Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

brydeinig

brydeinig

Yn wir, roeddwn mor hyfedr ar wneud hyn nes fy newis i fod yn gyfrifol am y faner ymhob cynulliad pryd y gelwir ar yr holl drwp i saliwtio'r faner Brydeinig, seremoni nad oeddwn yn ei hystyried yn fradwrus y pryd hynny.

Dyma'r union ddyn fyddai'n cael ei alw'n 'Calamity Carlos' a 'Mad Menem' yn ddiweddarach gan y wasg Brydeinig.

Ble fydd y "genedl Brydeinig" wedyn?

Gwelir hyn yn hanes diweddar Cymru; chwyddo nerth a gogoniant y wladwriaeth Brydeinig fu swyddogaeth y genedl hon ers cenedlaethau.

Yn ôl Jan Morris, does neb sy'n fwy hyblyg wydn na'r Tseineaid, fel y tystia methiant yr ymerodraeth Brydeinig - hyd yn oed ar ei haruthredd mwyaf - i wneud fawr o argraff ar eu 'down-to-earth genius'.

Yn wir, trwy gydol fy mywyd bu+m i yn fwy o awdures Americanaidd nag o awdures Brydeinig.

Yn arwyddocaol cyhoeddwyd codi'r gwaharddiad hwnnw ddiwedd 1992 gan Syr Patrick Mayhew, a hynny fel rhan o'r negodi manwl rhwng y Llywodraeth Brydeinig a Sinn Féin a arweiniodd at gadoediad cyntaf yr IRA a'r broses heddwch a gynhyrchodd Gytundeb Belffast.

Un genedl fawr Brydeinig ydym, o dan yr un Llywodraeth, yn cael ein cynrychioli yn yr un senedd gyffredinol, ac y mae ein gwir nerth yn ein hunoliaeth... ac y mae'n rhaid imi ddweud nad oes ynof ond ychydig o gydymdeimlad â'r cri a godir yn y dyddiau hyn am gael Plaid Gymreig yn y senedd.

Yr hyn nad oeddwn wedi'i sylweddoli oedd ein bod y tu allan i ffiniau'r hen Ymerodraeth Brydeinig erbyn hyn - ble bynnag y bu honno, mi allasech fentro bod 'na lawer o stomp ar ei hôl hi, fawr iawn o drefn ar ffyrdd, ysgolion ac ysbytai ac ati - ond roeddach chi'n saff dduwcs o gael un peth safonol, sef stadiwm fawr urddasol o amgylch cae criced.

Dydw i ddim yn cofio a oedd Dafydd Elis Thomas yn un ohonyn nhw; ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf mi fuo na sawl un yn cwyno i'r Wasg Brydeinig droi ei chefn ar Gymru.

'Roedd yno radio,flynyddoedd cyn i ni gael un yn Nhy Capel, fy nghartref erbyn hynny, ac uchafbwynt y pnawn fyddai'r darllediad a ddechreuai tua dau o'r gloch - Llundain yn galw pellafoedd yr Ymerodraeth Brydeinig.

Nid oes angen dweud mai'r cam cyntaf tuag at sylweddoli'r amcanion hyn, yn nhyb Sinn Fe/ in, yw gorfodi'r llywodraeth Brydeinig i derfynu ei hymyrraeth ym mywyd Iwerddon.

mae'r archif sain unigryw hon o fywyd Cymru wedii hanfon i Gronfa Cof y Mileniwm yn y Llyfrgell Brydeinig.

Sgwn i faint fydd hi cyn y bydd y Cymry hynny a gwynai gymaint fod y Wasg Brydeinig yn anwybyddu Cymru yn gofyn iddi wneud yr un peth eto a gadael llonydd inni.

Yn nyddiau'r Ymerodraeth Brydeinig gallai Cymro a oedd a digon o fynd ynddo gychwyn bywyd newydd ymhle bynnag yr oedd y faner Brydeinig yn cyhwfan, nid fel ffoadur nac fel ymfudwr, ond fel dinesydd o'r iawn ryw.

Tra'r oedd arweinwyr y tair plaid Brydeinig yn dod i'n haelwydydd sawl gwaith bob dydd, doedd dim sôn am Blaid Cymru o gwbl.

Dod ymlaen yn y byd oedd eu cymhelliad cryfaf: pawb drosto'i hun a'r Ymerodraeth Brydeinig dros bawb oedd piau hi.

