Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

budd

budd

Mi fyddai cynnydd yn y pensiwn a rhoi mwy o arian ar gyfer budd-dal incwm yn gwneud i fyny am beth fydden nhw'n golli, meddai.

Mae wedi'i gynllunio i'ch cynorthwyo chi, a'ch ysgol neu eich coleg, i gael y budd mwyaf o'r cynllun.

Does dim budd na pharhad i'w ddisgwyl o'r fath ymdeithio.

Arthur, ebr ef, oedd yr olaf o'r Rhufeiniaid ym Mhrydain, neu o leiaf o'r Brythoniaid i ddeall syniadau Rhufeinig ac i'w defnyddio er budd i'w bobl ei hun.

Gwrthod caniatâd i'r cynghorwr gobeithiol a wnaeth y Pwyllgor Gwaith; yr oedd y rhan fwyaf o'r aelodau'n pallu credu na ddeuai'r cynghorau i wybod mai oddi wrth y Blaid y daethai'r cynllun, ac felly tybient fod cystal i'r Blaid fynnu clod cyhoeddus am gyflwyno cynllun pwrpasol, er na ddeuai dim budd o'r cyflwyno.

Fodd bynnag, y gobaith yw y bydd nifer o Reolwyr eraill - o'r rhengoedd isaf mewn sefydliadau mawr i reolwyr/berchnogion yn y cwmnïau lleiaf - yn cael budd o'r gwefan.

Cafodd budd llawn y buddsoddiad ychwanegol o £6 miliwn a wnaed gan y BBC yng Nghymru, yng ngoleuni datganoli, ei weld a'i glywed ar draws pob un o'i wasanaethau.

Trafodwch y ddyletswydd foesol sydd arnom i gadw harddwch naturiol y blaned a chynnal ei hadnoddau fel y gall cenedlaethau'r dyfodol eu mwynhau a chael budd ohonynt.

Gall yr Ysbryd Glân roi i'r unigolyn y profiad o fod mewn ystad o berlewyg prid a phrofiad yn ogystal o'r glossolalia, ond nid oes fawr o werth mewn profiadau felly os na fydd Eglwys Crist yn cael budd ohonynt.

Gwrandwch, a chofnodwch, - mae'n bur debyg y byddwch yn chwarae rhan allweddol yn natblygiad llên gwerin ein cenedl, er budd yr oesoedd a ddêl!

Mewn ymerodraethau heb genedl lywodraethol gref, datblygodd y gyfundrefn addysg er budd y cenhedloedd bychain.

Budd-daliadau eraill

Budd-daliadau Tai

Ei gyfraniad mawr i lywodraeth yr Eisteddfod oedd ei allu i edrych ar broblem o sawl cyfeiriad, o safbwynt ariannol, o safbwynt trefniadol, ac o safbwynt celfyddydol, ac arwain ei gydgynghorwyr yn y diwedd at benderfyniad y byddai'r budd mwyaf ohono yn deillio i'r eisteddfodwr cyffredin.

Mae Clerc y Cyngor, Mr George Gibbs, yn gweld budd mawr i'r datblygiad ar yr amod fod y Cyngor yn cael cynnig safle fyddai'n addas i gynnwys cae pel-droed a thrac rhedeg, clwb cymdeithasol a digon o le i barcio.

Enid Rowlands, i annerch yr aelodau ynglyn a gweithgareddau TARGED a'r budd o ymaelodi a'r corff hwnnw.

Ond mae'n ymddangos bod sawl un hyderus yn byw yng Nghwmderi gan bod digon o'r cymeriadau'n fodlon diosg eu dillad er budd eu busnes.

Dylai'r Cynulliad fynnu'r hawl i reoli'r farchnad dai ac eiddo yng Nghymru er budd cymunedau Cymru.

Diau fod yn hyn awgrym o'r anesmwythyd cyfoes fod twrnameintiau, wrth dyfu'n achlysuron cymdeithasol arddangosiadol, yn colli peth o'r budd a ddeilliai

'Rwyn credu y bydd seiciatryddion, yn enwedig seicdreiddwyr, ac yn fwyaf arbennig rhai Jungaidd, yn siŵr o gael budd o ddarllen y llyfr yma, a'r chwedl wreiddiol.

Cynhaliwyd gala elusennol hefyd er budd apêl yr Ysbyty Plant yng Nghymru ym mis Ionawr 2000.

Mae'n golygu bod popeth yn cael ei reoli yn lleol er budd pobl leol. Drwy ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith mae'r nod yna yn gyffredin - Deddf Eiddo, system addysg annibynnol, Deddf iaith o werth - felly dydi'n galwadau yn ddim byd newydd.

Cafodd budd llawn y buddsoddiad ychwanegol o £6 miliwn a wnaed gan y BBC yng Nghymru, yng ngoleuni datganoli, ei weld ai glywed ar draws pob un o'i wasanaethau.

Ni ddaeth dim budd o'r cyflwyno, ac mae'n debyg fod y Rhyfel wedi rhoi'r caead ar y sôn arbennig hwnnw am ad-drefnu trydan; ond mae'n werth adrodd yr hanes er mwyn pwysleisio fod arweinwyr y Blaid yn methu sylweddol mor anwybodus oedd crynswth pobl Cymru, a'r cynghorwyr lleol yn eu plith, am y Blaid.

Mae'n wir y gallasai cydweithrediad cynghorau sir Gogledd Cymru fod wedi codi trefn well er budd i'w broydd chwarter canrif yn gynt.

Mae'n golygu mai'r rheswm dros y penderfyniadau hynny fyddai budd cymunedau Cymru, nid y status quo presennol.

Does 'na ddim smic mewn theatr os ydy'r gynulleidfa'n mwynhau eu hunain - ond os nad ydyn nhw, mae nhw'n rhyw wingo yn eu seddau ac yn pesychu,' ac er ei bod yn cael budd mawr o drafod yr amrywiol gymeriadau y mae'r cyfarwyddwr yn eu hanfon ei ffordd hi gyda'i chyd-actorion, aiff Judith yn ôl at ei greddfau ei hun er mwyn mynd dan groen y cymeriad.

Yn ail hanner y ganrif ddiwethaf meddai ar ddigon o allu i osod cyfundrefn addysg orfodol gwbl Saesneg ar y wlad; a phan ecsploetiwyd adnoddau naturiol a dynol Cymru yn ddidostur gofalai mai Llundain a Lloegr a gai'r budd.

Wrth edrych yn ôl, bach iawn hyd yn gymharol ddiweddar oedd y newidiadau o flwyddyn i flwyddyn yn y Gyllideb: ac y mae'n annhebyg felly fod y rheiny wedi dylanwadu ryw lawer y naill ffordd neu'r llall ar gwrs yr economi, yn arbennig o gofio am y sefydlogrwydd cynhenid sy'n deillio o system trethiant esgynraddol, budd-daliadau diwaith, a sefydlogyddion tebyg.