Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

brodyr

brodyr

Ty Apple yn reit fawr.Y teulu i gyd yn byw yno - hi, ei brodyr, gwraig a phlentyn ei brawd hynaf yn ogystal a'i mam a'i thad.

Rhyw gul-de-sac oedd Troed y rhiw a rhaid oedd troi'n ol at y Red Cow, a chofiais mai hon oedd y dafarn a fynychid gan brodyr fy mam a lle y dysgodd ei brawd John sut i ddawnsio, camp yr ymffrostiai ynddi drwy ei oes.

Un gan Howell Davies; chwech gan Peter Williams--ac ohonynt hwy y mae tair yn gyfieithiadau, ac un yn ei Saesneg gwreiddiol; cyfieithiadau o bregethau gan Whitefield, James Hervey, William Romaine, y brodyr Erskine a'r brodyr Wesley.

Dyna ran o arwyddocad parodi Williams Parry ei hun ar ei awdl fawreddog, 'Yr Haf.' Yn 'Yr Hwyaden' y mae'n gwneud sbort am ben y confensiynau hurt a ddaeth i ffasiwn yn sgil 'Yr Haf': y macwyaid, y brodyr gwyn a du, holl gyfarpar yr awdl ramantaidd, a droes yn amherthnasol i'r oes.

Cyn hir, fodd bynnag, bu'r brodyr hyn yn gymorth i eraill ddysgu darllen.

Rŷm ni wedi symud yn bell oddi wrth ddatganiadau uchel-gloch y macwyaid a'r brodyr llwyd.

Roedd nhad a Dai Sam a brodyr fy mam, sef Thomas,David a John i gyd yn gweithio ym Mhwll Tynybedw hefyd.

Mae hefyd yn digwydd bod yn frawd i'r brodyr Dyfrig a Iwan o Topper.

(Yno, fel y digwyddodd pethau, ar ymweliad â chartref Wil, fy mrawd, y cafodd Mam ei tharo'n wael.) Pan gyrhaeddais, roedd fy chwiorydd a'm brodyr yn y llofft o gylch y gwely, a Mam, druan, yn anymwybodol.

Yn gyntaf y mae parhad y diwylliant gwledig ac amaethyddol yng nghanu prydyddion fel Ifor Cwm Gwys, Rhydderch Farfgoch a'r brodyr Eiddil Llwyn Celyn a Chawr Dâr.

Annibynnwr oedd ef, ond ni wnâi hynny lawer o wahaniaeth yn yr oes honno; cadwai brodyr un enwad lygad barcud ar weithgarwch y llall.

Mae'n siwr na fynnai iddynt fyned i'r gwaith glo i golli eu bywydau fel eu tad a'u brodyr, ac nid yw'n debyg y byddai gwaith fferm wedi apelio atynt fel plant tref, hyd yn oed pe na bai ganddi hi wrthwynebiad Mari Lewis i'w phlant fynd yn weision ffermydd: fe gofiwch na welodd honno yn ei bywyd bobl mor ddi-fynd 'a'r gweision ffarmwrs yma', na phobl a llai o'r dyn ynddynt.

Felly pan ddaeth y gwahoddiad i ymweld â brodyr a chwiorydd o Gristnogion yn Tsiecoslofacia, mae'n rhaid dweud i rhyw fflam o ysbryd anturus godi yn fy nghalon.

Felly ar Elisabeth y syrthiodd y cyfrifoldeb o gadw trefn ar y plasty a'r gweinyddion yn ogystal a'r gofal am ei brodyr a'i chwaer fach, yn enwedig pan fyddai Meistres Mary Games yn mynd a'i mab hynaf, Richard, i'r plas newydd ger Y Fenni.

Ryw ddydd, efallai, byddai'n ddigon cyfoethog ei hun, gan ei fod yn dechrau casglu symiau go fawr erbyn hyn a chreu cysylltiadau elwgar ym mhlith brodyr ariannog y deyrnas - gwobrau llwgr ei swydd.

Y tu ôl i'r ymdriniaeth â sefyllfa deuluol y Gŵr a'i ferched y mae gweledigaeth dreiddgar debyg i'r hyn a welid yn gweithio yn nofelau Zola, neu'r brodyr Goncourt.

Fe'm dysgwyd i yn yr ysgol Sul erstalwm ein bod ni i fod yn geidwad ein brodyr.

Ar ôl bwyta dyma'r dynion yn dechrau casglu at y brake yn araf, ac eraill yn gwylio i edrych pa faint oedd yn cyrchu at fan y cyfarfod, a phwy oeddynt, rhai yn ymddiddan â'i gilydd, eraill yn edrych yn syn, ac eraill â'u golwg ar y brodyr yr oeddynt wedi clywed eu bod ymhlith y rhai fu'n gweddio yn Nant.