Rhoddodd y Diwygiad fywyd newydd i'r hyn y gallwn ei alw yr olwg Brydeinig neu Frytanaidd ar hanes hefyd.

Eu braint a'u dyletswydd gyntaf oedd gwasanaethu ac amddiffyn y wladwriaeth a'r Ymerodraeth Brydeinig.

Tawelwch sydd wedi bod ym Mhrydain ers i'r grwp ganslou taith Brydeinig llynedd, ac ers hynny, mae Cerys wedi wynebu beirniadaeth yn y wasg am ei sylwadau am gyffuriau, a chyhuddiadau o ymddygiad rhagrithiol - yn bloeddio canu am ba mor ddi-enaid yw bywyd Llundain, ond eton cael ei sbotion gadael y Met Bar bondigrybwyll gydag amrywiaeth o ser.

Ddaru'r stori%wr ddim cynnig math o esboniad pam yr oedd ysbryd hollol Brydeinig, yn ôl pob golwg, yn cydgartrefu â theulu bach o Iraniaid, na chwaith pam roedd gwyrda o gred Foslemaidd, oedd yn credu mewn adenedigaeth, yn cymryd y fath ddiddordeb mewn ysbrydegaeth.

Delfryd Tom Ellis oedd sefydlu senedd i Gymru, ond dan gochl Rhyddfrydiaeth Brydeinig.

Mae'r archif sain unigryw hon o fywyd Cymru wedi'i hanfon i Gronfa Cof y Mileniwm yn y Llyfrgell Brydeinig.

Mae pobol wedi codi tipyn o firi am ddiffyg gofal yr Amgueddfa Brydeinig o'r cerrig Elgin a gipiwyd o Wlad Groeg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Yn naturiol fe fyddai peth rhegi ysgafn gan glercod yn chwilio am eiriadur a chan ferched teipio yn dysgu sbelio, ond y mae'r gwasanaeth sifil wedi hen ddysgu derbyn chwyldroadau yn yr Ymerodraeth Brydeinig yn rhan o'r drefn feunyddiol.

Daeth y Gymdeithas Brydeinig er Hyrwyddo Gwyddoniaeth i Gaerdydd i ddathlu Wythnos Wyddoniaeth eleni, ac, yn awyddus i roi'r pwnc o fewn cyrraedd pawb, dangosodd BBC Cymru Mad on Science, a gynhyrchwyd gan Cambrensis, a sicrhaodd brwdfrydedd heintus y cyflwynydd Gareth Jones gynulleidfa fawr i bwnc difrifol.

Os byth yr ewch i'r Amgueddfa Brydeinig yn Tring fe'i gwelwch wedi'i stwffio ar silff, a golwg digon hiraethus arno.

Dywedodd yr Israeliaid mai cyfrifoldeb y Gonswliaeth Brydeinig oedd darparu masg ar gyfer Siwsan; ond yn ôl y Gonswliaeth mater i'r Israeliaid ydoedd.

Swyddogaeth gwladwriaeth yw gwasanaethu'r genedl, fel y mae'r wladwriaeth Brydeinig yn gwasanaethu Lloegr, a thrwy hynny gryfhau a chyfoethogi ei bywyd cymdeithasol a thraddodiadol Yn amgylchiadau'r ugeinfed ganrif y mae bron yn amhosibl i genedl ymgynnal heb wladwriaeth i'w gwasanaethu; edwino a dirywio yw tynged pob cenedl ddi-wladwriaeth.

Ac unwaith eto roedd y Gonswliaeth Brydeinig yn amharod i gynnig unrhyw gymorth.

Pan gaiff Cymru a'r Alban safle cenedlaethol cyflawn bydd y wladwriaeth Brydeinig yn darfod amdani.

India a Pacistan yn eu llywodraethu eu hunain wedi 163 blynedd o reolaeth Brydeinig.

Un o weddillion pres tecaf Ceredigion yw'r darian gron, wyth modfedd ar hugain ar ei thraws, sydd yn yr Amgueddfa Brydeinig.

Dylid nodi bod y Prifathro a'r Brifathrawes wedi cynnig sylwadau penodol ar ddatblygu cwricwlwm yr ysgol gynradd, a bod ysgol un ohonynt wedi derbyn gwobr Brydeinig yn sgîl blaengarwch cwricwlwm yr ysgol.

Ni theimlai gymaint â hynny o golled ar ôl ei gyfeillion chwaith, hyd yn oed pan ddeallodd bod posibilrwydd y caent eu darganfod gan y fyddin Brydeinig.

