Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

brofi

brofi

Er nad erys cyfansoddiad o waith Gruffudd ei hun i un o noddwyr y dalaith, y mae'n amlwg iddo brofi o'i chroeso a'i haelioni dirfawr - dywed na fedrai neb yno roi nag.

Roedd hyn yn dipyn o loes i'm cydletywr, ond doedd wiw iddo ef brofi ohono; ac atgoffwn innau ef yn gyson â'r geiriau: "Gwatwarus yw gwin, a therfysgaidd yw diod gadarn!" Roedd honno'n flwyddyn galed iawn, ond bwriais iddi'n ddiarbed gan y gwyddwn yn dda na fyddai ailgynnig mewn cyfnod felly.

Llew Jones wedi ei brofi ei hun yn awdur llyfrau plant mwyaf toreithiog a sylweddol.

Mae gan dîm pêl-droed Cymru lawer i'w brofi heddiw.

Gosodai'r academegwyr y gwirioneddau yr oeddynt yn dadlau amdanynt y tu allan i brofiad y galon, ym maes syniadau haniaethol, gan brofi i Hughes eu bod ar gyfeiliorn.

O bryd i'w gilydd ymgollai Ger gymaint yn y gêm fel bod ei ddreifio'n flêr a diofal (a dim anadlydd i brofi ei wynt y dyddiau hynny.) Chwarddai am ei phen wrth ei gweld yn gafael mor dynn yn ei sêt.

Amlyga elfennau athronyddol i'r stori gyda'r naratif yn y person cyntaf, a'r person hwnnw (yr awdur, o bosib, ond nid o reidrwydd) yn rhoi ei hun yn sefyllfa Duw gan ddweud mai fel hyn y mae Duw yn edrych ar bawb o ddydd i ddydd ac fel hyn y gall brofi ein camweddau inni ar Ddydd y Farn.

Hysbysodd swyddog y tollau na chaem fynd ymhellach oni fedrem ddangos darn o bapur gan y meindars i brofi nad oedd ein ffilmio wedi torri unrhyw reolau.

Eithr ymhlith eu tenantiaid a'u cydnabod yn y sir neu'r cwmwd lleol yr enillodd y bonedd eu parch a'u hawdurdod, a cheir tystiolaeth ddigon i brofi hynny.

A hyd yn oed pe bai'r testun yn hŷn nag y gallwn ar hyn o bryd ei brofi, mae'r ffaith nad oedd copi%wyr diweddarach wedi moderneiddio nac addasu'r hanes, drwy gydblethu'r cnewyllyn brodorol ag elfennau o draddodiad arall, yn awgrymu'n gryf yr ystyrid y chwedl Gymraeg am Drystan ac Esyllt fel stori wahanol, mewn rhyw fodd, i hanesion eraill a berthynai i'r un un byd Arthuraidd, a bod y chwedl wedi ci thrin yn wahanol o'r herwydd.

Priodol yw cofio fod pwysau mawr ar Thomas Charles a'i debyg i brofi y gallent gadw trefn ar eu dilynwyr.

Y mae iddo dair rhan: y modd yr enillir Enid (a hanes hela'r carw purwyn yn arweiniad tuag ato); adran gysylltiol lle'r â'r arwr a'i wraig i'w teyrnas eu hunain ac ymserchu yn ei gilydd i'r fath raddau nes ennyn beirniadaeth a chrechwen y llys; a hyn eto'n arweiniad at wir thema'r 'rhamant', ymgais Geraint i'w brofi ei hun, neu'i wraig, mewn cyfres o ymladdfeydd sy'n cyrraedd uchafbwynt yn 'chwaraeon lledrithiog' y cae niwl.

Caf brofi bywyd go iawn pobl yr ardal.

