Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

brwdfrydedd

brwdfrydedd

Gwelodd rhai yn dda ganmol brwdfrydedd yr HC, a arweiniodd at chwilfrydedd cyffredinol o fewn yr ysgol.

Ceisiodd Hector groesawu brwdfrydedd y gwynt llym, gan obeithio magu lliw haul, neu, o leiaf, liw tywydd ar ei groen tyner.

Hawdd gweld beth sy'n ennyn brwdfrydedd yr awdur.

Mae disgyblion yn darllen gyda brwdfrydedd ac yn datblygu'r arfer o ddarllen yn eang er pleser a gwybodaeth.

Ffurfiwyd amserlen drom o hyfforddi, a'r dewiswyr yn eu doethineb yn rhoi saib i'r prif chwaraewyr bob hyn a hyn yn ystod yr wythnose ola cyn y gêm, er mwyn sicrhau brwdfrydedd pob aelod o'r garfan.

Bu'r rhieni yn amyneddgar am amser hir ac ni phallodd eu brwdfrydedd a'u penderfyniad i gael addysg trwy gyfrwng y Gymraeg i'w plant yn y Rhondda.

Ia, fwy na heb.' 'A'r brwdfrydedd ddim cweit digon ysol.' 'O bosib.'

Dewch â syniadau a brwdfrydedd efo chi.

Gellir canfod yn y newid mawr a ddigwyddodd yn y lleoedd y bu+m i'n byw ynddynt mai brwdfrydedd a chefnogaeth y rhieni gan mwyaf a barodd fod ysgolion Cymraeg ynddynt bellach.

Roedd brwdfrydedd mawr ymhlith y merched, yn naturiol, ac Aurona yn eu plith, gan mai dyma'r tro cynta iddi hi a rhai o'r merched eraill gael cyfle i deithio i wlad dramor.

'Roedd Brian Williams yn amlwg yn y sgarmes fel arfer, a chafwyd ymroddiad a brwdfrydedd gant y cant gan y bachwr o Lyn Nedd, Andrew Thomas.

Yn enedigol o'r ardal - fe'i magwyd yn Nhalysarn - dywed i'r holl bwyllgorau fod yn eithriadol o weithgar ac er fod llai o "ddwylo'' i'w cael nag mewn ambell ardal arall oherwydd poblogaeth denau ni fu pall ar eu brwdfrydedd, meddai.

Gwelwyd dirywiad enbyd yn y brwdfrydedd hwn yn y chwe degau am amryw resymau, nid y lleiaf ohonynt ddatblygiad y cyfryngau.

Mae gan bob un gariad tuag at gerddoriaeth a brwdfrydedd dros ganu.

Os oedd hi'n ddydd gŵyl arnom a'r haul yn tywynnu ar bob anturiaeth, yn sydyn - chwim cyrhaeddai Talfan fel cwmwl yn taflu'i gysgod i oeri'n brwdfrydedd ac i dywyllu'n sbri.

Ond dan y brwdfrydedd hwnnw, rydym yn gwbl ymwybodol o ddifrifoldeb y sefyllfa.

Teimla'r Gymdeithas ei bod yn bwysig mynd a'r Wyl i fannau fel hyn, lle y cafwyd brwdfrydedd lleol anhygoel a chydweithrediad perffaith y pwyllgorau lleol a'u swyddogion i gynnal g^wyl oedd gyfuwch ei safon a'r un a gynhaliwyd.

Doedd dim golwg fod y brwdfrydedd am godi arian yn pylu.

a chymerwyd y syniad i fyny gyda brwdfrydedd gan rai o'r myfyrwyr Cymreig" Nid oes amheuaeth nad Lleufer Thomas oedd ffynhonnell gwybodaeth RW Jones a T.

Mae hinsawdd o'r fath yn gymorth i hyrwyddo brwdfrydedd ar ran disgyblion i fanteisio ar bob cyfle y gall addysg Gymraeg ei gynnig drwy elwa'n llawn ar gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg a phrofi agweddau amrywiol o'r diwylliant Cymraeg.

