Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bryder

bryder

Mae uchel swyddogion y llywodraeth wedi rhybuddio fod y wlad yn dychwelwyd i'r cyflwr roedd ynddi yn ystod y ganrif ddiwethaf, ac mae hyd yn oed Fidel, yn ôl nifer o ffynonellau, wedi mynegi ei bryder am y dyfodol.

Gallai'r ysgub, meddai'r gwiddon fod yn 'beryglus yn y dwylo anghywir oherwydd y nerth sydd ynddi.' Ymddengys i'r helynt achosi cryn bryder i rai o drigolion y pentref a dywedir bod ambell un wedi mynd cyn belled â gosod y Beibl yn ffenestri eu cartrefi er mwyn dadwneud unrhyw niwed.

Mynegodd un arall o gaplaniaid y Methodistiaid Calfinaidd ei bryder fod y gagendor rhwng y milwr a'r Eglwys mor llydan fel na ellid ei bontio heb ddyfalbarhad ac amynedd mawr o'r ddeutu.

Yr oedd bob amser yn sgwrsiwr brwdfrydig - er mawr bryder i'r sawl oedd yn cael ei gludo yn ei gar!

Ar ran yr Ysgrifenyddiaeth mynegodd bryder fod y manylion cyllidol a gyflwynwyd i C.DDC yn anghyflawn ac anghywir a byddai'n anodd i geisio manylu ar y wybodaeth ymhellach.

Bu ffigurau cynulleidfaoedd teledu yn dda yn gyffredinol, gan adlewyrchu gallu cystadleuol cynnyrch BBC Cymru, a thra bo rhywfaint o bryder ynglyn â safle presennol BBC Radio Wales, mae arwyddion bod y penderfyniadau strategol, golygyddol a phroffesiynol cywir yn cael eu gwneud i adfywio'r orsaf.

Mae'r emynau'n cwmpasu holl gyfoeth y bywyd Cristionogol yn ei bryder a'i orfoledd, yn ei ofnau a'i sicrwydd, ei anawsterau a'i lwyddiannau, yr union bwnc y canodd mor dreiddgar amdano yn Theomemphus.

Roedd gwybod am ei berthynas ag Ifan Jones hefyd wedi ychwanegu at ei lawenydd ac at ei bryder.

Bu'r traffig trwm drwy'r pentref, yn enwedig yn yr haf yn bryder mawr i'r trigolion, ac yn beryglus iawn lawer tro.

Datganodd y Cynghorydd RJ Wright bryder ynglŷn â chyflwr y bont.

Mae'n werth dyfynnu'r paragraff hwn oherwydd mae'n dweud mwy am y gwir bryder ynglŷn ag addysg academaidd ac uwchradd nag y mae cyfeiriadau Iolo Caernarfon (er enghraifft) at y Cwrdd Misol yn haeru mai 'hunan a balchder oedd wrth wraidd' dymuniad Dr Owen Thomas i fynd i Brifysgol Edinburgh.

Ac y mae edrych tros droednodiadau gwerthfawr ei lyfr yn codi cwestiwn reit ogleisiol mewn perthynas â'i bryder y gall y traddodiad Cristionogol yng Nghymru fod yn tynnu ei draed ato.

Oedodd am funud cyn ei agor, ond erbyn hyn aeth ei bryder yn drech nag ef.

Mae'n fater o bryder mawr o gofio'r holl fynd a dod sydd i ysbyty mawr fel hwn.

Roedd yna bryder hefyd fod cynifer o'r pethau sy'n effeithio ar ein bywydau ni - er enghraifft y cyrff sy'n cynnig y gwasanaethau telgyfathrebu - i gyd yn cael eu rhedeg o Loegr.

Ei bryder ef a phawb arall mewn awdurdod yn yr Eglwys o glywed fod rhai o'r ffyddloniaid yn darllen yr Ysgrythurau oedd mai arwain at heresiau ac anuniongrededd a fyddai darllen a myfyrio'n breifat ar y Beibl heb gyfarwyddyd diwinyddion cymwys a phrofiadol.

Mwmial 'Bore da' yn eithaf clên a wnaeth y gŵr ifanc, a'r llall yn ateb trwy nodio'i ben 'Roedd Bob fel petai wedi deall rhywfaint o bryder Lisa.

Mi wna'i ngorau i gysgu heno,' meddyliodd, hwyrach y medraf ddianc oddi yma fory i chwilio am blisman yn rhywle.' O fewn dim 'roedd yn y gwely ac er ei holl bryder 'roedd Glyn Owen yn cysgu'n drwm.

Dylai fod yn destun rhywfaint o bryder i Lafur i wleidydd mor brofiadol gael ei daflu oddi ar ei echel mor hawdd.

Y mae cryn bryder yma ynglyn ag ymwelwyr o Brydain yn cyrraedd rhag ofn y bydd y clwy yn difetha'r economi.

Yn y rhifyn a gyhoeddwyd ar ddydd y cyfarfdo bu'r Cymro, o dan y pennawd 'Bwgan Costau'r Brifwyl', yn tynnu sylw at bryder cynnyddol.

Yr oedd wyneb Dei yn welw erbyn hyn a'i awydd i ymuno â'r criw wedi ei dymheru gan bryder gwirioneddol.

Roedd Gwenhwyfar yn synnu at bryder Medrawd, a'i benderfyniad i hela'r carcharorion coll.

Er enghraifft, mae prinder athrawon i addysgu Cymraeg a dysgu trwy gyfrwng yr iaith yn achosi cryn bryder ynglŷn â diogelu lle'r Gymraeg yn y cwricwlwm cenedlaethol.

Ychwanegodd Ffred Ffransis, fodd bynnag, fod gan y Gymdeithas ddau bryder difrifol:,br> 'Mae'r cynnig i sefydlu Cyngor Cenedlaethol ar gyfer Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru yn sylweddoliad ymgyrch deng mlynedd gan y Gymdeithas.

Nid rhyw Ffenics adeiniog o obaith ac ymroddiad, ffydd a phenderfyniad a gododd o lwch y tan yn Llŷn, ond iargyw o bryder ac ofn a thaeogrwydd di-asgwrn cefn.

Y mae'r Pwyllgor yn mynegi dau bryder cyffredinol yngln ag effaith y Papur Gwyn, a chynigion y Gweinidogion, ar ddatblygu addysg Gymraeg.

Ar yr un pryd, mae yna bryder y gallai gormod o drefniadau diogelwch wneud yr ysbytai'n oeraidd a di groeso.

Dylai hyn achosi ychydig o bryder, gan mai ychydig o bobl fyddai'n gallu delio gyda merch fel Sheryl yn eu bywydau bob dydd.

Mentro wnaeth y pedwar i'r gwersyll, a chael fod y gwersyll yn wag, gan weld fod holl bryder a dioddefaint y ddinas yn ddi-alw-amdano.

Yn hwyr neu hwyrach, byddai'n rhaid i bryder droi'n brotest.

Ac adnabum i ryw raddau bach yn yr awr honno, megis y profais eilwaith flynyddoedd yn ddiweddarach o dan law yr athronydd a'r seicolegydd, Dr David Phillips, (Coleg Diwinyddol y Bala) y cariad sy'n Dod at y truan ("Came where He was"), y cariad sy'n iachau'r meddwl oddi wrth chwerwedd ei bryder.

Mae'r stori'n creu gwahanol emosiynau - o gyffro cael mynd am bicnic i bryder wrth i Tedi fynd ar goll a gorfoledd pan fo'n dychwelyd yn ddiogel.