Gallwn brofi pwysigrwydd yr uned bentrefol trwy gyfeirio at nifer o enghreifftiau e.e.l. Pan unir capeli, gan gynnal gwasanaethau bob yn ail mewn gwahanol bentrefi, tuedda'r mwyafrif o'r gynulleidfa ddod bob amser o'r pentref y cynhelir y cwrdd ynddo e.e.2. Pan fydd plentyn yn cael ei symud - trwy ddewis rhieni - i ysgol pentref arall, tuedda'r plentyn golli cysylltiad cymdeithasol anffurfiol hefyd â gweddill plant y pentre e.e.3. Pan gae'r ysgol, bydd holl blant y pentre'n colli'r ymwybyddiaeth o fod yn griw y pentre wrth fynd i'r ysgol uwchradd ac felly'n colli'r ymwybyddiaeth o berthyn ar y lefel hon.

A ni oedd y plant da, wrth gwrs, heb erioed brofi dim byd cryfach na Corona.

Does dim raid i ti brofi hynny i neb." Yr oedd yn rhy hwyr.

Maen gyflwr hynod o ffasiynol sy'n apelio at ferched ac ymhlith y JGEs syn cael eu rhestru i brofi hynny y mae y cogydd teledu, Jamie Oliver, yr actor, Jude Law ar canwr, Robbie Williams.

O'r pedwar ban ac ar eingion amser y lluniwyd inni wreiddiau i brofi sut y meithrinwyd brogarwch, capelgarwch, ysgolgarwch a thylwythgarwch, a dysgu drwy brofiad sut y gwnaeth gwaed a gwead greu un gymdeithas ddi- ddosbarth er bod rhaniadau emosiynol ynddi, megis rhwng capel ac eglwys, llawr gwlad a'r mynydd.

Roedd llawer o fedalau ganddo i brofi hynny.

Cyhoeddwyd fod John de Lorean, perchennog y cwmni ceir a fu'n hapfasnachu swyddi yng Ngogledd Iwerddon gydag arian y Llywodraeth, wedi'i brofi'n ddieuog o drafnidio cyffuriau yn yr Unol Daleithiau.

Nid yw'r hormonau BST ar gael yn gyffredinol eto, ond caniatawyd defnydd o'r hormon mewn buchesi dethol i brofi ei effeithiolrwydd.

Yn ôl Hefs dylsem fod wedi rhoi cyfle i'r gwron hwn sydd 'nid yn cynrychioli y Cabinet yng Nghymru ond yn cynrychioli Cymru yn y Cabinet' i brofi ei werth i ni fel Cenedl.

Dichon fod y ddau ŵr ifanc yn adnabod ei gilydd yno, ond ni allwn brofi'n bendant eu bod wedi cwrdd a chyfeillachu yn ystod yr amser yma.

Roedd Mr Gorbachev, ac yntau ddim ond yn arweinydd ers ychydig fisoedd, yn bendant am brofi y gallai ddal ei dir heb adael i'r Americanwr ei fygwth.

Mae ganddo hyder un a fagwyd ym mri ac urddas dau sefydliad arall" - yr unig un yn Siambr y Cynulliad i brofi rhin ac awyrgylch y ddau dy Llundeinaidd.

Ac, fel petai i brofi ei phwynt, dyma hi'n chwifio'i breichiau.

Mae'r ffaith yma yn ddigon i brofi diraddiad moesol y bobl cyffredin.

'Rhaid i ti brofi dy hun yn ddyn, trwy deg neu trwy drais.' 'A sut y byddwch chi'n gwybod os bydda i wedi llwyddo?' Pryder ac nid dewrder a barodd iddo ofyn y cwestiwn.

Ond mae gen i ddigon o dystion i brofi 'mod i'n dweud y gwir.

Mae gan wleidyddion y dalaith gythryblus hon y ddawn ryfeddaf o brofi argyfyngau gwleidyddol o gwmpas gwyliau Cristnogol.

Gosododd allan ystadegau profadwy yn dangos beth oedd y cyflogau wythnosol i weithwyr â sgiliau neu heb sgiliau ganddynt, gan geisio llunio cymhariaeth costau byw, i brofi bod rhieni'n ennill digon i dalu am addysg plant.

Y tro hwn, yn fwy nag erioed ers i Henry gyrraedd Cymru, mae'r pwysau arno i brofi'r ffydd hwnnw - ac efallai na fydd crafu buddugoliaeth yn ddigon da y tro hwn.

