Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

brotestiadau

brotestiadau

Ond pan oedd hi wedi cau'r drws ffrynt yn glep ar brotestiadau Emyr a chychwyn ar ei thaith, roedd Carol wedi disgwyl - nage, wedi cynllunio - y byddai Guto'n siŵr o syrthio i drwmgwsg y munud y byddai'r car ar y draffordd.

Yn absenoldeb technoleg bu'n rhaid defnyddio darnau o bapur er mwyn cofnodi yr hyn a ysgogodd pobl i ymwneud â'r Gymdeithas yn y lle cynta'. Bu'r grwp yma hefyd yn edrych yn ôl ar brotestiadau llwyddiannus ac aflwyddiannus - a chafwyd ychydig o chwerthin wrth glywed gan Siân Howys am y brotest waetha' a fuodd hi ynddi erioed - dim ond hi ag un dyn bach arall yr y stryd yn yr Wyddgrug.

Mae'n amlwg fod Lenz yn gweld colli'r emosiwn a'r angerdd a oedd yn rhan o brotestiadau'r chwedegau ac yn teimlo mai llwm a dideimlad yw gwleidyddiaeth y saithdegau cynnar mewn cymhariaeth.