Rhydwen Willams a roddodd inni bortread o'r cymunedau glofaol yn ei bryddest fuddugol 'Ffynhonnau' yn Eisteddfod Abertawe ym 1964.
Mae'r bryddest hon yn enghraifft arall o Gwlt y Werin, ac yn arwydd hefyd o dwf Sosialaeth yn y cyfnod.
Yn un o'r cyfarfodydd hyn yr enillodd Watcyn Wyn un o'i wobrau cyntaf, a hynny am bryddest o bopeth, ar y testun 'Dafydd yn Lladd Goleiath'.
Cerddi eraill: Pryddest dafodieithol Dyfnallt Morgan am y llen yn disgyn ar Gymreictod, ar ddiwylliant Cymraeg ac ar yr iaith yn rhai o gymoedd De Cymru, a ffafriai Saunders Lewis, a hi oedd y bryddest orau o bell ffordd.
Fe'i collfarnwyd yn y wasg enwadol er iddi gael croeso gan Prosser Rhys, awdur y bryddest nwydus 'Atgof' yn yr un flwyddyn, fel 'un o'r darnau mwyaf addawol ac arwyddlon a sgrifennwyd gan fardd ifanc ers blynyddoedd'.
Ni all diweddglo'r bryddest ond peri meddwl nad oedd Crwys mor sicr o deilyngdod dyfodol ei werin ag ydoedd o'i gorffennol.
Ymosododd yn hallt ar bryddest Cynan am ddefnyddio geiriau sathredig, a gwrthododd ymddangos ar y llwyfan gyda'i ddau gyd-feirniad mewn protest yn erbyn eu dyfarniad.
Un o'r cystadleuwyr aflwyddiannus oedd Dewi Emrys, a fanteisiodd ar y storm o brotest a ddilynodd i dynnu sylw at ei bryddest ei hun.
Ni fyddai a wnelai gwerin ei bryddest ef â'r peth.
'Roedd Dafydd Rowlands wedi anfon dwy bryddest i'r gystadleuaeth.
Esboniad y ddau feirniad: nid oedd y bryddest ar y testun.
Cododd storm o brotest yn sgîl coroni Prosser Rhys gan fod y bardd yn trin rhyw yn gignoeth agored yn ei bryddest, gan gynnwys gwrywgydiaeth.
Cerddi eraill: Y bryddest orau yn ôl Gwylfa oedd pryddest J. Dyfnallt Owen, prifardd coronog 1907.
Defnyddiwyd Y Gododdin , Aneirin, yn sail i'r bryddest, a sonnir ynddi am y ddwy genhedlaeth a aeth i ryfel, cenhedlaeth y Rhyfel Mawr a chenhedlaeth yr Ail Ryfel Byd.
Cyhoeddwyd ei bryddest mewn llyfr ar y cyd ag awdl anfuddugol Alafon a thelynegion ail-orau Eifion Wyn ym Mangor.
Ceir yn y bryddest linellau a darluniau a aeth wedyn yn rhan o'n treftadaeth: Heintiau'n cyfarch hetiau'n fonheddig, Gwenau'n dinoethi dannedd ar y stryd.
Mae'r llen yn y bryddest yn llen haearn rhwng yr hen wareiddiad Cymreig a'r bywyd di-Gymraeg.
Yr oedd yr hen ffurfiau yn anghymwys ar gyfer dweud yr hyn a ddymunai, yr union brofiad a ysgogodd barodi Williams Parry ar 'Yr Haf.' Ond erbyn y bryddest 'Adfeilion' trodd y dull parodiol yn arf gynnil.
Cerddi eraill: Un o'r cystadleuwyr aflwyddiannus oedd Dewi Emrys, a fanteisiodd ar y storm o brotest a ddilynodd i dynnu sylw at ei bryddest ei hun.
Defnyddiwyd Y Gododdin, Aneirin, yn sail i'r bryddest, a sonnir ynddi am y ddwy genhedlaeth a aeth i ryfel, cenhedlaeth y Rhyfel Mawr a chenhedlaeth yr Ail Ryfel Byd.