Ffransis (y Brodyr Llwydion) ac Urdd S.

Ond roedd ganddo un elfen bwysig arall yn ei raglen waith a honno, yn ei farn ef ei hun, oedd bwysica', sef `edrych pa lwyddiant sydd i'n brodyr, y Cymry, yn y wlad bell'.

Rhwng godre'r graig a'r ffordd mae llecyn brwynog lle gynt y bu ffynnon a elwid yn Ffynnon y Brodyr - mwy am honno yn y man.

Daethpwyd o hyd i gyrff y ddau frawd gyda'i gilydd ger y ffynnon wrth odre Craig Irfon a dyna sut y cafodd yr enw Ffynnon y Brodyr.

Domnig (y Brodyr Duon).

Felly cododd yr awydd ynddo i geisio trefnu bod cyfle yn dod i Gristnogion o'r gorllewin gyfarfod â brodyr o'r dwyrain.

Cynhelid hi ar brynhawn Sul ac ymwelai brodyr y Capel Mawr â hi yn gyson.

Dwy brif urdd y Brodyr oedd Urdd S.

Oherwydd y mae Duw yn dyst inni ym mhob ryw fodd geisio arddangos gair yr Ysbryd Glân yn ei burdeb a'i wir ystyr er adeiladu'r brodyr mewn ffydd a chariad.

Yma yr wyf o hyd, yn addoli yn Saesneg ac yn byw gyda'r Brodyr.

Nant y noson gynt, a phawb yn edrych ar y brodyr oedd wedi cymryd rhan ynddo, fel pe buasent yn eu gweld am y tro cyntaf erioed, ond yn dweud yr un gair wrthynt.

Mae'r rhestr yn cynnwys brodyr a chwiorydd, a'u plant, a'u plant-yng- nghyfraith, cefndryd a chyfnitherod.

Ef oedd wedi bod yn taflu ei lais o un pen i'r llall i'r beipen wrth i'r brodyr siarad.

Y mae yma rai yma a thraw a ddigwyddai fod yn fugeiliaid ar breiddiau eraill yn yr un dref, a diau fod fy mam, fel sawl gwraig dda arall, wedi rhoi llety i rai o'r brodyr a ddeuai i Sasiwn a Chymanfa ac Undeb.

Ymhlith yr ysgolion enwocaf yr oedd y rheiny yn yr Almaen a'r Iseldiroedd a berthynai i'r urdd grefyddol ryfedd honno, Brodyr y Bywyd Cyfun (...).

Y gwahaniaeth rhyngddynt oedd fod un garfan - y mynaich traddodiadol - wedi eu cyfyngu i fynachlogydd ac wedi cymryd fel eu prif orchwyl gynnal y cylch o wyth gwasanaeth canonaidd ddydd a nos; tra oedd y lleill - y Brodyr - yn cael gadael eu priordai er mwyn mynd ar hyd y wlad i bregethu, gan gardota am eu cynhaliaeth wrth fynd.

Y gwir yw fod cyfeillach Northampton yn bygwth datblygu'n rhywbeth mwy na chylch trafod oherwydd ar ôl yr astudiaeth Feiblaidd âi'r brodyr ymlaen i ystyried unrhyw lithriadau moesol neu wendidau ysbrydol a geid ymhlith y clerigwyr.

Mae mam yn rhywle gan bob un o'r bechgyn hyn - a thad, a chwiorydd, a brodyr - wedi colli, mae'n dra sicr, lawer deigryn ers pan adawsant eu cartref - wedi treulio llawer noswaith heb gysgu.

Ar ôl gadael yr Hafod bu'n was efo'r brodyr yn Rhwng-ddwy-afon.

Ar waethaf anlladrwydd y trigolion - yr oeddynt yn ddigon wynebagored yn ei gylch fel y prawf y lluniau yn nhai'r puteiniaid ac yng nghartref y brodyr Vitti, yr oedd y trefwyr yn gosod pwys mawr ar lendid corff ac ar iechyd.

Mae'n siŵr fod digon o achos dros beidio â mynd i'r môr gan fod tri o'i ewythredd (brodyr ei fam) wedi colli'u bywydau ar y môr.

Y bwriad oedd ceisio cwrdd â brodyr a chwiorydd yn y ffydd, a'u calonogi mewn rhyw ffordd.

Soniwyd amdano ar y pryd, sef tua diwedd tridegau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r pedwardegau, fel un a oedd mewn cysylltiad agos â'r grŵp o bregethwyr ifainc a ddaeth dan wg brodyr yr hen ffydd 'iach' yn Sir y Fflint.