Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

buom

buom

Ers dros dwy flynedd buom yn casglu enwau ar ddeiseb fawr dros Ddeddf Iaith Newydd -- dewch i Gaerdydd i'w chyflwyno i'r Cynulliad ac i ddangos cefnogaeth i'r galwad.

'Roedd yn ffordd dda - yn llawer gwell na'r rhai y buom arnynt hyd yma.

Buom yn osgoi llygaid ein gilydd drwy'r bore.

Buom yn cerdded am tua milltir yn eu dilyn ar hyd y Broadway - yn gofyn ambell gwestiwn i un a'r llall, ac yn gweled y derbyniad cynnes a roddid iddynt gan y New Yorkiaid ar eu taith drwy eu dinas tua'u cartref.

Buom yn blasu'r dafodiaith yng nghwmni Dr Gwen Aubrey a'r Parchg Caradoc Evans Fe ddaeth y Prifardd Meirion Evans, Y Prifardd Robert Powell a'r Athro Hywel Teifi Edwards ynghyd â Grwp Offerynnol Ysgol Ystalyfera i gyflwyno'r Celfyddydau inni.

Mewn un mosg yng nghanol Tripoli, buom yn ffilmio rhesi o blant yn ceisio efelychu'r gamp.

Buom yn disgwyl am tua deng munud ond tra'n disgwyl daeth nifer o yrwyr tacsi atom i ofyn os oedd angen un arnom.

Yr oeddem yma i gael ein cosbi, ac ni buom yn yn hir cyn sylweddoli y byddai'n rhaid inni fagu penderfyniad cryf os oeddem am ddod allan o'r lle hwn yn fyw Un ffordd i'n cosbi oedd rhoi llai o reis inni a'n gorfodi i fyw ar ddau bryd y dydd.

Buom yn aros yma am amser, heb yn wir fod yna unrhyw reswm amlwg dros hyn, oni bai bod y milwyr ar y ffin yn disgwyl i ragor o geir ddod i'r golwg.

Yn ôl un rheolwr banc y buom ni'n siarad ag ef, mae'n rhyfeddol cynifer o bobl sy'n troi at y banc heb wybod beth yw eu hymrwymiadau na faint y gallan nhw fforddio mewn taliadau.

Er hynny, buom yno am rhyw fis, ac rwyf yn dal i ddychwelyd i'r Dwyrain Canol yn gyson, ac yn cael derbyniad gwresog iawn yno.

Ac yno y buom am bum mis.

Buom yn lwcus i gael sedd mewn compartment ac roedd dwy ferch olygus o'r Llynges gyferbyn â ni.

Buom yn trafod ac yn darllen llyfrau ac yn ymgynghori yn faith, a Mr Roberts Thomas yn cynnig ei sylwadau ac yn helpu i astudio'r llyfrau.

(Buom erioed yn dair ieithog yn y Rhos).

Rhaid bwyta bwyd maethlon hefyd, oherwydd treuliad bwyd sy'n creu'r ynni i ddatblygu'r gwres mewnol y buom yn sôn amdano.

Buom yno ar ein penau'n hunain am ryw chwarter awr yn mynd drwy'r peth ac yna fe ysgrifennais y frawddeg yn y dull ffonetig iddi a'i gadael efo hi.

Buom yn ddiffygiol yn ein gofal amdanynt ac yn ein tystiolaeth iddynt.

Buom at y Maen Du bob dydd tra parodd y Storm ar ei gwaetha'; mynd gyda gofal a pharch mawr, heb ryfygu dim...

Buom yn falch o'n canu cynulleidfaol.

Ac yno y buom yn ei gwarchod ar hyd y nos hirfaith honno.

Newidiodd y chwaraewr o Gastell-nedd ei safle a mynd yn brop a buom yn uned effeithiol am dair blynedd nes iddo raddio.

Yno y buom ein tri yn aros am yn agos i awr, oherwydd bod rhibidires hir o bobl o'n blaenau, a phob un ohonynt a llond col (a throli) o ddanteithion gorllewinol - neu'n hytrach ddanteithion dwyreiniol, gan mai dim ond enwau Hitachi, Sony a Toshiba oedd i'w gweld ar bob llaw.

A dyna lle y buom yn ceisio cael gwared o'r dwr drwy dorri sianeli bychain trwy'r domen laid.

Ac ni buom yno'n hir cyn i mi ganfod mai felly y dychwelem adref oni ddigwyddai gwyrth.

Buom wrthi am fisoedd yn paratoi ar gyfer yr achlysur arbennig hwn, a than y fath amgylchiadau yr oedd yn wyrthiol inni lwyddo i wneud cymaint.

Ymhen amser wedyn y cefais wybod hyn ond nid ydym wedi cyfarfod ers hynny; digon prin y buasai'r un ohonom yn adnabod ein gilydd yn awr am mai byr iawn oedd yr amser y buom yng nghwmni'n gilydd ond eto, mae'r cyfan yn fyw yn y cof.

Buom yn aros yn Siem Reap, y pentref nesaf at yr adfeilion hyn er mwyn inni gael dau ddiwrnod i fynd i weld y deyrnas ryfeddol.

Buom cyn hynny yn fodlon ar stori%au byrion.

Buom yn tin droi yn y fan honno gan golli'r awyren gyntaf, ond roeddem yn y maes awyr mewn da bryd i ddal yr un nesaf am unarddeg o'r gloch.

Buom ynddi y llynedd fel gwahoddedigion y Llywydd, sef fy ewythr, R.

Wedi dyddiau coleg buom mewn cysylltiad am rai blynyddoedd gan y byddain dod i Wersyll yr Urdd Glanllyn.

Buom yn disgwyl dridiau.

Yn achos Ysgolion Uwchradd (Y Llyffant) yr oedd pawb wedi gweld y deunydd, medden nhw, ond yr oedd cryn ddryswch yngln â pha ddeunydd yn union oedd dan sylw; cafwyd un yn holi Buom yn trafod "Pobol Y Cwm"...

Yn yr Eisteddfod buom yn gwrando ar y ddarlith wyddonol, 'Newid Natur', ac Ymryson y Beirdd gyda De Ceredigion, Caerfyrddin a Chaernarfon yn cystadlu.