Gan mor rymus yw arferion cymdeithasol a gallu'r dosbarth breiniol i ddylanwadu ar y sawl a dybiant sy'n isradd iddynt, derbyniodd y Cymry Cymraeg y drefn hon heb fawr brotest.
Gan yr ymddengys ei fod wedi camddeall diben y brotest, bydd llythyr arall yn cael ei anfon ato - ar ffurf mwy confensiynol - er mwyn iddo ddeall yn iawn beth yw gofynion y Gymdeithas.
Bu methiant y myfyrwyr i gyd-weithio'n effeithiol gyda'r gweithwyr a'r modd y bu i brotest y chwedegau chwythu'i phlwc yn gryn siom i Schneider a nifer o'i gyfoedion.
Byddai sôn am y brotest yn sicr o fod ar y teledu.
Un o'r cystadleuwyr aflwyddiannus oedd Dewi Emrys, a fanteisiodd ar y storm o brotest a ddilynodd i dynnu sylw at ei bryddest ei hun.
Cafwyd rhaglenni unigol gan gynnwys comedi oedd yn seiliedig ar brotest y beirdd yn erbyn BBC Radio Cymru, rhaglen ddogfen i nodi pen-blwydd y Tywysog Siarl yn 50, cystadleuaeth garolau genedlaethol a chyngerdd acwstig gan BBC Radio Cymru o'r Ganolfan Technoleg Amgen yng nghanolbarth Cymru.
Cyn bo hir cododd storm brotest o gyffiniau'r sêt gefn.
Nid dyna'r unig brotest gan Gymdeithas yr Iaith yn Nyffryn Lliw.
Cofiodd Anna am brotest Cymdeithas yr Iaith.
Yma yng Nghymru bu protestio yn erbyn y bwriad i foddi Capel Celyn ac 'roedd Saunders Lewis wedi cynhyrfu'r dyfroedd yn ei ddarlith 'Tynged yr Iaith'. Ond 'roedd oes y brotest yn lledaenu drwy'r byd, y duon yn yr Unol Daleithiau a'r mudiad heddwch newydd a godasai o ganol tanchwa Hiroshima a Nagasaki.
Mae Huw Lewis, Heledd Gwyndaf, Danny Grehan a Ffred Ffransis yn wynebu cyhuddiadau yn ymwneud â threfn cyhoeddus am eu rhan yn y brotest Deddf Iaith Newydd yng Nghaerdydd ar Ionawr y 6ed.
Parhaodd y brotest am 10 mlynedd.
Cododd storm o brotest yn sgîl coroni Prosser Rhys gan fod y bardd yn trin rhyw yn gignoeth agored yn ei bryddest, gan gynnwys gwrywgydiaeth.
Yn yr Hen Destament cawn brotest gref yn erbyn cyfrifiad a drefnwyd gan y Brenin Dafydd.
A buan y daeth y brotest yn erbyn honiadau totalitaraidd y method gwyddonol.
Yn absenoldeb technoleg bu'n rhaid defnyddio darnau o bapur er mwyn cofnodi yr hyn a ysgogodd pobl i ymwneud â'r Gymdeithas yn y lle cynta'. Bu'r grwp yma hefyd yn edrych yn ôl ar brotestiadau llwyddiannus ac aflwyddiannus - a chafwyd ychydig o chwerthin wrth glywed gan Siân Howys am y brotest waetha' a fuodd hi ynddi erioed - dim ond hi ag un dyn bach arall yr y stryd yn yr Wyddgrug.
Yr unig brotest wirioneddol effeithiol fyddai i'r bobol hyn hepgor eu ceir yn llwyr a chanfod ffordd arall fwy cyfeillgar o fynd a dod i'w gwaith.
Yr unig un o'r penaethiaid i wrthod ymuno yn y brotest oedd Dr Routh, Coleg Magdalen, ac efô oedd yr unig un ohonynt a oedd yn wir hyddysg mewn diwinyddiaeth.
Bellach, gyda'r saithdegau yn tynnu i derfyn, daeth cyfnod y brotest fawr i derfyn.
Nid oedd arno ofn troi ei nodiadau golygyddol yn brotest gyson yn erbyn rhyfel a thrais, crogi a charchar, yn enwedig pan garcherid bechgyn a merched oherwydd eu syniadau gonest.
Rhoes y chwyrnwr roch sydyn o brotest, ac yna bu tawelwch mawr.
Yn dilyn y brotest ddydd Sadwrn dywedodd:
Er mai dim ond clywed ambell brotest tu fas i'r lle 'ma wy i, a chael cadw'r lloffion o'r Echo amdana i; 'na'r cyfan.
Ceir yn y ddwy yr un awydd i gyfuno'r brotest lenyddol esthetig a'r defnydd o gyfryngau barddonol blaengar, newydd.
A thynnwyd colyn y brotest.
Ar lwyfannau'r cylchgronau Cymraeg bu pobl fel SR a Thomas Gee yn gweiddi'n groch yn erbyn gorthrymderau o bob math, ond dull y brotest ddi-drais a ffefrid gan lawer (hyd yn oed David Rees 'y cynhyrfwr').