Ond doedd dim rhaid iddi ddangos dim i brofi pwy oedd hi ac fe gafodd grwydro oddi yno ar ei phen ei hun.

ato ef daeth y gŵr ifanc marconi i geisio cymorth i brofi ei ddyfais newydd i drosglwyddo negesau heb wifrau ; bu'n brif beiriannydd y swyddfa bost, ac yn ddiweddarach yn arloeswr gyda'r sistem gyhoeddus o gyflenwi trydan.

A dyma gyfle darllenwyr Mela i brofi bywyd yn LA drwy lygaid Mared.

Gan brofi cyflwr mor braf yw'r un benywaidd erbyn hyn.

Fi gafodd anrhydedd amheus y gorchwyl o brofi'r ddyfais.

Penderfynodd rheolwyr y parc gynnal profion wedi i BBC Cymru ofyn i gwmni annibynnol brofi'r deunydd.

'Wn i ddim beth mae hynny'n ei brofi ynglŷn â'r berthynas rhwng iaith a chrefydd, os ydyw'n profi unrhyw beth o gwbl .

Mae wedi'i brofi ei bod yn weddol hawdd i Du gael Gwerinwr yn ôl yn nes ymlaen.

wel yn syml iawn doedd y cysyniad ddim yn bod, syniad estron yw e, a beth y mae absenoldeb y gair yn ein ein ni'n ei brofi yw fod modd byw heb y syniad.

Cynfael Lake nad oes tystiolaeth gref i brofi mai yn Llangwm y cafodd yr anterliwtiwr ei eni ychwanega nad oes braidd ddim amheuaeth am ei gysylltiad â'r pentref.

Yr oedd llawer o gerddoriaeth cyfoes Ewropeaidd bryd hynny wedi'i drochi mewn euogrwydd - 'roedd straen cymdeithasol ar y cyfansoddwyr - cyfrifoldeb y cyfansoddwr tuag at ei gymdeithas, a 'roedden nhw'n benderfynol o brofi hynny.

Mae gwaith ymchwil arall yn tueddu i brofi bod gan aderyn allu ychwnaegol i ddarganfod y ffordd, a'i fod yn gallu defnyddio maes magnetig y ddaear.

Dyna brofi pa mor effeithiol ydi Rhodri fel prif leisydd, ac yn sicr fe fyddwn i'n creosawu mwy o'r math ysgafnach hwn o ganu.

Mae'r mathau o dasgau a osodir i brofi ymhellach ddealltwriaeth disgyblion o gysyniad neu faes, neu gymhwyso'r hyn a ddysgwyd i sefyllfa arall debyg, o orfod yn golygu defnyddio iaith.

Amcanem at geisio rhoi cyfle i Gaerdydd brofi ei hawl i fod mewn gwirionedd yn brifddinas Cymru ac ennill lle iddi ei hun fel amddiffynnydd ac arweinydd diwylliant y wlad y mae eisoes yn ganolfan iddi mewn materion masnach ac economeg, a chyda hynny o hunan lywodraeth sydd gennym.

Wrth lunio damcaniaeth am y berthynas rhwng dwy elfen, oni ellir gwrthbrofi'r gosodiad gyda'r ffeithiau sydd wrth law, yna, mae'r gosodiad yn dal tan yr arbraw nesaœ Hynny yw, ni ellir profi dim, eithr yn unig ei wrth-brofi.

Fe gawsom wledd gan Agenda Nos Sadwrn gan brofi a blasu yr awyrgylch yn bur effeithiol.

Fe'i daliodd o flaen y gynulleidfa rhwng bys a bawd, a chyhoeddi, 'Ma' 'na ddigon yn y potal bach yma i lladd chi i gyd!' Er cywilydd imi, ni allaf ddwyn i gof beth oedd y meddyg yn ceisio'i brofi yn y bregeth honno, dim ond i'r ffiol fygythiol gadw pawb yn bur effro o hynny ymlaen.

un sydd wedi ei brofi ym mhob peth, yn yr un modd â ni, ac eto heb bechod' (Heb.

