Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

buasem

buasem

Pe buasem wedi bod â'n meddwl yn fwy effro yr adeg hwnnw fe fuasem wedi cofnodi yr hyn a gymerodd le a'r hyn a welsom ac a glywsom, ond y mae peth esgus dros beidio â gwneud, a hwnnw ydyw: yr oeddym yn rhy brysur yn clodfori ac yn canu, a gweddi%o, a rhyfeddu.

Erbyn inni ddychwelyd i'r fan y buasem yn holi ynghylch diogelwch y twnnel, yr oedd un o'r ffermwyr ieuainc, a ddywedasai wrthyf ei fod wedi prynu pedair erw a hanner o'r trac, yn trafod picwarch ryw ganllath oddi wrthym a gwaeddais arno'r cwestiwn pa ddefnydd y bwriadai ei wneud o'r llain hirgul a brynasai.

Ni ddywedodd Dafydd hynny wrthyf ac ni ddywedais innau wrtho ef; ond gwyddwn ein bod ein dau fel pe buasem o hyd yn disgwyl i Abel ddyfod i mewn.

byddai ganddo ryw stori newydd bob amser am y mynvddoedd, a phethau na buasem byth yn meddwl amdanjnt.

Pe dywedem na buasai gwneud pob ysgrifennydd cyffredinol a fu i'r Brifwyl yn farchog ar ddiwedd wythnos gyntaf Awst yn ddigon o anrhydedd iddo ni buasem yn dweud gormod.'

BYW MEWN DYLED Y mis diwethaf fe addawyd y buasem yn rhoi sylw i gwestiwn arall gan un o ddarllenwyr Tafod Elai y tro hwn, ac fel mae'n digwydd, fe welwch ei fod yn un hynod o amserol a pherthnasol: Annwyl Syr, Clywais fod Cyngor Taf Elai wedi penodi swyddog datblygu Undebau Credyd.