Gūr arall y bu'n fraint imi gael bod yn gyfaill iddo oedd Ioan Brothen.
Pan ddechreuais ysgrifennu "Lloffion" i'r "Genedl" dechreuodd Ioan Brothen ymddiddori'n anghyffredin ynof, oherwydd fy nawn, meddai ef, i "ddarganfod ffeithiau newydd am y plwy a'r wlad".
Yr oedd gennyf gymaint o feddwl o Ioan Brothen fel gūr diwylliedig nes imi ddweud ar ddarlith i fyfyrwyr Bangor un tro : "O ran ei ddiwylliant mi dynnwn fy het i Ioan Brothen na chafodd ond chwech wythnos o ysgol o flaen eich hanner chi% Ym myd hynafiaethau bu Ioan Brothen yn fwy o help imi na neb.