A hyd yn oed yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, yn y flwyddyn 1952, yn Siarter y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig, er yr holl newid a fu yn agwedd a meddwl arweinwyr addysg a diwylliant, fe ofalwyd peidio ag enwi'r iaith Gymraeg yn gynneddf anhepgor ar reolwr a chadeirydd i Gymru.

Yr oedd gwneud y fath hawl, wrth gwrs, yn mynd at wreiddyn a sylfaen y berthynas rhwng Cymru a Lloegr, yn tanseilio'r berthynas honno, ac yn gosod i fyny deyrngarwch newydd yn lle'r teyrngarwch i'r wladwriaeth Brydeinig y disgwylid i bob Cymro, fel pob Sais, ei roddi a'i arddel yn rhinwedd ei ddinasyddiaeth.

Gwir fod y Gymdeithas Genedlaethol a'r Gymdeithas Brydeinig wrthi'n cystadlu'n egniol a'i gilydd i godi ysgolion ac i hyfforddi athrawon.

'Roedd y rhyfel am diriogaeth yn Ne Affrica rhwng y Boeriaid a'r Prydeinwyr yn ei anterth, a'r Ymerodraeth Brydeinig yn ei grym.

Nid yw'r Gymraeg yn iaith waharddedig ac y mae pob llywodraeth Brydeinig o leia'n rhoi rhyw ystum o gefnogaeth iddi.

Ymatebodd y Llywodraeth Brydeinig naill ai drwy reolau llym, er enghraifft ar lygru afonydd, neu drwy gynnig cytundebau i warchod naill ai ardaloedd arbennig - fel yn yr ESA neu i warchod adnoddau arbennig megis gwrychoedd, llynnoedd, coedwigoedd (e.e.

Daeth dwy arddangosfa i Ganolfan Gelf Chapter, Caerdydd - 'In Fusion' gan artistiaid o'r trydydd byd sydd wedi ymsefydlu yn Ewrop, a 'Shock to the System', yn trafod themâu cymdeithasol a pholiticaidd mewn celf Brydeinig ddiweddar.

Fel Prydeiniwr y gweithiai Wynford Vaughan Thomas, ac yn Saesneg ac i Gorfforaeth Brydeinig y gweithiai'r darlledwr Angus McDermid yn Affrica, er iddo unwaith ddefnyddio'r iaith Gymraeg i osgoi sensoriaid yn Nigeria.

Y mae yma wladwriaeth Brydeinig ond nid oes genedl Brydeinig.

'Ni bu neb chwerwach na mi yn y gorffennol,' ebe Gruffydd, 'yn condemnio rhai agweddau ar bolisi'r Ymerodraeth Brydeinig, ac ni ddymunwn dynnu sillaf yn ôl o'r hyn a ddywedais.

Hanner canrif ynghynt, roedd Evelyn Waugh wedi sgrifennu nofel gyfan, Scoop, yn rhoi pin yn swigen gohebyddion hunandybus yr Ymerodraeth Brydeinig.

Mae hefyd yn rhoi neges i fuddsoddwyr eraill, yn lleol, yn Brydeinig ac yn rhyngwladol.

Ers 1962, bu'r Gymdeithas yn ymgyrchu am gonsesiynau i'r iaith oddi wrth gynrychiolwyr y Llywodraeth Brydeinig yn Llundain ac yng Nghaerdydd.

Nid hap a damwain yw'r ffaith i gwmni Eingl-Gymreig o Aberystwyth gyrraedd prawf terfynol yr þyl Brydeinig un act am y tair blynedd diwethaf ac ennill ddwywaith yn olynol.

Yr Ymerodraeth Brydeinig yn ymestyn dros bumed rhan o diroedd y byd: 'Yr ymerodraeth nad yw'r haul yn machlud arni byth' (yn ôl cellwair y cyfnod: 'am na allai Duw ymddiried mewn Sais yn y tywyllwch'). Y Senedd yn cytuno i dalu pensiwn i'r henoed.

Dinesydd o Brydeiniwr yw pob Cymro fel deiliad o'r wladwriaeth Brydeinig.

Yr Ymerodraeth Brydeinig yn ymestyn dros bumed rhan o diroedd y byd: 'Yr ymerodraeth nad yw'r haul yn machlud arni byth' (yn ôl cellwair y cyfnod: 'am na allai Duw ymddiried mewn Sais yn y tywyllwch').