Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

buan

buan

Buan y darfyddodd y ddarpariaeth yma - ac yna rhaid oedd iddo gystadlu am ei einioes.

Wedi hynny fodd bynnag buan iawn yr adferwyd ffydd pawb wrth i Gymru fynd yn ddi-guro am flwyddyn gyfan ac wyth gêm.

Ond buan iawn y ce's i un yn ôl arno fo.

Datblygodd hi i fod yn un o golofnau'r pwyllgor a buan iawn y daeth yn gadeirydd.

Ond buan iawn y bu'n rhaid tynnu pob label pan ddeallwyd na chyflwynasai Ward Williams y siec i'r banc.

Buan iawn y daw arwyddion perygl i'r amlwg, ond ymddengys Gwenan druan yn ddall i'r cyfan.

Er bod peth gwrthwynebiad iddynt ar y dechrau ymhlith yr Hen Ymneilltuwyr, buan y gorchfygwyd y rhagfarnau a daeth yr ysgol Sul yn rhyfeddol o boblogaidd ymhob rhan o Gymru.

A buan y gwelais fod cynhyrchion y Thinker is Library yn fwy awgrymog na holl ddyfroedd Israel.

Ond mae hi'n ras fawr, a buan y dychwel y rhew a'r eira a bydd yn rhaid i'r adar droi am le cynhesach i dreulio'r Gaeaf.

Ond buan iawn yr ymysgydwodd o'r dynged honno, ac yn bennaf dan ddylanwad O.

Rwy'n cofio i griw ohonom, bechgyn ysgol gan fwyaf, dyrru i'w wrando un nos Sul, a buan iawn y sylweddolodd yr hen wag fod croeso iddo amlygu ei arabedd, ac i fynd rhyw flewyn bach dros ben llestri hyd yn oed.

Ond yn y gorffennol, buan yr adferid y cytgord rhyngddynt ac fe â'i pawb ymlaen â'i fasnachu fel cynt!

Credaf eu bod yn cael eu geni i'r byd yn yr un modd â phawb arall, ond buan iawn y gwelir nad ydynt yn hollol fel plant eraill.

Anghydffurfwyr pybyr oedd y rhan fwyaf o'r ymfudwyr o Gymru, a buan yr aeth y gwahanol enwadau ati i godi capeli a fyddai'n ganolfannau i'w gweithgareddau.

Deuai dyddiau crablyd setlo i lawr a byw yn ddiflas lwydaidd i'w ran yn ddigon buan.

Ond pan mae'n disgyn i'n rhan ni, y dynion, buan iawn y clywir grwgnach.

buan doed y benodedig awr I'm gollwng ymaith a bod eto'n un A hi'r fyth-gannaid, fyth-fendigaid fun...

Fodd bynnag, buan y daethpwyd i helaethu gofynion manwl y ddeddf a hawlio fod pob defnydd cyhoeddus o'r Gymraeg i'w ochel.

Dymunwn iddi adferiad llwyr a buan ac estynnwn iddi ac i Mrs Sally Lewis, chwaer Mr Jenkins ein cydymdeimlad llwyraf.

'Capelulo' oedd enw ty ei dad am ei fod yn debyg i dy o'r un enw yn Nwygyfylchi, a buan iawn y bedyddiwyd y bachgen yn Twm Capelulo gan bobl y dref.

Pan gyrhaeddson nhw, buan y gwelodd Sandra nad oedd pethau mor syml ag yr oedd wedi tybio.

Mae tri o'r pedwar hanes yn perthyn i oes a fu; yng Nghymru'r 1920au, ond buan iawn y daw hi'n amlwg mai yr un oedd ffaeleddau pobl yr adeg honno â ninnau heddiw.

Gwelodd y grwpiau athrawon a oedd yn gwbl ddibynnol ar eu hadnoddau eu hunain (i drefnu dyddiadau a mannau cyfarfod, dyblygu a dosbarthu cofnodion cyfarfodydd, meysydd llafur a phrofion drafft, etc.) yn eithaf buan ei bod yn amhosibl iddynt barhau.

Buan iawn hefyd y gwelwyd ugain o glybiau yn Sir Gaernarfon.

Buan y daeth y cyfreithwyr, y gweinyddwyr a'r dosbarthiadau breiniol i ystyried siarad Cymraeg mewn cylchoedd swyddogol fel her i awdurdod y ddeddf ac felly fel bygythiad i awdurdod y wladwriaeth.

Ar y naill law mae'n gofyn hyder a mentro buan; ar y llaw arall mae'n gofyn pwyll a chyfrwystra arbennig wrth gloriannu'r camau priodol i'w dilyn.

Fel llenor, yr oedd yn unigryw yn ei chyfnod a buan iawn y sicrhaodd sylw ac edmygedd cenedlaethol gyda chefnogaeth gwyr amlwg fel yr Athro W.

Y peth gorau bob tro yw cysylltu â'r meddyg yn ddigon buan.

Ac wrth gwrs, roedd golwg ofnadwy ar stafell fwyta'r palas ond buan iawn y daeth y lle i drefn hefo dŵr a sebon a llyfiad o baent.

Fy nehongliad i o'r bradychiad a'r dienyddiad (os caf roi fy nghasgliadau'n foel, heb ymhelaethu dim yma) yw i Jwdas Isgariot benderfynu traddodi Iesu i ddwylo'r awdurdodau yn y gobaith y byddai terfysg yn codi yn y ddinas o'i blaid ac y byddai'r rhyfel mesianaidd yn dilyn; i'r terfysg ddyfod o dan arweiniad Barabas a'i drechu'n ddigon buan gan filwyr Pilat; i Iesu wrthod yn y brawdlys a cherbron y dyrfa arddel y fesianaeth filwrol a'r deyrnas ddaearol wedi ei seilio ar rym arfau; ac i'r gwrthodiad hwn beri siom chwerw i'r bobl.