Hawdd yw bod yn genfigennus o'r angerdd yn ei cherddi ac o'i brwdfrydedd.

ni lwyddodd y brwdfrydedd a amlygwyd yn ystod y gynhadledd i barhau am yn hir yn ei ymchwydd ac i ddylanwadu ar drigolion prydain gan i louis napoleon bonaparte, tua deufis ar ôl y gynhadledd, ddymchwel gweriniaeth ffrainc drwy coup d' tat a gwneud ei hun yn ymherodr napoleon y trydydd.

Daeth y Gymdeithas Brydeinig er Hyrwyddo Gwyddoniaeth i Gaerdydd i ddathlu Wythnos Wyddoniaeth eleni, ac, yn awyddus i roi'r pwnc o fewn cyrraedd pawb, dangosodd BBC Cymru Mad on Science, a gynhyrchwyd gan Cambrensis, a sicrhaodd brwdfrydedd heintus y cyflwynydd Gareth Jones gynulleidfa fawr i bwnc difrifol.

Gobeithiwn y medrwch ennyn brwdfrydedd a chwilfrydedd yn eich disgyblion a datblygu ynddynt ffordd feirniadol a chreadigol o feddwl, yn ogystal â datblygu eu sgiliau cyfathrebu a sgiliau ymarferol labordy a gwaith maes.

Yn anffodus, ysywaeth, pallodd y brwdfrydedd ac erbyn heddiw ychydig o ddiddordeb geir mewn aredig yn y mudiad.

Bu llawer o'r datblygu yn ystod y cyfnod hwn oherwydd brwdfrydedd heintus a gweledigaeth y diweddar Alun R.

Os oedd brwdfrydedd y dysgwyr yn dod â hyder newydd i Gymru, 'roedd y cyni economaidd ar ddechrau'r wythdegau yn gweithio'n groes i'r hyder hwnnw.

Dyma pam yr aeth Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i Ysgol y Parc, ger y Bala, i lansio'r peiriant newydd, ac roedd y criw a fu yno yn gytûn fod brwdfrydedd ac awydd y plant am ddefnyddiau Cymraeg ar y we yn galonogol y tu hwnt.

Roedd brwdfrydedd ac egni gan y grŵp a'r cwmni i wneud y recordiau yn llwyddiant, drwy eu hyrwyddo nhw'n drylwyr a threfnu nosweithiau.

Ni ellir deall gwreiddiau'r brwdfrydedd hwnnw heb ddeall agwedd y dyneiddwyr at hanes Cymru - ei gorffennol hi yn ogystal a'i hamgylchiadau presennol.

Y mae hefyd yn bwnc lle gall ennyn brwdfrydedd y myfyrwyr fod yn waith hynod o anodd oherwydd y reddf sydd yn hanfod pob un ohonom i amddiffyn ein hunain rhag gofidio gormod am boenau pobl eraill.

Y mae'r olaf yn cyflym adennill ei nerth ac yn medru ailgydio mewn bywyd gyda brwdfrydedd.

Byddai'n bwrw i'r darllen â brwdfrydedd gwyntog, ond os digwyddai fentro i faes cymhleth y 'bennod gladdu' yn y Corinthiaid, byddai'n dueddol o faglu ar draws brawddegau aml-gymalog yr Apostol Paul.

Gwedd arall ar y brwdfrydedd ym Mhwllehli oedd mynd â'r cyfarfodydd y tu allan i'r addoldai.

O'u defnyddio yn y dosbarth, gall yr offer yma arbed y darlithydd neu'r athro rhag gorfod llafurio i ennyn brwdfrydedd a diddordeb yn y pwnc trwy ddisgrifio a rhestru ffeithiau yn unig.

Hwyrach ei bod hi'n anodd i rai ohonom ni yng Nghymru ddeall y brwdfrydedd mawr hwn o blaid Mrs Thatcher.

