Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

brycheiniog

brycheiniog

Davies, Llanelli (Brycheiniog) i ddangos 'gwrthuni ac anghysondeb tystiolaeth yr offeiriaid ac anwireddau'r adroddiad'.

Maes ail ran yr Adroddiadau yw siroedd Brycheiniog, Aberteifi, Maesyfed a Mynwy.

Ar ein ffordd adref aethom i Lanelwedd er mwyn imi annerch cyfarfod o bwyllgor siroedd Brycheiniog a Maesyfed o'r Undeb.

Cyfeiriodd Symons hefyd at anniweirdeb honedig y gwragedd yn siroedd Brycheiniog, Maesyfed a Cheredigion:

Fel Theophilus ei hun y mae gwreiddiau'r Athro Jenkins yn sir Aberteifi, ond Brycheiniog oedd y winllan y bu Theophilus yn llafurio ynddi am ran helaeth o'i oes ac yn Llangamarch y mae wedi ei gladdu, a hynny heb fod nepell o faes y Brifwyl eleni.

Daeth Symons i'r casgliad, parthed siroedd Brycheiniog, Ceredigion a Maesyfed, mai isel iawn oedd safon moesau.

Astudiaeth o ffonoleg a morffoleg iaith lafar Brycheiniog.

Sylwodd yn achos siroedd Brycheiniog, Maesyfed ac Aberteifi, ....

Nid oedd y sefyllfa yn wahanol ym Mynwy, Brycheiniog, Ceredigion na Maesyfed ychwaith.

Fe gafodd diroedd ym Mhonthamel, Brycheiniog hefyd a chariai y teitl o fod yn Is-Iarll Llanelwy.

Cychwynnais o'r ty yn Nhalyllyn wrth droed Cadair Idris yn fy Awstin Mini ben bore a theithio dros Ddylife a'r Epynt dros Fannau Brycheiniog a thrwy'r Hirwaun a Mynydd Rhigos.

Yn ôl Trioedd Ynys Prydein yr oedd plant Brychan Brycheiniog yn 'un or Tair Gwelygordd Saint Ynys Brydain'.

Mae'n debyg bod y Prif Uwch-Arolygydd â chyfrifoldeb am Faldwyn a Maesyfed a Brycheiniog, neu Adran "D" Heddlu Dyfed-Powys, â'i bencadlys yn y Drenewydd (sef Mr Merfyn Morgan), wedi esbonio'r cefndir a rhoi'r manylion am y digwyddiad ac roedd yn disgwyl cyngor gennym.

Dros fil o flynyddoedd yn ol safai Aberhonddu yng ngwlad Gymreig Brycheiniog, gwlad a enwyd ar ol y brenin Brychan a oedd yn fyw yng nghanol y bumed ganrif.

Dengys y casgliad mawr hwn fod ganddo lawer o noddwyr yn ei fro ei hun, ond ei fod hefyd yn arfer clera trwy Gymru gyfan, yn enwedig ar hyd y gororau yn siroedd Brycheiniog a Maesyfed.

Roedden nhw'n gyfarwydd bellach a thriciau gofaint Brycheiniog, sef dianc a chuddio gan fynd a chymaint o'u hoffer gwerthfawr ag y gallent gyda hwy.

Ganrif yn ddiweddarach eto, ceir cywydd gan Ddafydd Benwyn i siroedd Brycheiniog, Morgannwg a Mynwy, a hynny ar ol i ryw fardd 'Diddysg, digerdd a diddim' o'r enw Siancyn ei gyffroi.

Roedd hi'n fis Mai ac ar y bryniau i'r de i Fannau Brycheiniog roedd byd natur wedi penderfynu bod yr haf ar ddod.

Canodd Hywel ap Dafydd ab ieuan ap Rhys yn y bymthegfed ganrif i heddychu rhwng brycheiniog a Morgannwg.

Yn wir, yr oedd ei thad, Brychan Brycheiniog, o dras Wyddelig.

Gofidiau eraill oedd ar feddwl Thomas Horton; agwedd Sgweiariaid Brycheiniog yn flaenaf.

Darlunia Alun Llywelyn-Williams, yn Crwydro Brycheiniog, sut y byddai'r gyrroedd yn cyfarfod yn Llanddulas yn Nhirabad cyn dringo Mynydd Epynt, 'a hyd heddiw gellir dilyn eu trywydd, nid yn unig ar y ffyrdd glas, ond hefyd wrth enwau'r tafamdai, rai ohonynt yn ddim ond adfeilion mwy, a ddisychedai'r gwyr da, os nad eu hanifeiliaid hefyd, ar y daith, - Tafarnymynydd, ryw dair milltir o Landdulas, Tynymynydd neu'r Drovers' Arms ...