Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

brwydro

brwydro

Mwy o hanes y brwydro ar y newyddion heno, a rhai manylion am y bechgyn a laddwyd.

Ac i'r glowyr, oedd wedi brwydro mor hir ac mor ddygn yn erbyn eu meistri, yr oeddynt ar drothwy'r fuddugoliaeth fawr.

meddwl rydw i am greulondeb rhai o'r pabau ac mae gen i ryw obsesiwn ynglŷn â'r chwilys, yna'r brwydro ofnadwy rhwng catholigion a phrotestaniaid, a'r creulondeb a'r poenydio a'r erledigaeth ar y ddwy ochr, a'r holl wrachod a gafodd eu llosgi, a ffanatigiaeth jonestown a arweiniodd naw cant o bobl i gyflawni hunanladdiad, heb sôn am y seiliau crefyddol y tu ôl i'r holocaust hynny yw fod yn cael ei hategu gan y celwydd taw'r iddewon groeshoeliodd crist, a'r defnydd o ddyfyniadau ysgrythurol i gyfiawnhau dienyddio gwrywgydwyr ).

Ond os gadawn ni i foroedd gallu a chariad Duw olchi trosom a thrwom, gall y rhieni drawsnewid unrhyw sefyllfa a rhoi nerth arbennig i ni i gario ymlaen a brwydro, beth bynnag yw tristwch neu ddigalondid yr amgylchiadau.

Brwydro ffyrnig yn Fietnam.

Unwaith yn rhagor, mae'n berffaith amlwg i'r rhai sydd wrthi'n brwydro mewn cymunedau Cymraeg fod y cyfan yn gallu bod yn faich dychrynllyd.

Sylweddoli mai gorfod brwydro yn erbyn amgylchiadau a rhagfarnau fel hyn yr oedd gwirfoddolwr fel Paul, a oedd yn Somalia am chwe mis cyn dechrau ar gwrs gradd yn mhrifysgol Lerpwl.

Ni all dim newid hynny ond penderfyniad, ewyllys, brwydro, aberth, ymdrech.

Darlledwyd y rhaglen Gymraeg gyntaf ym mis Tachwedd y flwyddyn honno, ond ar y cyfan trahaus oedd agwedd y BBC at yr iaith, a bu'n rhaid brwydro i gael rhaglenni Cymraeg.

Y brwydro yn dod i'w anterth gwaedlyd yn Passchendaele.

Darparwyd radio llawn teimlad gan y gyfres Tros Ein Plant, a oedd yn adrodd hanes rhieni'n brwydro dros eu plant a hefyd gan Ildio Dim, cynhyrchiad a oedd yn hwb i'r galon yn adrodd hanes y rheini sydd wedi llwyddo yn wyneb adfyd.

Ydy parchu traddodiad yn brwydro yn erbyn cyfoesedd?

Brwydro rhwng milwyr Prydeinig a'r IRA yn Belfast.

Roedd Y Barri a TNS (Llansantffraid) yn brwydro i ymuno â Merthyr, Abertawe a Wrecsam ym mhedwar ola'r Cwpan Cenedlaethol.

Roedd y bobl fu'n brwydro dros gael eu gwladwriaeth eu hunain yn methu â chael blancedi hyd yn oed.

Ac er bod John Williams yn rhwygo ymaith ei fasg rhagrithiol yn y cyfarfod dathlu ar ddiwedd y nofel, nid edifarhau ei fod wedi bradychu'r achos a wna, nid ymddiheruo i'r gwrth-ddegymwyr eraill ei fod wedi tynnu gwarth ar yr egwyddorion y buont hwy'n brwydro'n ddiffuant drostynt, ond ymdrybaeddu mewn hunan-gyffes sy'n arddangosfa lafoeriog o'i ostyngeiddrwydd a'i onestrwydd!

Brwydro Dygn am y Gwobrau Dyna fu hanes Ffermwyr Ieuanc Ynys Mon ddechrau mis dwytha.

Tra bod yna lygedyn o obaith bydd Cymru'n brwydro ymlaen.

