Y gosodiad pwysicaf yn y paragraff, fe ddichon, yw'r cymal sy'n dweud fod Arthur wedi ymladd yn erbyn y Saeson gyda brenhinoedd y Brytaniaid, ond mai ef oedd 'arweinydd y brwydrau' y dux bellorum.
Ac wele, tua'r adeg yr oedd y Pabydd Polydore Vergil yn ymosod ar Sieffre am balu ei chwedlau celwyddog am wreiddiau'r Brytaniaid, yr oedd rhai o flaenoriaid y Brotestaniaeth wrth-Rufeinig a fabwysiadwyd gan y Saeson yn bwrw iddi i ail-lunio hen hanes yr ynys hon, yn y fath fodd ag i ddangos fod yma, ym Mhrydain Fore, eglwys apostolaidd bur, eglwys gyn-babaidd ddi-lwgr.
Cytunai ef nad brenin oedd Arthur ond cadfridog yng ngwasanaeth brenhinoedd y Brytaniaid.
Ac er mai cenedl sy'n dioddef brad ac ymosod arni yw cenedl y Brytaniaid, eto ceir digon o ogoniannau Brytanaidd yn yr hanes i swcro balchder y Cymry.