Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bryfoclyd

bryfoclyd

'Roedd y môr yn brochi'n uwch o funud i funud, a'r goleuadau trydan o'm cwmpas yn wincio'n bryfoclyd.

Mae ynddo gadernid caled sy'n hawdd ei adnabod, ond nid yw mor bryfoclyd rhywiol ag un Judi Dench nac mor amrywiol ei ansawdd a doniol ei botensial ag eiddo Maggie Smith.

'Dydw i ddim yn dweud.' 'Pwy sy'n dy licio di, 'ta?' 'Wn i ddim.' 'Pwy sy'n caru dy wallt hir tywyll ac yn ysu am gribinio ei fysedd drwyddo?...Bertie?' Chwarddodd Bigw yn bryfoclyd.

Gadewais iddo lifo drosof yn rhaeadrau, roedd yr haul mor ddisglair ac yn chwarae gyda ni yn bryfoclyd.

'Ti a dy gath!' atebodd Alun yn bryfoclyd, 'mi fasa'n well i ti gael ci fel Bob ni, maen nhw'n llawer callach na chathod.'

Tynnodd ei sgrafell dros esgob Bangor a'r deon am iddynt ofni cario croes ar bererindod i Ynys Enlli heb addewid o ymbare\l a bws a thywydd braf i groesi, gan of yn yn bryfoclyd, pa fath dywydd oedd hi tybed pan gariai Iesu ei groes real, drom, ar lethrau Calfaria.

Ar wahân i Ystorya Trystan, sydd yn bryfoclyd o fyr ac yn anodd ei ddyddio, y cwbl sydd gennym yw'r cyfeiriadau yn y Trioedd a chan y beirdd, cyfeiriadau sydd, oherwydd eu cyd-destun, yn anorfod yn gwta iawn, er eu bod yn awgrymu fod stori fanylach y tu ôl iddynt, stori a fyddai'n gyfarwydd i'r bardd a'i gynulleidfa.

Edwin Caebrynia oedd mor bryfoclyd a chawodydd amser cynhaeaf gwair.

Bu'r oedi yn gyfle i Cura a'r Côr ymarfer ambell i ddarn a rhannu ambell i jôc wrth iddo chwarae'n bryfoclyd â'r gynulleidfa.

Mae 'na waith peintio a phapuro iti,' meddai Mali yn bryfoclyd.