigon agos cyfarchodd y brodorion gyda'r brawddegau Arabeg arferol, ond ag acen ddieithr.