Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bugail

bugail

Defnyddio chwarel lechi Manod (Cwt-y-Bugail) yng Ngwynedd i gadw darluniau o'r Oriel Genedlaethol ac Oriel y Tate rhag cael eu dinistrio.

Eleni cynhaliwyd Seiat pryd y cafwyd myfyrdodau bendithiol iawn ar y geiriau "Myfi yw y ffordd"; "y bugail da%; "bara'r bywyd;" "yr Atgyfodiad a'r bywyd" a "goleuni'r byd" yng nghwmni'r Parchedigion Emrys Thomas, S.

Canodd i'r bugail fel gwerinwr syml.

Aeth y bugail a'r cŵn ati'n orffwyll i gasglu'r defaid yngh d.

Ac eto onid i Lety'r Bugail yr ai hi weithiau gyda'r hwyr ar ol gorffen gorchwylion, i freuddwydio?

Bugail oedd Ivan ac roedd ef, ei ddiadell a'i gŵn sawl milltir o'u gwersyll.

Cadwai Achilles draw o'r frwydr am na châi'r gaethferch groenwen; dug y bugail bradwrus Helen dros y môr gwineuddu i gartrefi Pergamos, a gorfu iddo, am ei weithred, gnoi'r pridd a llychwino ei lywethau godinebus yn y llwch; bwriodd ymerawdwyr ymaith eu teyrnwiail a'u coronau, esgobion eu hesgobaethau a dynion eu clod, eu cyfoeth a'u rhinweddau er mwyn cael syllu ar yr wyneb "a fedrai ddwyn eilwaith yn ôl i'r byd eilun-addoli%.

Tyddyn gwag ar dir ei thad, yn uwch i fyny'r mynydd, oedd Llety'r Bugail.

Symbol y cyfeillgarwch a'r malu yw'r cwt bugail a adeiledir yn llythrennol ar lwyfan a'i falu drachefn.

Wrth ei godi'n ofalus roedden nhw'n synnu ac yn llawenhau pan riddfannodd y bugail a rhwbio ei lygaid.

Gwyddai'r bugail yn dda am y boen o weld praidd newynog yn chwilio am borthiant a heb ei gael; gwyddai hefyd na chaent eu porthi oni ellid darparu ar eu cyfer yr Ysgrythur yn eu hiaith eu hun.

b) Y syniad offeiriadol am ddiymadferthedd dyn yn wyneb pechod, ac felly'r angen am i Dduw fynd allan i chwilio am y pechadur sydd heb edifarhau, fel yr â'r bugail i'r anialwch i geisio'r un ddafad golledig;

Yno hefyd yr oedd ei mam Jane Roberts, ynghyd a Laura Edwards y forwyn a phedwar yn lletya, sef: Harry Hornsby, o Leamington oedd yn gweithio yn y banc; Thomas Evans o Landdwyn, bugail; Alun ac Aneurin Lloyd o Lanelwy, un yn dwrne a'r llall yn y banc.

Oni bai am ei ddawn adrodd stori byddai pawb ohonom yn ei gasa/ u ac eithrio f'ewythr Vavasor, oedd yn rhoi pris uchel ar ei waith fel bugail, ac nid oedd ei well am dewhau bustych, gwyddai i'r dim pryd i'w symud i'r tir pori gorau.

Gwir y gair, roedd pawb yn perthyn i bawb, ond ches i ddim munud o drafferth, chwarae teg John Jones, Bron Aber, wedyn, y bugail, a phencampwr y treialon cŵn defaid, ynte'n dweud - 'Pobl y mynydd ydyn ni' roedd hynny'n berffaith wir, ond doedd dim o oerfel y mynydd yn perthyn iddyn nhw chwaith - cynhesrwydd ges i ar bob llaw.

Fe ddylai'r lobelia, ffwsia, Begonia semperflorens a mynawyd y bugail fod yn tyfu'n dda yn eu potiau tair modfedd.