Parhaodd y gêm banel unigryw Tutti Frutti, y cwis pop a gyflwynir gan Adam Walton sydd hefyd yn cyflwyno sioe nosweithiol, i ddenu cynulleidfaoedd mawr, yn yr un modd ag y gwnaeth Game On, lle mae Rupert Moon, y chwaraewr rygbi rhyngwladol, yn dyfarnu rhwng dau dîm o sêr o fyd chwaraeon i brofi eu gwybodaeth am chwaraeon.

Doedd neb wedi mynd drwy'r hyn oedd hi wedi ei brofi.

Daw'r awydd wedyn i sgrifennu yn Gymraeg i brofi iddo ei hun ac i'r cyhoedd ei fod yn wir Gymro.

Yn eu gwely'r noson honno ni fu diwedd ar eu chwerthin wrth iddynt feddwl mor wir oedd yr holl straeon a gâi eu hadrodd i brofi fod popeth gymaint mwy yn America.

Defnydiwyd gymysgedd o CorelDraw 3 a 4 a Paint Shop Pro 3 i greu'r graffeg; HTML Notepad yna Windows Notepad (pan sylweddolwyd bod HTML Notepad yn crap) i sgrifennu'r tudalennau HTML; Netscape Navigator 1.1 a 2 (fersiynau 32-bit) i brofi'r tudalennau; Word 6 i sgrifennu'r rhan helaethaf o'r cynnwys; a PageMaker 5 i gysodi a dylunio'r Tafod go iawn; a hyn i gyd yn rhedeg ar Windows 95 (ie, ie, ie, dwi'n sycyr, ond mae o werth o jyst am yr hwyl o allu gael tafod y ddraig fel eich saeth llygoden).

Tynnodd ef o'i logell a gweiddi ar y lleill, 'Fe ddaeth yr amser i brofi anrheg y ddraig.' Cymerodd ychydig o'r llwch ohono a'i daflu drosto'i hun a'i ferlyn.

Mae'n amlwg nad oes gan y sawl sy'n gyfrifol am eu hysgrifennu ddealltwriaeth na chydymdeimlad a Chymru na'r iaith Gymraeg ac mewn dogfen mor bwysig i ddyfodol ein gwlad gallant brofi'n ddamniol.

Y lle cyntaf yn Eifionydd y dywedir iddo brofi ffrwydriad diwygiadol ar batrwm cyfarfodydd y De oedd Golan.

Mae gan chwaraewyr Tîm A Cymru gyfle heno i brofi eu gwerth cyn i'r prif dîm chwarae De Affrica ddydd Sul.

Roedd Allan Lewis o Gasnewydd yn arfer bod yn hyfforddwr ar Lyn Jones o Gastell Nedd - pan oedd y ddau yn Llanelli - ac y mae'r ddau'n ymwybodol bod yma gyfle i'r disgybl brofi'i fod wedi dysgu holl driciau'r meistr.

Taith dyn a werthodd ei enaid i'r Diafol i brofi eto ieuenctid a mwynhad bywyd o bleseraur byd sydd yma.

O brofi buddugoliaeth unwaith fe all O'Sullivan synhwyrol fynd rhagddo i wneud hyn dro ar ôl tro.

Ar ddechrau Pwyll gellid dweud bod yr awdur am brofi mai gŵr anrhydeddus o gymeriad cadarn yw tad yr arwr, a chanddo urddas a phwysigrwydd arbennig trwy'r berthynas agos sydd rhyngddo a brenin Annwfn.

Mae o wedi ei brofi mewn sawl gwlad yn barod." Gwnaed yn union fel y dywedodd Llefelys a gweitniodd y cawl i'r dim.

Mi aed â sampl o'r defnydd i BBC Cymru ac mi gafodd ei brofi gan labordy annibynnol.

Mae Estella wedi hen brofi erbyn hyn eu bod yn rhoi perfformiad egniol a thynn wrth ganun fyw.

Ymateb y bardd yw fod Iesu'n ddyn o flaen popeth ac iddo yntau brofi 'angerdd ieuanc nwyd':