Petai'r haul yn sydyn yn ffrwydro, buasai'n planed ni yn dywyll fel y fagddu wyth munud yn ddiweddarach, a buan iawn y byddai'r tir a'r mor yn oeri.

A buan y daeth y brotest yn erbyn honiadau totalitaraidd y method gwyddonol.

Buan y daeth yn amlwg fod Edwin yn fyfyriwr o alluoedd uwchraddol.

Ond o blith cynllunwyr y theatr Gymraeg, mae un yn sicr yn adeiladu gyrfa lewyrchus iddo'i hun yng Nghymru a thros y ffin; a phetai unrhyw un yn meddwl am 'gynllunydd' fel rhyw fath o 'interior designer' wedi colli ei ffordd, buan y byddai sgwrs gydag Eryl Ellis yn ei ddarbwyllo fel arall.

Os cymerir y creadur o'r ewyn buan iawn y sycha, crebachu a marw.

Pan gyflwynodd y Rhufeiniaid y llysieuyn i Brydain, buan iawn daeth yn boblogaidd i wneud gwin.

Ond buan iawn y canfyddwyd y llwybr gwreiddiol, ond roedd gwthio'r casgenni ar ei hyd yn llawer caletach gorchwyl nag oedd hi ar hyd y llwybr arall.

Rydym yn anfon eich dymuniadau gorau ato ac yn dymuno gwellhad buan iddo.

Fodd bynnag, buan yr hoeliwyd sylw'r llywodraeth a'r prif bleidiau gwleidyddol ar y drafodaeth ynghylch y ddeddf fewnfudo newydd y bwriedid ei phasio.

Llwyddodd i berswadio Cassie i adael iddi ddod i fyw i'r Deri Arms a buan iawn y dechreuodd hi fynd ar nerfau Teg.

Fedrwn ni ond gobeithio y bydd cerddoriaeth o'r fath yn cyrraedd y siopau'n eithaf buan ond, yn y cyfamser, fe fydd Gang Bangor yn ei chwarae byth a beunydd, a does gennym ni ddim bwriad ymddiheuro am hynny.

Er hynny, buan mae'r drymiau a'r gitars yn tarfu, gan gyfleu'r gwahaniaeth rhwng yr ochr angylaidd a'r agweddau mwy sinistr sydd i fywyd.

Buan y daethom i glyw bwrlwm afieithus y mân raeadrau wrth groesi'r bont tu cefn i Fwthyn Ogwen.

Yn yr un modd, pan fo gallt ar i lawr, newidiwch yn ddigon buan.Cofiwch y byddwch angen llawer iawn rhagor o le wrth basio car arall.

'Roedd Rhian yn casáu Emma oherwydd y cyhuddiad yn erbyn Reg ond buan y daeth y ddwy'n ffrindiau wrth iddynt geisio gwahanu Reg a Diane.

Dymunwn adferiad buan iddo, ac hefyd i Mrs Mary Jones, Hill Side ar ol damwain.

"Dyna'r anrheg Nadolig orau fedrai neb ei rhoi i'r dref yma." "Mae'n ddigon buan," oedd ateb Marie, yr un mor ddistaw.

Dychwelodd Dic yn 1987 wedi gwneud digon o arian i ddechrau ei fusnes sgipiau ei hun a buan y cyflogodd ei hen ffrind, Denzil.

Yna, un bore ym mis Rhagfyr, daeth llythyr i'w swyddfa i'w hysbysu y byddai'r Llys Apêl, ar gais yr Ysgrifennydd Cartref, yn rhoi ystyriaeth buan i apêl Lewis.

Buan y rhuthrodd y dŵr i mewn i'r tyllau, ac mewn chwinciad roeddwn at fy nghanol yn y llyn a'm traed yn suddo i'r haen drwchus o fwd ar y gwaelod.

Williams Parry, ser 'Y ddôl a aeth o'r golwg': Buan y'n dysgodd bywyd Athrawiaeth llanw a thrai: Rhyngom a'r ddôl ddihalog Daeth chwydfa'r Gloddfa Glai.

Ond buan iawn yr oeddent yn mynd gam ymhellach ac yn defnyddio'r iaith ymerodrol fel cyfrwng i danseilio'r diwylliant lleiafrif.

Trotiodd Barnabas a Ned drwy'r cyfan yn ddidaro, a buan iawn roedd gþr a gwraig Brynmawr yr ochr draw i'r bont fawr ar eu ffordd i'r Hengwrt.

Dymunwn wellhad llwyr a buan i'r ddwy.

Buan iawn y sylweddolodd Denzil a Maureen eu bod wedi priodi am y rheswm anghywir, sef i roi cartre i Gwen, merch Gina, a gadawyd Denzil ar ei ben ei hun unwaith eto ym mis Gorffennaf 1999 pan adawodd Maureen ef.

Buan y gwelwyd mai camgymeriad oedd hynny.

Er bod y gwersyll mewn ardal goediog braf, a bod yna gyfleusterau chwaraeon pur foethus gerllaw, buan y gwelsom nad ar gyfer pobl gyffredin Prâg yr oedd y rhain.

Dymunwn adferiad buan iddi.

Gyda pawb, fwy neu lai, ym Mhantycelyn yn prynu copi, heb sôn am fyfyrwyr eraill, buan iawn y cawsant yr arian yr oeddent wedi'i wario yn ôl.

Mynnent bwyso ar eu cynulleidfaoedd i wneud penderfyniad buan.