Yn ystod y mis, gall y garddwr baratoi'r pridd ar gyfer y planhigion sydd i'w plannu allan mewn borderi a gwelyau megis y blodau unflwydd fel mynawyd y bugail ac ati.

Mewn un angladd wrth ddarllen Salm y Bugail, fel hyn y traethodd y doctor: 'le, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau, nid ofnaf newid' (Pan dery angau, un wedd ar y brofedigaeth yw'r newid sy'n digwydd i'r holl dŷ mewn cegin a pharlwr a llofft, newid sy'n syfrdanu.) Ni wn ai o fwriad ai trwy ddamwain y rhoes y meddyg dro mor annisgwyl i'r gair, ond roedd ei glywed yn gynhyrfus o newydd: 'Nid ofnaf newid.' Roedd Doctor Jones yn ŵr pur grefyddol ei natur, ac ar ambell Sul byddai'n pregethu hwnt ac yma yn eglwysi'r fro.

Byddem yn gwisgo tyweli a chrysau a "dressing gowns" (er bod rhein yn llawer prinnach y pryd hynny); byddem yn benthyca ffyn bugail ac yn gwneud coronau o gardbord.

ochr yn ochr â'r chwarelwr, y bugail a'r Gymraes rinweddol fel un o gymeriadau stoc y llenyddiaeth gyfundrefnol a grewyd yn Oes Victoria," meddai.

Canolbwyntia ein meddyliau ar ein Harglwydd Iesu Grist, ein Bugail Da, arloeswr a pherffeithydd ein ffydd, canys yn ei haeddiannau Ef y deisyfwn hyn i gyd.

O leia, roedd mwy o gomisiynau'n dod i'w rhan erbyn hyn nag y gallent obeithio eu cyflenwi, byth er pan fu newyddiadurwyr 'Tŷ a Gardd' o Gaerdydd yn tynnu lluniau o Lety'r Bugail ar gyfer tudalennau'r cylchgrawn dethol hwnnw.

Awdl sy'n cydymdeimlo â gwerin Cymru yn ei thlodi a'i dioddefaint yw hon, ac mae hi yn yr un traddodiad ag awdl anfuddugol Eifion Wyn ym 1900, 'Y Bugail', 'Gwerin Cymru', Crwys, ac awdl foliant Gwilym R. Tilsley i'r glêwr.

Fy nefaid a grwydrasant ar hyd yr holl fynyddoedd, ac ar bob bryn uchel: ie, gwasgarwyd fy mhraidd ar hyd holl wyneb y ddaear, ac nid oedd a'u ceisiai, nac a ymofynnai amdanynt' Yng nghefndir yr adnodau hyn y mae deall holl gyfeiriadau'r Iesu at y genedl fel defaid heb fugail ac ato'i hun fel bugail a darewir a Bugail Da.

Pan oeddem ar grwydr fel defaid mewn anialwch, daeth y Bugail Da i'n ceisio.

Ni chryfhasoch y rhai llesg, ac ni feddyginiaethasoch y glaf, ni rwymasoch ddrylliedig chwaith, a'r gyfeiliornus ni ddygasoch adref, a'r golledig ni cheisiasoch; eithr llywodraethasoch hwynt â thrais ac â chreulondeb A hwy a wasgarwyd o eisiau bugail: a buant yn ymborth i holl fwystfilod y maes, pan wasgarwyd hwynt.

A chyn pen nos roedd Llety'r Bugail wedi ei werthu i'r estron, a edmygodd y lle oherwydd yr olygfa eang o'i ffenestri ac a chwenychodd y lle fel gwrthrych i'r arbrofion pensaerniol.

'Yr oedd cant namyn un o'r praidd mewn hedd/Dan ofal y bugail o hyd...'

Dyna'r lle y gwelir ar ei anterth gyfuniad o'r elfennau gwahanol yng ngwaith Davies fel esgob, sef, y gwladweinydd, y bugail, a'r ysgolhaig.