Cerddi eraill: Un o'r cystadleuwyr aflwyddiannus oedd Dewi Emrys, a fanteisiodd ar y storm o brotest a ddilynodd i dynnu sylw at ei bryddest ei hun.
Gosodwyd y brotest i fyny ar fyrddau hysbysebu'r colegau, er mwyn rhybuddio'r myfyrwyr rhag y Traethawd.
Ond allai ddim peidio a meddwl fod y brotest betrol ddiweddaraf 'ma yn un o'r syniadau hurtaf 'rioed.
Fodd bynnag, bu'r brotest symbolaidd a'r ddameg yn effeithiol, a throes y storm yn gyfrwng i ddangos maint 'cariad y darllenwyr annwyl tuag at ein cylchgrawn'.
Blwyddyn y brotest fawr, protestiadau Cymdeithas yr Iaith, protest y Chwith, protest y duon, a phrotest heddwch drwy Gymru, Ewrop a'r byd.
Thema ganolog: Oes y Brotest: cyfnod y protestio mawr yng Nghymru ac ym Mharis, America, a mannau eraill; yr Arwisgo yng Nghymru yn chwalu gobeithion llawer ond yn caledu cenedlaetholdeb, protestio mawr gan Gymdeithas yr Iaith ar faes yr Eisteddfod, ond y cyfan yn diweddau mewn siom gyda phleidlais negyddol Cymru yn y Refferendwm ar Ddatganoli ym 1979, ac ymateb T.James Jones yng nghystadleuaeth y Goron.
Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol Blwyddyn y brotest fawr, protestiadau Cymdeithas yr Iaith, protest y Chwith, protest y duon, a phrotest heddwch drwy Gymru, Ewrop a'r byd.
A chorfforwyd y brotest yn y Mudiad Rhamantaidd mewn llenyddiaeth, celfyddyd a miwsig.
Daeth y gân brotest a chwlt yr ifanc i mewn i'r Eisteddfod.
Yr un fu'r stori hyd yn oed pan fyddai'r brotest yn gryf ac yn unol.
Yn ôl Dylan Phillips, 'Go brin fod gan yr aelodau cyffredin y diddordeb lleiaf yn yr athronyddu a'r gwleidydda: profiadau uniongyrchol y brotest a'r weithred a oedd yn eu diddori hwy' (t.181). I fudiad ymgyrchu dyma un o'i gryfderau: tra bod rhai mudiadau eraill yn trafod beth i'w wneud, mi roedd aelodau'r Gymdeithas yn gweithredu ac yn tynnu sylw at ddiffyg statws yr iaith.
Thema ganolog: Llwyddiant: symud ymlaen ar ôl siom y Refferendwm ar Ddatganoli at brotest Gwynfor Evans ym 1980 ynghylch sefydlu Pedwaredd Sianel Cymru; sefydlu'r Sianel ym 1982, a diweddu gyda Chymru yn ymateb yn gadarnhaol i'r ail Refferendwm ar Ddatganoli, a'r Cynulliad ar ei ffordd ar gyfer y mileniwm newydd.
Daeth llwyfan y genedlaethol yn llwyfan gwleidyddol unwaith yn rhagor; daeth maes y Brifwyl yn faes y brotest.
Erbyn hyn fe welwyd ffrwyth y brotest arwyddion ffyrdd wedi i'r Llywodraeth gytuno i osod arwyddion dwyieithog, Yn y gerdd hon nid gofyn 'paham yr anniddigrwydd' y mae'r bardd, ond edmygu gwydnwch y protestwyr yn hytrach.
'Roedd Rhamantiaeth y beirdd hefyd yn ei ffordd yn brotest yn erbyn y pryddestau diwinyddol, gyda'u disgrifiadau o harddwch corfforol merch yn enghraifft o rywioldeb yn dechrau treiddio drwy ffug-barchusrwydd a rhagrith crefyddol y cyfnod Fictoriaidd yng Nghymru.
Yn hwyr neu hwyrach, byddai'n rhaid i bryder droi'n brotest.
Miloedd o ferched yn ffurfio cadwyn brotest 14 milltir rhwng Comin Greenham, Aldermaston a Burghfield.
'Roedd awdl anfudugol James Nicholas yn adlewyrchu dechreuad oes y brotest.
Roedd eitem gyflawn am y brotest ar y prif newyddion ac Enlli Owens oedd canolbwynt pob sylw.
Cerdd Dant a Chynghanedd yn cael eu llusgo dan brotest i gefn Folfo a'r Babell Lên grand yn lle "i gael y'ch gweld" o'i chymharu â'r hen gwt ieir annwyl a fu.
Thema ganolog: disgyflogi, diboblogi, a bygwth dwyn tir Cymru yn arwain at ddechreuad Oes y Brotest: cenedlaetholdeb ar gynnydd yn sgîl y bygythiad i foddi Cwm Tryweryn, darlith 'Tyned yr Iaith' Saunders Lewis a ffurfio Cymdeithas yr Iaith, a phroblemau economaidd a gwleidyddol Cymru yn arwain at gyfnod y Brotest; a buddigoliaeth Gwynfor Evans yng Nghaerfyrddin efaill yn pwyntio i gyfeiriad Oes y Brotest.