Pan ddaw'r glaw eto i yrru i lawr drwy'r bwlch, neu pan ddaw'r niwl drachefn i or-doi'r arlwy o brydferthwch sydd o'm cwmpas heddiw, fe'm hyrddir unwaith eto i bwll o iselder ac anobaith.
Y tu ôl i'r amrywiol wyddorau, y tu ôl i brydferthwch, y tu ôl i economeg, y tu ôl i'n perthnasau cymdeithasol a'n hymwybod â hanes, y mae'r gwreiddyn y tarddant i gyd ohono.
Enwi Penrhyn G^wyr yn Ardal Genedlaethol o Brydferthwch Neilltuol.
Ar fore o Fai gwelodd y bardd brydferthwch naturiol ein hamgylchedd a chyfeiriwyd yn hyfryd at 'emrallt astud y gwellt a'r lloi llonydd'. O weld 'ganhwyllbren y gastanwydden' cafwyd darlun rhyfeddol o lestri'r offeren yn ymbaratoi ar gyfer addoliad.
Yn y rhamantiaeth ddirywiedig hon yr oedd ysfa i fynd o'r tu arall heibio i fywyd bob dydd a throi at fyth, myth a oedd, chwedl yntau: wedi ei seilio ar apêl at y gorffennol neu at brydferthwch pell, afreal, negyddol.
Roedd y myfyrwyr yn uchel eu clod i olygfeydd Cymru ac wedi eu gwefreiddio gan brydferthwch Cwm Llynfi oedd ar ei orau yn heulwen yr haf.
A waeth heb a malu awyr am brydferthwch cwysi union gwŷdd main yn sgleinio yn yr haul, a siffrwd y gyllell drwy'r dywarchen, a rhugl y cwlltwr drwy'r pridd wrth i wedd o geffylau porthiannus ei dynnu, a'r certmon rhwng y cyrn yn ei ddal ag un troed yn y rhych ac un goes yn fwy na'r llall drwy'r dydd.