"Ydy, Elystan." "Mi ddaw'r hogiau adre' o'r Deheubarth, adre o'r rhyfel gyda hyn efo byddin y Tywysog, Gwgon." "Ia, yn fuddugoliaethus." "Ac heb ddim i'w wneud am nad oes ar y Tywysog eisiau brwydro 'chwaneg yn erbyn ei hanner brawd yng nghyfraith, brenin Lloegr." "Fedar y sawl a aned i ryfal ddim diodda' segura.

Mae'r llyfr hwn yn ychwanegiad tra gwerthfawr at ein hadnoddau brwydro.

Mae hanes i'r awdur yn rhywbeth hanfodol ddramatig am fod pob trobwynt mor llawn o bosibiliadau, a'i bod yn rhaid brwydro a'r deg ewin i gael goruchafiaeth a meddiannu llwybr y traddodiad.

Yn ogystal, yng ngogledd y wlad, roedd y llywodraeth yn brwydro yn erbyn dwy garfan arall o wrthryfelwyr - byddin rhyddid talaith Eritrea a byddin rhyddid TigrŅ.

Serch hynny, y mae'r nod o sefydlu democratiaeth ddiwylliannol a chyfiawn i gwrdd â chyfrifoldeb yr unigolyn tuag at draddodiadau ei genedl yn nod y dylid brwydro i'w chynnal hyd eithaf ein gallu, a thrwy ennill calonnau ac ewyllys y bobl y mae unrhyw beth, dybiwn i, yn bosibl.

Y meddwl oddi tan y gofyn yw mai ofer brwydro heb obaith.

Nhw oedd y rhai a oedd ychydig is na'r gwleidyddion ond yn llawer mwy pwerus; yn cyrraedd meysydd brwydro ychydig wedi'r milwyr ac, weithiau, ychydig o'u blaen.

Tir, dwr, consgripsiwn, radio, teledu, symud poblogaeth, mewnfudo, diweithdra, iaith ac addysg - prin bod agwedd ar fywyd y genedl na bu'n faes brwydro rywbryd neu'i gilydd yn ystod yr hanner canrif diwethaf.

Darparwyd radio llawn teimlad gan y gyfres Tros Ein Plant, a oedd yn adrodd hanes rhienin brwydro dros eu plant a hefyd gan Ildio Dim, cynhyrchiad a oedd yn hwb i'r galon yn adrodd hanes y rheini sydd wedi llwyddo yn wyneb adfyd.

Dewis pa un ai i wylio cypffeinal pêl-droed olaf Lloegr o Wembley ynteu Lanelli ag Abertawe yn brwydro am gwpan rygbi Cymru.

Nid dibwys mo'r meddwl politicaidd iddynt, ond geilw argyfwng eu cyfnod am ymgyrchu a brwydro, yn bennaf peth.

Brwydro, lladd ac anafu mewn terfysgoedd enwadol yng Ngogledd Iwerddon a milwyr Prydeinig yn ceisio cadw'r ddwy ochr ar wahân.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ymrwymo i uniaethu ag unrhyw gymuned sy'n brwydro i gadw eu hysgolion ar agor a'u datblygu fel canolfannau dysg a chyfathrebu i'r gymuned.

Yn ystod pum mlynedd cyntaf y llywodraeth newydd, cafwyd brwydro ffyrnig wrth geisio tawelu gwrthwynebwyr y chwyldro.

Tasa hi ryw dro yn fy nghynnig i, mi faswn yn brwydro i'r pen.

Dyw'r Llywodraeth erioed wedi rhoi dim i'r Gymraeg heb ein bod ni'n brwydro amdano.

roedd yn rhaid brwydro ac aberthu dros bob un consesiwn.

Brwydro ar strydoedd Llundain wrth i ffasgwyr ymosod ar bobl o ddwyrain y ddinas.

Yn anffodus, fel y gwyddom, nid dyna ydi realiti yn ein hysgolion, gydag athrawon yn gorfod ymdrechu a brwydro o dan amgylchiadau anodd a di-gefnogaeth.

Nodwn yn unig mai elfennau sylfaenol yr hanes, gan ddilyn Sieffre o Fynwy yn ei Historia Regum Britaniae, oedd y chwedl-darddiad am Brutus, yr hanes am Gystennin yn Rhufain, hanes Arthur a'r brwydro yn erbyn y Saeson, gan gynnwys digwyddiadau megis Brad y Cyllyll Hirion.