Gyda golwg ar y tair stori a leolir ym Morgannwg, straeon am gyfnod y Streic Fawr yng nghanol y dauddegau ydynt; ac yn un ohonynt, sef yn 'Gorymdaith,' teflir cip yn ôl ar y cyfnod yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan ddaethai hen dadcu a hen famgu Bronwen i'r cymoedd am y tro cyntaf, 'wedi teithio mewn cert o Sir Gaerfyrddin.' Un o ferched Arfon oedd Kate Roberts wrth gwrs - ni chaiff neb anghofio mai yno y'i maged: Arfon (fel y gwelsom) oedd y magned a'i tynnai hyd yn oed ar ei gwely angau - a chan mor gysa/ ct a thriw y portreada hi fywyd y werin-bobl a drigai yno, ei llenyddiaeth hi yw'r nesaf peth at hanes cymdeithasol bro'r chwareli a luniwyd erioed.
Syrth calon Bronwen 'fel pendil cloc pan dorro ei lein' ('Gorymdaith'); mae Lora'n teimlo ias 'tebyg i'r un a gafodd pan oedd yn blentyn, pan dorrodd lein y cloc mawr yn y gegin, gefn trymedd nos' (Y Byw Sy'n Cysgu); cwyd y pwysau oddi ar fynwes Bet 'yn araf, fel pendil doc yn codi wrth ei ddirwyn' (Tyroyll Heno).