Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bunnoedd

bunnoedd

Heb wybod hon (neu amrywiad arni) gellid gwastraffu cannoedd o filoedd o bunnoedd bellach.

Gall dadlau fel hyn am bris siwt neu soffa godi cywilydd arnoch chi weithiau, os yr ydych yn digwydd bod efo fo, ond dros y blynyddoedd arbedodd bunnoedd i mi wrth fargeinio drosof.

Roedd rhywun wedi dwyn gwerth miloedd o bunnoedd o bethau o siop gemydd yn y dref acw, ac wedi saethu'r gemydd wrth wneud hynny.'

Y Llywodraeth yn cychwyn y 'Valley Initiative' ar gost o wyth gan miliwn o bunnoedd.

O dan yr holl hwyl roedd pwrpas i'r diwrnod, codi miliynau o bunnoedd i elusennau trwy Gymru a gweddill Prydain fel y gallai miloedd o blant elwa.

Gwariodd ugeiniau o bunnoedd ar feddygon, ond bu flynyddoedd heb dderbyn nemawr wellhad; ac ni wellhaodd byth yn hollol, er ei fod ers llawer o amser yn gwbl ddi-boen.

Mewn termau amrwd, ac y mae gwleidyddiaeth yn fater amrwd weithiau, y mae ymreolaeth yn golygu trosglwyddo rheolaeth dros fantolen flynyddol o tua biliwn o bunnoedd; nid rhyw fanion pitw yr ydym yn eu ceisio!

Roeddan nhw wedi ca'l gwerth cannoedd o bunnoedd o ddôsus.

roedd amryw o gyfeillion henry richard yn ei edmygu'n fawr am ei waith a'i safiad dros heddwch parhaol a byd-eang, ac fel arwydd o'u hedmygedd derbyniodd rodd o bymtheg cant o bunnoedd, ynghyd â beibl.

Roedd gan y ddau ddau gant a hanner o bunnoedd yr un yn llosgi yn eu pocedi ac roedden nhw wedi trefnu i brynu'r milgi cyn cyrraedd adref.

Ar yr un pryd, mae ysbytai ar hyd a lled Cymru'n gwario degau o filoedd o bunnoedd ar drefniadau diogelwch, o dagiau i'w clymu am goesau'r babanod i gamerâu a drysau diogelwch.

'Mae yna werth miloedd o bunnoedd fan hyn.'

Parhânt hyd heddiw i gefnogi'r polisi o wario miloedd o filiynau o bunnoedd y flwyddyn ar arfau rhyfel i gynnal bri Prydain tra'n mynnu na ellir fforddio'r ganfed ran i amddiffyn iaith a diwylliant Cymru.