Yn lle brwdfrydedd y cyfnod hwnnw rhaid wrth drafnidiaeth effeithiol.

Yn hytrach fe'i rhyddheir i gyfeirio brwdfrydedd newydd y grŵp i ba faes bynnag sydd fwyaf addas o fewn y cyd-destun datblygu ehangach.

Aeth nerth, egni a brwdfrydedd yn brin ac y mae anffyddlondeb i oedfeuon yn rhemp.

Pedair awr yn ddiweddarach mae'r ysbryd yn well gyda brwdfrydedd anhygoel Cura wedi cyffwrdd pawb.

Edmygwn eu hasbri a'u brwdfrydedd.

Felly yr un cynlluniau asesu sydd ar y gweill i'r gorau o Ynysoedd Prydain yn ogystal â'r brwdfrydedd sy'n rhan annatod o gymeriad lliwgar Steve Black.

'Rwy'n teimlo 'mod i yng nghanol ffrindia'." Un siaradus oedd Deilwen Puw, yn llawn brwdfrydedd ac yn barod i hoffi popeth ynglŷn â'r pasiant, y dathlu a'r ardal yn gyfan.

Y mae arnynt ôl yr egni, yr hwyl, a'r diffyg gofal am yr oblygiadau, a ddaw o gydgyfansoddi gan rai oedd yn rhannu egwyddorion a brwdfrydedd dros eu lledaenu.

Mae treulio wythnos yn theatr Fach wedi bod yn brofiad addysgiadol iawn i BW wrth sylwi ar holl weithgaredd tu ol i lenni'r Theatr ac mae'r hyn y mae wedi ei weld wedi ennyn brwdfrydedd ac edmygedd.

Nid oedd cofrestrydd y Coleg ar y pryd yn ei chael yn hawdd dygymod â brwdfrydedd cenedlaethol y myfyrwyr.

Ond fy ateb oedd, "Nawr mae'r frwydr yn dechrau!" Diamau i mi gael siom aruthrol, oherwydd, erbyn Cynhadledd y Cilgwyn, 'roeddwn fel Job gynt, yn llawn cornwydydd, ond nid ataliodd hyn ddim ar y gweithgareddau na'r brwdfrydedd.

Dywedodd Ysgrifennydd Iechyd Cymru, Mr Nicholas Bennett AS, 'Y mae brwdfrydedd ac ymrwymiad aelodau Sefydliad y Merched wrth gynnal y rhaglen Cymry'n Colli Pwysau wedi gwneud cryn argraff arnaf.

Er enghraifft, credai fod cyfiawnhad tros gynnal pregethu gyda chymorth arian cyhoeddus a phan ddaeth Deddf y Taenu i rym ymunodd pobl Llanfaches gyda brwdfrydedd yn y gweithgarwch.

Gwendid o fewn pob menter wirfoddol yw y gall y diddordeb bylu ar ol y brwdfrydedd cyntaf, a chlywid y wireb honh yn aml yn nyddiau sefydlu'rpapurau bro cyntaf.

'Bydd y lle yn oer,' oedd yr esgus a gawn dros y diffyg brwdfrydedd yma.

Neu a oedd y Cymry yn adlewyrchu yn hyn o beth y brwdfrydedd a deimlid yng ngwledydd eraill Ewrop dros hanes y gorffennol pell a oedd yn porthi'r ymdeimlad o genedligrwydd?

Roeddwn i'n mynd yn ddel a'r gwynt o'm tu a'm cyfeillion ar y lan yn llawn brwdfrydedd pan glywais glec, a theimlo rhywbeth yn taro un o'r tanciau.

Y mae ef yn dal fod yr Hen Ymneilltuaeth syber, ddeallusol, oeraidd wedi marw ac Ymneilltuaeth newydd wedi codi o'i llwch, a'i brwdfrydedd yn cael ei fegino gan awelon cynnes y Diwygiad Efengylaidd.