Dim ond 5 pryddest a anfonwyd i gystadleuaeth y Goron, ac nid oedd y beirniaid yn llwyr fodlon ar y bryddest a wobrwywyd.
Cerdd anodd ar ffurf dialog oedd y bryddest hon, ond fe lwyddodd Tom Parri-Jones i danlinellu rhybudd a wnaed gan bobl fel Saunders Lewis, sef bod derbyn yr egwyddor ' Bread before beauty' yn warth ar y genedl.
Fe'i plesiwyd, fodd bynnag, gan bryddest 'farddonol' Glanffrwd, pryddest faith a rychwantodd y canrifoedd wrth ddathlu goludoedd y Gymraeg.
'Roedd y bryddest yn cyfeirio at y dioddef a welwyd ar fwrdd y Sir Galahad, ac yn gresynu fod pobl o'r un hil, o Gymru ac o Batagonia, yn tanio ar ei gilydd.
Ysbrydolwyd y gerdd hon gan genedlaetholdeb hefyd, yn union fel yn achos awdl y Gadair, ond cenedlaethodeb y bêl yn hytrach na chenedlaetholdeb y bleidlais oedd thema'r bryddest fuddugol.
Glynn Davies destun ei bryddest.
Gwelwn ar unwaith mai'r un persona sydd gan adroddwr y bryddest a'r bardd ei hun mewn ambell gerdd arall: wrth gyfeirio, er enghraifft, at hen bobl nad ydynt yn awr ddeifiol hon ond gwefusau carpiog yn y gwynt a'r lleill y calonnau aeddfetgoch a'u chwerthin yn deilchion yn y brwyn a'r gwallt ar chwal.
Creodd y bryddest hon gryn drafodaeth oherwydd ei bod yn cyfleu safbwynt gwahanol i'r safbwynt a goleddai gwrthwynebwyr y mewnfudo i gefn gwlad Cymru a welwyd ers yr Ail Ryfel Byd.
Gwrthododd y beirniaid goroni pryddest Cynan am fod ynddi ormod o sôn am y Rhyfel, a choronwyd yn hytrach bryddest ddof Robert Beynon.
Er bod teimladau dwys ac ingol y tu ôl i bryddest fuddugol L. Haydn Lewis, pryddest eiriog a chwithig ei chystrawen ydyw.
Pryddest dafodieithol Dyfnallt Morgan am y llen yn disgyn ar Gymreictod, ar ddiwylliant Cymraeg ac ar yr iaith yn rhai o gymoedd De Cymru, a ffafriai Saunders Lewis, a hi oedd y bryddest orau o bell ffordd.
Cyfeirio'r wyf at bryddest T.
Yn ei bryddest mae Euros Bowen yn sôn am y bygythiad newydd a ddaeth wedi'r Ail Ryfel Byd, y gwrthdaro rhwng y gorllewin a'r dwyrain, rhwng y system gyfalafol a chomiwnyddiaeth, sef cyfnod y Rhyfel Oer, a'r byd dan gysgod difodiant.
Pryddest sy'n cyfateb yn thematig i awdl y Gadair, gyda'r orsaf rocedi yn Aber-porth yn symbol o allu dinistriol dyn, a'r 'hil' yn y bryddest, gwerin milltir sgwâr y bardd, yn cynrychioli grymoedd cynhaliol a chreadigol dyn ar hyd yr oesoedd ‚ dyn fel dinistriwr a dyn fel goroeswr a dyfeisiwr.
Mae'r bryddest yn llawn o angst y cyfnod ôl-Ryfel: siom, dadrith, euogrwydd, gwacter ystyr, a chais i foddi'r gwacter ystyr hwnnw yn y clybiau nos yng nghanol meddwdod, anfoesoldeb, y 'tango' a 'jazz'. Ceir ynddi ddisgrifiadau cignoeth o ymladd yn y ffosydd.