Roedd Pwal wedi dod i Fodwigiad i dalu'r ail ran o'r arian oedd yn ddyledus am y buchod a brynasai yr hydref cynt.
'Byddai mam, wedyn, wyddost, yn hel y buchod i'r llyn, ac yno byddent yn cicio'r mwd o'r gwaelod.
Ennyd hamddenol a hyfryd yw honno yn y beudy pan ollyngir y buchod o'u haerwyon.
Sgriblo pentwr o lythyrau, symud gwartheg a defaid i gaeau ffres a chasglu'r buchod sydd agosaf at eni lloi i'r cae ger y buarth.
Yna, byddai'n lluchio cynfasau a dillad isa' a phethau felly i'r llyn a rhoi powdwr golchi yn y dŵr, fel bydd y merched 'ma 'te, a gweiddi ar Eliasar y ci o'r tŷ.' 'Rwan 'roedd eisiau profi callineb Eliasar trwy ddweud bod y buchod ymhell i ffwrdd.
Agorodd y giât a gweiddi ar y buchod.
'Byddai mam yn dweud, "Buchod, Eliasar".
(A chaed disgrifiad wedyn o daith y ci i nôl y buchod).
Roedd o'n 'nabod 'stumia buchod cyflo i'r dim.