Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

brwydrau

brwydrau

Er mwyn gwerthfawrogi beth oedd yn ysgogi'r brwydrau, rhaid cadw rhai pethau mewn cof.

Cydnabyddai hefyd fod y dewin hwn o Dywysog yn dechrau heneiddio a digon prin y byddai'n ymladd brwydrau yn y Deheubarth mwy.

Wedi'i glywed yn datgan ...nid y ffordd i ennill brwydrau egwyddorion yw lluchio arwerthwyr a cherrig a thywyrch.

'Bydd yn ddiddorol gwylio'r brwydrau personol.

Yn ei gerdd 'Hendref' mae'n rhoi disgrifiad perffaith o warth 1979: 'Mawrth y gwrthod a'r gwerthu'; ond wedi ystyried y brwydrau i warchod Cymreictod yn yr wythdegau, mae'r bardd yn gweld fod gobaith o hyd.

Iawn, mae'n hollol amlwg ers tro byd bod Dafydd Êl wedi hen flino ar 'frwydr yr iaith'. Brwydrau pobl eraill ar draws y byd dros ryddid a chyfiawnder -- dim problem; rhaid yn wir iddo ddangos cefnogaeth (darllener ei genadaethau eangfrydig a thrawswladol yn ei golofn wythnosol yn yr Herald Gymraeg). Ond, jyst am fod Dafydd Êl wedi penderfynu ei fod am optio allan o'r broses drafferthus honno o greu trefn newydd yng Nghymru a 'hyrwyddo' chwyldro yn hytrach na bocsys te dwyieithog, yna does bosib bod disgwyl i'r gweddill ohonom lyncu gweledigaethau ffantasïol a thra cyfnewidiol y cyn-gefnogwr streiciau dros hawliau gweithwyr a chym-unedau a symudiadau ymgyrchol/protestgar cyffelyb.

Y gosodiad pwysicaf yn y paragraff, fe ddichon, yw'r cymal sy'n dweud fod Arthur wedi ymladd yn erbyn y Saeson gyda brenhinoedd y Brytaniaid, ond mai ef oedd 'arweinydd y brwydrau' y dux bellorum.

Brwydr mewn du a gwyn oedd brwydr Trefechan a'r brwydrau am gyfnod maith wedi hynny.

Y man cychwyn yw'r brwydrau i atal cau ffatrïoedd.

Ym Mawrth, awgrymasai nad oedd diben i'r Blaid, gan fod brwydrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg eisoes wedi eu hennill.

Paris, drwy'r oesau, fu llwyfan eu brwydrau syniadaethol gwleidyddol a milwrol.

Yr oedd y fyddin hon wedi bod mewn pump neu chwech o'r prif frwydrau diweddaf - brwydrau ag y mae eu henwau a'u hanes yn dra adnabyddus i ni oll, sef brwydrau caerfa Fisher, Wilmington, Dyffryn, Shenandoah, Petersburgh, a Richmond .

Y peth sy'n dod yn amlwg wrth adolygu'r brwydrau yw'r cyfraniad aruthrol a wnaeth Plaid Cymru.

Yr oedd yn gymeriad lliwgar, yn heddychwr y rhoddwyd min ar ei dystiolaeth gan y clwyf a ddioddefodd fel milwr yn y brwydrau yn Nyffryn Somme yn ystod Rhyfel Byd I.

Dyna paham y mae brwydrau Arthur, a restrir yn yr Historia Brittonum, i bob golwg mor bell oddi wrth ei gilydd, yng Nghoed Celyddon, yng Nghaerllion, ym Maddon yn ne Lloegr, neu yn Llynnwys (sef Lindsey) yn y dwyrain.